Mathew 19
19
A.D. 33. —
2 Crist yn iacháu y cleifion: 3 yn ateb y Phariseaid am ysgariad: 10 yn dangos pa bryd y mae priodas yn angenrheidiol: 13 yn derbyn plant bychain: 16 yn dysgu i’r gŵr ieuanc y modd i gael bywyd tragwyddol, 20 ac i fod yn berffaith: 23 yn dywedyd i’w ddisgyblion mor anodd ydyw i’r goludog fyned i mewn i deyrnas Dduw; 27 ac yn addo gwobr i’r sawl a ymadawant â dim er mwyn ei ganlyn ef.
1A bu, #Marc 10:1pan orffennodd yr Iesu yr ymadroddion hyn, efe a ymadawodd o Galilea, ac a ddaeth i derfynau Jwdea, tu hwnt i’r Iorddonen: 2#Pen 12:15A thorfeydd lawer a’i canlynasant ef; ac efe a’u hiachaodd hwynt yno.
3A daeth y Phariseaid ato, gan ei demtio, a dywedyd wrtho, Ai #19:3 rhydd.cyfreithlon i ŵr ysgar â’i wraig am bob achos? 4Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch, #Gen 1:27; 5:2; Mal 2:15i’r hwn a’u gwnaeth o’r dechrau, eu gwneuthur hwy yn wryw a benyw? 5Ac efe a ddywedodd, #Gen 2:24; Marc 10:5–9; Eff 5:31Oblegid hyn y gad dyn dad a mam, ac y glŷn wrth ei wraig: #1 Cor 6:16; 7:2a’r ddau fyddant yn un cnawd. 6Oherwydd paham, nid ydynt mwy yn ddau, ond yn un cnawd. Y peth gan hynny a gysylltodd Duw, nac ysgared dyn. 7Hwythau a ddywedasant wrtho, #Deut 24:1; Mat 5:31Paham gan hynny y gorchmynnodd Moses roddi llythyr ysgar, a’i gollwng hi ymaith? 8Yntau a ddywedodd wrthynt, Moses, #19:8 am galedrwydd.oherwydd caledrwydd eich calonnau, a oddefodd i chwi ysgar â’ch gwragedd: eithr o’r dechrau nid felly yr oedd. 9#Pen 5:32; Marc 10:11; Luc 16:18; 1 Cor 7:10, 11Ac meddaf i chwi, Pwy bynnag a ysgaro â’i wraig, ond am odineb, ac a briodo un arall, y mae efe yn torri priodas: ac y mae’r hwn a briodo’r hon a ysgarwyd, yn torri priodas.
10Dywedodd ei ddisgyblion wrtho, Os felly y mae’r achos rhwng gŵr a gwraig, nid da gwreica. 11Ac efe a ddywedodd wrthynt, #1 Cor 7:2, 7, 9, 17Nid yw pawb yn derbyn y gair hwn, ond y rhai y rhoddwyd iddynt. 12Canys y mae eunuchiaid a aned felly o groth eu mam; ac y mae eunuchiaid a wnaed gan ddynion yn eunuchiaid; ac #1 Cor 7:32, 34; 9:5, 15y mae eunuchiaid a’u gwnaethant eu hun yn eunuchiaid er mwyn teyrnas nefoedd. Y neb a ddichon ei dderbyn, derbynied.
13 #
Marc 10:13; Luc 18:15 Yna y dygwyd ato blant bychain, fel y rhoddai ei ddwylo arnynt, ac y gweddïai: a’r disgyblion a’u ceryddodd hwynt. 14A’r Iesu a ddywedodd, Gadewch i blant bychain, ac na waherddwch iddynt ddyfod ataf fi: canys #Pen 18:3eiddo’r cyfryw rai yw teyrnas nefoedd. 15Ac wedi iddo roddi ei ddwylo arnynt, efe a aeth ymaith oddi yno.
16 #
Marc 10:17; Luc 18:18 Ac wele, un a ddaeth, ac a ddywedodd wrtho, #Luc 10:25Athro da, pa beth da a wnaf, fel y caffwyf fywyd tragwyddol? 17Yntau a ddywedodd wrtho, Paham y gelwi fi yn dda? nid da neb ond un, sef Duw: ond os ewyllysi fyned i mewn i’r bywyd, cadw’r gorchmynion. 18Efe a ddywedodd wrtho yntau, Pa rai? A’r Iesu a ddywedodd, #Exod 20:13; Deut 5:17Na ladd, Na odineba, Na ladrata, Na ddwg gamdystiolaeth, 19#Pen 15:4Anrhydedda dy dad a’th fam, a #Lef 19:18; Pen 22:39; Rhuf 13:9; Gal 5:14; Iago 2:8Châr dy gymydog fel ti dy hun. 20Y gŵr ieuanc a ddywedodd wrtho, Mi a gedwais y rhai hyn oll o’m hieuenctid: beth sydd yn eisiau i mi eto? 21Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Os ewyllysi fod yn berffaith, #Pen 6:20; Luc 12:33; 16:9; 1 Tim 6:18, 19dos, gwerth yr hyn sydd gennyt, a dyro i’r tlodion; a thi a gei drysor yn y nef: a thyred, canlyn fi. 22A phan glybu’r gŵr ieuanc yr ymadrodd, efe a aeth i ffordd yn drist: canys yr oedd yn berchen da lawer.
23Yna y dywedodd yr Iesu wrth ei ddisgyblion, Yn wir y dywedaf i chwi, mai yn anodd yr â #Marc 10:23; 1 Tim 6:9, 10goludog i mewn i deyrnas nefoedd. 24A thrachefn meddaf i chwi, Haws yw i gamel fyned trwy grau’r nodwydd ddur, nag i oludog fyned i mewn i deyrnas Dduw. 25A phan glybu ei ddisgyblion ef hyn, synnu a wnaethant yn ddirfawr, gan ddywedyd, Pwy gan hynny a all fod yn gadwedig? 26A’r Iesu a edrychodd arnynt, ac a ddywedodd wrthynt, Gyda dynion amhosibl yw hyn; ond #Jer 32:17; Sech 8:6; Luc 1:37; 18:27gyda Duw pob peth sydd bosibl.
27 #
Marc 10:28; Luc 18:28 Yna Pedr a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Wele, #Pen 4:20; Luc 5:11nyni a adawsom bob peth, ac a’th ganlynasom di: beth gan hynny a fydd i ni? 28A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, y cewch chwi, y rhai a’m canlynasoch i, yn yr adenedigaeth, pan eisteddo Mab y dyn ar orsedd ei ogoniant, #Pen 20:21; Luc 22:28, 29, 30; 1 Cor 6:2, 3; Dat 2:26eistedd chwithau ar ddeuddeg gorsedd, yn barnu deuddeg llwyth Israel. 29A phob un a’r a adawodd dai neu frodyr, neu chwiorydd, neu dad, neu fam, neu wraig, neu blant, neu diroedd, er mwyn fy enw i, a dderbyn y can cymaint, a bywyd tragwyddol a etifedda efe. 30#Pen 20:16; Marc 10:31; Luc 13:30Ond llawer o’r rhai blaenaf a fyddant yn olaf, a’r rhai olaf yn flaenaf.
Currently Selected:
Mathew 19: BWM1955C
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society