YouVersion Logo
Search Icon

Lefiticus 9

9
1 Yr offrymau cyntaf a offrymodd Aaron drosto ei hun a’r bobl. 8 Y pech‐offrwm, 12 a’r poeth‐offrwm drosto ei hun. 15 Yr offrymau dros y bobl. 23 Moses ac Aaron yn bendithio y bobl. 24 Tân yn dyfod oddi wrth yr Arglwydd ar yr allor.
1Yna y bu, ar yr wythfed dydd, i Moses alw Aaron a’i feibion, a henuriaid Israel; 2Ac efe a ddywedodd wrth Aaron, #Pen 4:3Cymer i ti lo ieuanc yn aberth dros bechod, a hwrdd yn boethoffrwm, o rai perffaith‐gwbl, a dwg hwy gerbron yr Arglwydd. 3Llefarodd hefyd wrth feibion Israel, gan ddywedyd, #Pen 4:23; Esra 6:17Cymerwch fyn gafr, yn aberth dros bechod; a llo, ac oen, blwyddiaid, perffaith‐gwbl, yn boethoffrwm; 4Ac eidion, a hwrdd, yn aberth hedd, i aberthu gerbron yr Arglwydd; a bwyd‐offrwm wedi ei gymysgu trwy olew: oherwydd #ad. 23heddiw yr ymddengys yr Arglwydd i chwi.
5A dygasant yr hyn a orchmynnodd Moses gerbron pabell y cyfarfod: a’r holl gynulleidfa a ddaethant yn agos, ac a safasant gerbron yr Arglwydd. 6A dywedodd Moses, Dyma’r peth a orchmynnodd yr Arglwydd i chwi ei wneuthur; ac ymddengys gogoniant yr Arglwydd i chwi. 7Dywedodd Moses hefyd wrth Aaron, Dos at yr allor, ac #Heb 5:3; 7:27; 9:7abertha dy aberth dros bechod a’th boethoffrwm, a gwna gymod drosot dy hun, a thros y bobl; ac abertha offrwm y bobl, a gwna gymod drostynt; fel y gorchmynnodd yr Arglwydd.
8Yna y nesaodd Aaron at yr allor, ac a laddodd lo yr aberth dros bechod, yr hwn oedd drosto ef ei hun. 9A meibion Aaron a ddygasant y gwaed ato: ac efe a wlychodd ei fys yn y gwaed, ac #Edrych Pen 4:7a’i gosododd ar gyrn yr allor, ac a dywalltodd y gwaed arall wrth waelod yr allor. 10Ond efe a losgodd ar yr allor o’r aberth dros bechod y gwêr a’r arennau, a’r rhwyden oddi ar yr afu; fel #Pen 4:8y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses. 11#Pen 4:11A’r cig a’r croen a losgodd efe yn tân, o’r tu allan i’r gwersyll. 12Ac efe a laddodd y poethoffrwm: a meibion Aaron a ddygasant y gwaed ato; ac efe a’i taenellodd ar yr allor o amgylch. 13A dygasant y poethoffrwm ato, gyda’i ddarnau, a’i ben hefyd; ac efe a’u llosgodd hwynt ar yr allor. 14Ac efe a olchodd y perfedd a’r traed, ac a’u llosgodd hwynt ynghyd â’r offrwm poeth ar yr allor.
15Hefyd efe a ddug offrwm y bobl; ac a gymerodd fwch yr aberth dros bechod y bobl, ac a’i lladdodd, ac a’i hoffrymodd dros bechod, fel y cyntaf. 16Ac efe a ddug y poethoffrwm, ac a’i hoffrymodd #Pen 1:3, 10yn ôl y #9:16 Neu, ordinhad.ddefod. 17Ac efe a ddug #Pen 2:1, 2y bwyd‐offrwm: ac a lanwodd ei law ohono, ac a’i llosgodd ar yr allor, #Exod 29:38heblaw poethoffrwm y bore. 18Ac efe a laddodd y bustach a’r hwrdd, #Pen 3:1yn aberth hedd, yr hwn oedd dros y bobl: a meibion Aaron a ddygasant y gwaed ato; ac efe a’i taenellodd ar yr allor o amgylch. 19Dygasant hefyd wêr y bustach a’r hwrdd, y gloren, a’r weren fol, a’r arennau, a’r rhwyden oddi ar yr afu. 20A gosodasant y gwêr ar y parwydennau; ac efe a losgodd y gwêr ar yr allor. 21Y parwydennau hefyd, a’r ysgwyddog ddeau, a gyhwfanodd Aaron #Exod 29:24, 28; Pen 7:34yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd; fel y gorchmynnodd Moses. 22A chododd Aaron ei law tuag at y bobl, ac #Num 6:23a’u bendithiodd; ac a ddaeth i waered o wneuthur yr aberth dros bechod, a’r poethoffrwm, a’r ebyrth hedd. 23A Moses ac Aaron a aethant i babell y cyfarfod; a daethant allan, ac a fendithiasant y bobl: a gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd i’r holl bobl. 24A #Gen 4:4; Barn 6:21; 1 Bren 18:38daeth tân allan oddi gerbron yr Arglwydd, ac a ysodd y poethoffrwm, a’r gwêr, ar yr allor: a gwelodd yr holl bobl; a gwaeddasant, a chwympasant ar eu hwynebau.

Currently Selected:

Lefiticus 9: BWM1955C

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in