Mathew 15
15
A.D. 32. —
3 Crist yn argyhoeddi yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid, am dorri gorchmynion Duw trwy eu traddodiadau eu hunain 11 yn dysgu nad yw y peth sydd yn myned i mewn i’r genau yn halogi dyn: 21 yn iacháu merch y wraig o Ganaan, 30 a thorfeydd eraill lawer: 32 ac â saith torth, ac ychydig bysgod bychain, yn porthi pedair mil o wŷr, heblaw gwragedd a phlant.
1Yna yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid, y rhai oedd o Jerwsalem, #Marc 7:1a ddaethant at yr Iesu, gan ddywedyd, 2Paham y mae dy ddisgyblion di yn troseddu traddodiad yr hynafiaid? canys nid ydynt yn golchi eu dwylo pan fwytaont fara. 3Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, A phaham yr ydych chwi yn troseddu gorchymyn Duw trwy eich traddodiad chwi? 4Canys Duw a orchmynnodd, gan ddywedyd, #Exod 20:12; Deut 5:16; Eff 6:2Anrhydedda dy dad a’th fam: #Exod 21:17; Lef 20:9; Diar 20:20a’r hwn a felltithio dad neu fam, lladder ef yn farw. 5Eithr yr ydych chwi yn dywedyd, Pwy bynnag a ddywedo wrth ei dad neu ei fam, #Marc 7:11, 12Rhodd yw pa beth bynnag y ceit les oddi wrthyf fi, ac nid anrhydeddo ei dad neu ei fam, difai fydd. 6Ac fel hyn y gwnaethoch orchymyn Duw yn ddirym trwy eich traddodiad eich hun. 7#Marc 7:6O ragrithwyr, da y proffwydodd #15:7 Eseia.Eseias amdanoch chwi, gan ddywedyd, 8#Esa 29:13; Esec 33:31Nesáu y mae’r bobl hyn ataf â’u genau, a’m hanrhydeddu â’u gwefusau; a’u calon sydd bell oddi wrthyf. 9Eithr yn ofer y’m hanrhydeddant i, #Col 2:18–22gan ddysgu gorchmynion dynion yn ddysgeidiaeth.
10 #
Marc 7:14
Ac wedi iddo alw y dyrfa ato, efe a ddywedodd wrthynt, Clywch, a deellwch. 11#Act 10:15; Rhuf 14:17, 20; Titus 1:15Nid yr hyn sydd yn myned i mewn i’r genau, sydd yn halogi dyn; ond yr hyn sydd yn dyfod allan o’r genau, hynny sydd yn halogi dyn. 12Yna y daeth ei ddisgyblion ato, ac a ddywedasant wrtho, A wyddost ti ymrwystro o’r Phariseaid wrth glywed yr ymadrodd hwn? 13Ac yntau a atebodd ac a ddywedodd, #Ioan 15:2Pob planhigyn yr hwn nis plannodd fy Nhad nefol, a ddiwreiddir. 14Gadewch iddynt: #Pen 23:16; Luc 6:39tywysogion deillion i’r deillion ydynt. Ac os y dall a dywys y dall, y ddau a syrthiant yn y ffos. 15#Marc 7:17A Phedr a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Eglura i ni’r ddameg hon. 16A dywedodd yr Iesu, #Pen 16:9A ydych chwithau eto heb ddeall? 17Onid ydych chwi yn deall eto, fod #1 Cor 6:13yr hyn oll sydd yn myned i mewn i’r genau, yn cilio i’r bola, ac y bwrir ef allan i’r geudy? 18Eithr #Iago 3:6y pethau a ddeuant allan o’r genau, sydd yn dyfod allan o’r galon; a’r pethau hynny a halogant ddyn. 19#Gen 6:5; 8:21; Diar 6:14; Jer 17:9Canys o’r galon y mae meddyliau drwg yn dyfod allan, lladdiadau, torpriodasau, godinebau, lladradau, camdystiolaethau, cablau: 20Dyma’r pethau sydd yn halogi dyn: eithr bwyta â dwylo heb olchi, ni haloga ddyn.
21 #
Marc 7:24
A’r Iesu a aeth oddi yno, ac a giliodd i dueddau Tyrus a Sidon. 22Ac wele, gwraig o Ganaan a ddaeth o’r parthau hynny, ac a lefodd, gan ddywedyd wrtho, Trugarha wrthyf, O Arglwydd, Fab Dafydd: y mae fy merch yn ddrwg ei hwyl gan gythraul. 23Eithr nid atebodd efe iddi un gair. A daeth ei ddisgyblion ato, ac a atolygasant iddo, gan ddywedyd, Gollwng hi ymaith; canys y mae hi yn llefain ar ein hôl. 24Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, #Pen 10:5, 6; Act 13:46; Rhuf 15:8Ni’m danfonwyd i ond at ddefaid colledig tŷ Israel. 25Ond hi a ddaeth, ac a’i haddolodd ef, gan ddywedyd, Arglwydd, cymorth fi. 26Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Nid da cymryd bara’r plant, a’i fwrw i’r cŵn. 27Hithau a ddywedodd, Gwir yw, Arglwydd: canys y mae’r cŵn yn bwyta o’r briwsion sydd yn syrthio oddi ar fwrdd eu harglwyddi. 28Yna yr atebodd yr Iesu, ac a ddywedodd wrthi, Ha wraig, mawr yw dy ffydd: bydded i ti fel yr wyt yn ewyllysio. A’i merch a iachawyd o’r awr honno allan.
29 #
Marc 7:31
A’r Iesu a aeth oddi yno, ac a ddaeth gerllaw môr Galilea; ac a esgynnodd i’r mynydd, ac a eisteddodd yno. 30A daeth ato dorfeydd lawer, a chanddynt gyda hwynt #Esa 35:5, 6; Pen 11:5 Luc 7:22gloffion, deillion, mudion, anafusion, ac eraill lawer: a hwy a’u bwriasant i lawr wrth draed yr Iesu, ac efe a’u hiachaodd hwynt: 31Fel y rhyfeddodd y torfeydd, wrth weled y mudion yn llefaru, y rhai anafus yn iach, y cloffion yn rhodio, a’r deillion yn gweled: a hwy a ogoneddasant Dduw Israel.
32 #
Marc 5:1
A galwodd yr Iesu ei ddisgyblion ato, ac a ddywedodd, Yr ydwyf yn tosturio wrth y dyrfa; canys y maent yn aros gyda mi dridiau weithian, ac nid oes ganddynt ddim i’w fwyta: ac nid ydwyf yn ewyllysio eu gollwng hwynt ymaith ar eu cythlwng, rhag eu llewygu ar y ffordd. 33A’i ddisgyblion a ddywedent wrtho, O ba le y caem ni gymaint o fara yn y diffeithwch, fel y digonid tyrfa gymaint? 34A’r Iesu a ddywedai wrthynt, Pa sawl torth sydd gennych? A hwy a ddywedasant, Saith, ac ychydig bysgod bychain. 35Ac efe a orchmynnodd i’r torfeydd eistedd ar y ddaear. 36A #Pen 14:19chan gymryd y saith dorth, a’r pysgod, a #1 Sam 9:13; Luc 22:19diolch, efe a’u torrodd, ac a’u rhoddodd i’w ddisgyblion, a’r disgyblion i’r dyrfa. 37A hwy oll a fwytasant, ac a gawsant eu digon; ac a godasant o’r briwfwyd oedd yng ngweddill, saith fasgedaid yn llawn. 38A’r rhai a fwytasant oedd bedair mil o wŷr, heblaw gwragedd a phlant. 39#Marc 8:10Ac wedi iddo ollwng y torfeydd ymaith, efe a aeth i long, ac a ddaeth i barthau Magdala.
Currently Selected:
Mathew 15: BWM1955C
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society