YouVersion Logo
Search Icon

Lefiticus 4

4
1 Aberthau dros bechod, 3 a wnelai yr offeiriad, 13 neu yr holl gynulleidfa, 22 neu y pennaeth, 27 neu y bobl, mewn anwybod.
1Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd, 2Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, #Num 15:22Pan becho dyn mewn anwybod yn erbyn yr un o orchmynion yr Arglwydd, a gwneuthur yn erbyn un ohonynt y pethau ni ddylid eu gwneuthur: 3Os offeiriad eneiniog a becha yn ôl pechod y bobl; offrymed, dros ei bechod a wnaeth, #Pen 9:2fustach ieuanc perffaith‐gwbl, yn aberth dros bechod i’r Arglwydd. 4A dyged y bustach i ddrws pabell y cyfarfod, gerbron yr Arglwydd, a gosoded ei law ar ben y bustach, a lladded y bustach gerbron yr Arglwydd. 5A #Pen 16:14; Num 19:4chymered yr offeiriad eneiniog o waed y bustach, a dyged ef i babell y cyfarfod. 6A throched yr offeiriad ei fys yn y gwaed, a thaenelled o’r gwaed gerbron yr Arglwydd seithwaith, o flaen gwahanlen y cysegr. 7A gosoded yr offeiriad beth o’r gwaed gerbron yr Arglwydd ar gyrn allor yr arogl‐darth peraidd, yr hon sydd ym mhabell y cyfarfod; a thywallted #Pen 5:9holl waed arall y bustach wrth droed allor y poethoffrwm, yr hon sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod. 8A thynned holl wêr bustach yr aberth dros bechod oddi wrtho; y weren fol, a’r holl wêr fyddo ar y perfedd; 9A’r ddwy aren, a’r gwêr a fyddo arnynt, hyd y tenewyn, a’r rhwyden oddi ar yr afu, a dynn efe ymaith, ynghyd â’r arennau; 10#Pen 3:3Megis y tynnodd o fustach yr aberth hedd: a llosged yr offeiriad hwynt ar allor y poethoffrwm. 11#Exod 29:14; Num 19:5Ond croen y bustach, a’i holl gig, ynghyd â’i ben, a’i draed, a’i berfedd, a’i fiswail, 12A’r holl fustach hefyd, a ddwg efe allan i’r tu allan i’r gwersyll, i le glân, #Pen 6:11wrth dywalltfa’r lludw; ac #Heb 13:11a’i llysg ar goed yn tân; wrth dywalltfa’r lludw y llosgir ef.
13Ac #Num 15:24os holl gynulleidfa Israel a becha mewn anwybod, #Pen 5:2, 3, 4a’r peth yn guddiedig o olwg y gynulleidfa, a gwneuthur ohonynt yn erbyn yr un o orchmynion yr Arglwydd, ddim o’r hyn ni ddylid eu gwneuthur, a myned yn euog: 14Pan wypir y pechod y pechasant ynddo; yna offrymed y gynulleidfa fustach ieuanc dros y pechod, a dygant ef o flaen pabell y cyfarfod. 15A gosoded henuriaid y gynulleidfa eu dwylo ar ben y bustach gerbron yr Arglwydd, a lladdant y bustach gerbron yr Arglwydd. 16A dyged yr offeiriad eneiniog o waed y bustach i babell y cyfarfod. 17A throched yr offeiriad ei fys yn y gwaed, a thaenelled gerbron yr Arglwydd seithwaith, o flaen y wahanlen. 18A gosoded o’r gwaed ar gyrn yr allor sydd gerbron yr Arglwydd, sef yr hon sydd ym mhabell y cyfarfod; a thywallted yr holl waed arall wrth waelod allor y poethoffrwm, yr hon sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod. 19A thynned ei holl wêr allan ohono, a llosged ar yr allor. 20A gwnaed i’r bustach hwn megis y gwnaeth #ad. 3i fustach y pech‐aberth; felly gwnaed iddo: a’r offeiriad a wna gymod drostynt; ac fe a faddeuir iddynt. 21A dyged y bustach allan i’r tu allan i’r gwersyll, a llosged ef fel y llosgodd y bustach cyntaf. Dyma aberth dros bechod y gynulleidfa.
22Os pecha pennaeth, a gwneuthur mewn anwybod yn erbyn yr un o orchmynion yr Arglwydd ei Dduw, ddim o’r hyn ni ddylid eu gwneuthur, a bod yn euog; 23Neu os daw i wybod ei fai yr hwn a wnaeth: dyged ei offrwm o lwdn gafr gwryw perffaith‐gwbl. 24A gosoded ei law ar ben y llwdn, a lladded ef yn y lle y lleddir y poethoffrwm, gerbron yr Arglwydd. Dyma aberth dros bechod. 25A chymered yr offeiriad o waed yr aberth dros bechod â’i fys, a gosoded ar gyrn allor y poethoffrwm, a thywallted ei waed ef wrth waelod allor y poethoffrwm. 26A llosged ei holl wêr ar yr allor, fel #Pen 3:5gwêr yr aberth hedd: a gwnaed yr offeiriad gymod drosto am ei bechod; a maddeuir iddo.
27Ac #Num 15:27os pecha #4:27 Heb. un enaid.neb #4:27 o’r gwerin.o bobl y wlad mewn anwybod, gan wneuthur yn erbyn yr un o orchmynion yr Arglwydd, ddim o’r pethau ni ddylid eu gwneuthur, a bod yn euog; 28Neu os ei bechod yr hwn a bechodd a ddaw i’w wybodaeth ef: yna dyged ei offrwm o lwdn gafr fenyw berffaith‐gwbl dros ei bechod a bechodd efe. 29A gosoded ei law ar ben yr aberth dros bechod, a lladded yr aberth dros bechod yn y lle y lleddir y poethoffrwm. 30A chymered yr offeiriad o’i gwaed hi â’i fys, a rhodded ar gyrn allor y poethoffrwm, a thywallted ei holl waed hi wrth waelod yr allor. 31A #Pen 3:14thynned ei holl wêr hi, #Pen 3:3fel y tynnir y gwêr oddi ar yr aberth hedd; a llosged yr offeiriad ef ar yr allor, #Exod 29:18yn arogl peraidd i’r Arglwydd: a gwnaed yr offeiriad gymod drosto; a maddeuir iddo. 32Ac os dwg efe ei offrwm dros bechod o oen, dyged hi yn fenyw berffaith‐gwbl. 33A gosoded ei law ar ben yr aberth dros bechod, a lladded hi dros bechod yn y lle y lleddir y poethoffrwm. 34A chymered yr offeiriad â’i fys o waed yr aberth dros bechod, a gosoded ar gyrn allor y poethoffrwm, a thywallted ei holl waed hi wrth waelod yr allor. 35A thynned ei holl wêr hi, fel y tynnir gwêr oen yr aberth hedd; a llosged yr offeiriad hwynt ar yr allor, #Pen 3:5fel aberth tanllyd i’r Arglwydd: a gwnaed yr offeiriad gymod drosto am ei bechod yr hwn a bechodd; a maddeuir iddo.

Currently Selected:

Lefiticus 4: BWM1955C

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in