YouVersion Logo
Search Icon

Malachi 4

4
1 Barn Duw ar yr anwir, 2 a’i fendith ar y daionus. 4 Y mae yn eu hannog i fyfyrio ar y gyfraith; 5 ac yn adrodd iddynt ddyfodiad a swydd Eleias.
1Canys wele y dydd yn dyfod, yn llosgi megis ffwrn; a’r holl feilchion, a holl weithredwyr anwiredd, a fyddant #Obad 18sofl: a’r dydd sydd yn dyfod a’u llysg hwynt, medd Arglwydd y lluoedd, fel #Amos 2:9na adawo iddynt na gwreiddyn na changen.
2Ond #Luc 1:78; Eff 5:14; 2 Pedr 1:19; Dat 2:28Haul cyfiawnder a gyfyd i chwi, y rhai ydych yn ofni fy enw, â meddyginiaeth yn ei esgyll; a chwi a ewch allan, ac a gynyddwch megis lloi pasgedig. 3A chwi a fethrwch yr annuwiolion; canys byddant yn lludw dan wadnau eich traed chwi, yn y dydd y gwnelwyf hyn, medd Arglwydd y lluoedd.
4Cofiwch #Exod 20:3gyfraith Moses fy ngwas, yr hon a orchmynnais iddo ef #Deut 4:10yn Horeb i holl Israel, #Salm 147:19y deddfau a’r barnedigaethau.
5Wele, mi a anfonaf i chwi #Mat 11:14; 17:11; Marc 9:11; Luc 1:17Eleias y proffwyd, cyn dyfod dydd mawr ac ofnadwy yr Arglwydd: 6Ac #Sech 5:3efe a dry galon y tadau at y plant, a chalon y plant at eu tadau; rhag i mi ddyfod a tharo y ddaear â melltith.
TERFYN Y PROFFWYDI

Currently Selected:

Malachi 4: BWM1955C

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in