YouVersion Logo
Search Icon

Lefiticus 2

2
1 Y bwyd‐offrwm tanllyd gydag olew ac arogl‐darth; 4 naill ai wedi ei bobi mewn ffwrn, 5 ai ar radell, 7 ai mewn padell ffrio: 12 neu o’r blaenffrwyth yn y dywysen. 13 Halen y bwyd‐offrwm.
1Pan offrymo dyn #Pen 6:14; 9:17; Num 15:4fwyd‐offrwm i’r Arglwydd, bydded ei offrwm ef o beilliaid; a thywallted olew arno, a rhodded thus arno. 2A dyged ef at feibion Aaron, yr offeiriaid: a chymered efe oddi yno lonaid ei law o’i beilliaid, ac o’i olew, ynghyd â’i holl thus; a llosged yr offeiriad ei goffadwriaeth ar yr allor, yn offrwm tanllyd o arogl peraidd i’r Arglwydd. 3A bydded #Pen 7:6; 10:12gweddill y bwyd‐offrwm i Aaron ac i’w feibion: #Num 18:9sancteiddbeth o danllyd offrymau yr Arglwydd ydyw.
4Hefyd pan offrymech fwyd‐offrwm, wedi ei bobi mewn ffwrn, teisen beilliaid groyw, wedi ei chymysgu trwy olew, neu afrllad croyw wedi eu heneinio ag olew, a fydd.
5Ond os bwyd‐offrwm ar radell fydd dy offrwm di, bydded o beilliaid wedi ei gymysgu yn groyw trwy olew. 6Tor ef yn ddarnau, a thywallt arno olew; bwyd‐offrwm yw.
7Ac os bwyd‐offrwm padell fydd dy offrwm, gwneler o beilliaid trwy olew. 8A dwg i’r Arglwydd y bwyd‐offrwm, yr hwn a wneir o’r rhai hyn: ac wedi y dyger at yr offeiriad, dyged yntau ef at yr allor. 9A choded yr offeiriad ei #ad. 2goffadwriaeth o’r bwyd‐offrwm, a llosged ef ar yr allor; #Exod 29:18yn offrwm tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd. 10A bydded i Aaron ac i’w feibion weddill y bwyd‐offrwm: sancteiddbeth o danllyd offrymau yr Arglwydd ydyw. 11Na wneler #Edrych Mat 16:12; Marc 8:15; Luc 12:1; 1 Cor 5:8; Gal 5:9yn lefeinllyd ddim bwyd‐offrwm a offrymoch i’r Arglwydd; canys dim surdoes, na mêl, ni losgwch yn offrwm tanllyd i’r Arglwydd.
12Offrymwch i’r Arglwydd offrwm y blaenffrwyth; ond na #2:12 Heb. ddyrchafer.losger hwynt ar yr allor yn arogl peraidd. 13#Marc 9:49Dy holl fwyd‐offrwm hefyd a hellti di â halen; ac na phalled halen cyfamod dy Dduw o fod ar dy fwyd‐offrwm: offryma halen ar bob offrwm i ti. 14Ac os offrymi i’r Arglwydd fwyd‐offrwm y ffrwythau cyntaf; tywysennau irion wedi eu crasu wrth y tân, sef ŷd a gurir allan o’r dywysen lawn, a offrymi di yn fwyd‐offrwm dy ffrwythau cyntaf. 15A dod olew arno, a gosod thus arno: bwyd‐offrwm yw. 16A llosged yr offeiriad ei goffadwriaeth ef o’i ŷd wedi ei guro allan, ac o’i olew, ynghyd â’i holl thus: offrwm tanllyd i’r Arglwydd yw.

Currently Selected:

Lefiticus 2: BWM1955C

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in