YouVersion Logo
Search Icon

Lefiticus 14

14
1 Y seremonïau a’r aberthau wrth lanhau y gwahanglwyfus. 33 Arwyddion y gwahanglwyf mewn tŷ. 48 Y modd y glanheir y tŷ hwnnw.
1Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd, 2Dyma gyfraith y gwahanglwyfus, y dydd y glanheir ef. #Mat 8:2, 4; Marc 1:40, 44; Luc 5:12, 14; 17:14Dyger ef at yr offeiriad: 3A’r offeiriad a ddaw allan o’r gwersyll; ac edryched yr offeiriad: ac wele, os pla’r gwahanglwyf a iachaodd ar y gwahanglwyfus; 4Yna gorchmynned yr offeiriad i’r hwn a lanheir, gymryd dau aderyn y to, byw a glân, a #Num 19:6choed cedr, ac #Heb 9:19ysgarlad, ac #Salm 51:7isop. 5A gorchmynned yr offeiriad ladd y naill aderyn y to mewn llestr pridd, oddi ar ddwfr rhedegog. 6A chymered efe yr aderyn byw, a’r coed cedr, a’r ysgarlad, a’r isop, a throched hwynt a’r aderyn byw hefyd yng ngwaed yr aderyn a laddwyd oddi ar y dwfr rhedegog. 7A thaenelled seithwaith ar yr hwn a lanheir oddi wrth y gwahanglwyf, a barned ef yn lân; yna gollynged yr aderyn byw yn rhydd ar wyneb y maes. 8A golched yr hwn a lanheir ei ddillad, ac eillied ei holl flew, ac ymolched mewn dwfr; a glân fydd: a deued wedi hynny i’r gwersyll, a #Num 12:15thriged o’r tu allan i’w babell saith niwrnod. 9A’r seithfed dydd bydded iddo eillio ei holl flew, sef ei ben, a’i farf, ac aeliau ei lygaid; ie, eillied ei holl flew; a golched ei ddillad, a golched ei gnawd mewn dwfr; a glân fydd. 10A’r wythfed dydd cymered ddau oen perffaith‐gwbl, ac un hesbin flwydd berffaith‐gwbl, a thair degfed ran o beilliaid, #Pen 2:1yn fwyd‐offrwm, wedi ei gymysgu trwy olew, ac un log o olew. 11A gosoded yr offeiriad a lanhao, y gŵr a lanheir, a hwynt hefyd, gerbron yr Arglwydd, wrth ddrws pabell y cyfarfod. 12A chymered yr offeiriad un hesbwrn, ac #Pen 5:2offrymed ef yn aberth dros gamwedd, a’r log o olew, a #Exod 29:24chyhwfaned hwynt yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd. 13A lladded ef yr oen #Exod 29:11; Pen 3:8; 4:4, 24yn y lle y lladder y pech‐aberth, a’r poethoffrwm; sef yn y lle sanctaidd: oherwydd #Pen 7:7yr aberth dros gamwedd sydd eiddo’r offeiriad, yn gystal â’r pech‐aberth: #Pen 2:3; Pen 21:22sancteiddiolaf yw. 14A chymered yr offeiriad o waed yr aberth dros gamwedd, a rhodded yr offeiriad ef #Exod 29:20; Pen 8:23ar gwr isaf clust ddeau yr hwn a lanheir, ac ar fawd ei law ddeau, ac ar fawd ei droed deau ef. 15A chymered yr offeiriad o’r log olew, a thywallted ar gledr ei law aswy ei hun: 16A gwlyched yr offeiriad ei fys deau yn yr olew fyddo ar ei law aswy, a thaenelled o’r olew â’i fys seithwaith gerbron yr Arglwydd. 17Ac o weddill yr olew fyddo ar ei law, y dyd yr offeiriad ar gwr isaf clust ddeau yr hwn a lanheir, ac ar fawd ei law ddeau, ac ar fawd ei droed deau, ar waed yr offrwm dros gamwedd. 18A’r rhan arall o’r olew fyddo ar law yr offeiriad, a rydd efe ar ben yr hwn a lanheir; a gwnaed yr offeiriad gymod drosto gerbron yr Arglwydd. 19Ie, offrymed yr offeiriad #Pen 5:1aberth dros bechod, a gwnaed gymod dros yr hwn a lanheir oddi wrth ei aflendid; ac wedi hynny lladded y poethoffrwm. 20Ac aberthed yr offeiriad y poethoffrwm, a’r bwyd‐offrwm, ar yr allor; a gwnaed yr offeiriad gymod drosto; a glân fydd. 21Ond #Pen 5:7os tlawd fydd, a’i law heb gyrhaeddyd hyn; yna cymered un oen, yn aberth dros gamwedd, i’w gyhwfanu, i wneuthur cymod drosto, ac un ddegfed ran o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew yn fwyd‐offrwm, a log o olew; 22A dwy durtur, neu ddau gyw colomen, y rhai a gyrhaeddo ei law: a bydded un yn bech‐aberth, a’r llall yn boethoffrwm. 23A dyged hwynt yr wythfed dydd i’w lanhau ef at yr offeiriad, wrth ddrws pabell y cyfarfod, gerbron yr Arglwydd. 24A chymered yr offeiriad oen yr offrwm dros gamwedd, a’r log olew, a chyhwfaned yr offeiriad hwynt yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd. 25A lladded oen yr offrwm dros gamwedd; a chymered yr offeiriad o waed yr offrwm dros gamwedd, a rhodded ar gwr isaf clust ddeau yr hwn a lanheir, ac ar fawd ei law ddeau, ac ar fawd ei droed deau. 26A thywallted yr offeiriad o’r olew ar gledr ei law aswy ei hun: 27Ac â’i fys deau taenelled yr offeiriad o’r olew fyddo ar gledr ei law aswy, seithwaith gerbron yr Arglwydd. 28A rhodded yr offeiriad o’r olew a fyddo ar gledr ei law, ar gwr isaf clust ddeau yr hwn a lanheir, ac ar fawd ei law ddeau, ac ar fawd ei droed deau, ar y man y byddo gwaed yr offrwm dros gamwedd. 29A’r rhan arall o’r olew fyddo ar gledr llaw yr offeiriad, a rydd efe ar ben yr hwn a lanheir, i wneuthur cymod drosto gerbron yr Arglwydd. 30Yna offrymed un o’r turturau, neu o’r cywion colomennod, sef o’r rhai a gyrhaeddo ei law ef; 31Y rhai, meddaf, a gyrhaeddo ei law ef, un yn bech‐aberth, ac un yn boethoffrwm, ynghyd â’r bwyd‐offrwm: a gwnaed yr offeiriad gymod dros yr hwn a lanheir gerbron yr Arglwydd. 32Dyma gyfraith yr un y byddo pla’r gwahanglwyf arno, yr hwn ni chyrraedd ei law #ad. 10yr hyn a berthyn i’w lanhad.
33A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses ac Aaron, gan ddywedyd, 34Pan ddeloch i dir Canaan, yr hwn yr ydwyf yn ei roddi i chwi yn feddiant, os rhoddaf bla gwahanglwyf ar dŷ o fewn tir eich meddiant; 35A dyfod o’r hwn biau’r tŷ, a dangos i’r offeiriad, gan ddywedyd, Gwelaf megis pla yn y tŷ: 36Yna gorchmynned yr offeiriad iddynt #14:36 Neu, baratoi.arloesi’r tŷ, cyn dyfod yr offeiriad i weled y pla; fel na haloger yr hyn oll a fyddo yn tŷ: ac wedi hynny deued yr offeiriad i edrych y tŷ; 37Ac edryched ar y pla: ac wele, os y pla fydd ym mharwydydd y tŷ, yn agennau gwyrddleision neu gochion, a’r olwg arnynt yn is na’r pared; 38Yna aed yr offeiriad allan o’r tŷ, i ddrws y tŷ, a chaeed y tŷ saith niwrnod. 39A’r seithfed dydd deued yr offeiriad drachefn, ac edryched: ac os lledodd y pla ym mharwydydd y tŷ; 40Yna gorchmynned yr offeiriad iddynt dynnu’r cerrig y byddo y pla arnynt, a bwriant hwynt allan o’r ddinas i le aflan. 41A phared grafu’r tŷ o’i fewn o amgylch; a thywalltant y llwch a grafont, o’r tu allan i’r ddinas i le aflan. 42A chymerant gerrig eraill, a gosodant yn lle y cerrig hynny; a chymered bridd arall, a phridded y tŷ. 43Ond os daw’r pla drachefn, a tharddu yn y tŷ, wedi tynnu’r cerrig, ac wedi crafu’r tŷ, ac wedi priddo; 44Yna doed yr offeiriad, ac edryched: ac wele, os lledodd y pla yn y tŷ, gwahanglwyf ysol yw hwnnw yn y tŷ: aflan yw efe. 45Yna tynned y tŷ i lawr, ei gerrig, a’i goed, a holl bridd y tŷ; a bwried i’r tu allan i’r ddinas i le aflan. 46A’r hwn a ddêl i’r tŷ yr holl ddyddiau y parodd efe ei gau, efe a fydd aflan hyd yr hwyr. 47A’r hwn a gysgo yn y tŷ, golched ei ddillad: felly yr hwn a fwytao yn y tŷ, golched ei ddillad. 48Ac os yr offeiriad gan ddyfod a ddaw, ac a edrych; ac wele, ni ledodd y pla yn y tŷ, wedi priddo’r tŷ: yna barned yr offeiriad y tŷ yn lân, oherwydd iacháu y pla. 49A #ad. 4chymered i lanhau y tŷ ddau aderyn y to, a choed cedr ac ysgarlad, ac isop. 50A lladded y naill aderyn mewn llestr pridd, oddi ar ddwfr rhedegog. 51A chymered y coed cedr, a’r isop, a’r ysgarlad, a’r aderyn byw, a throched hwynt yng ngwaed yr aderyn a laddwyd, ac yn y dwfr rhedegog, a thaenelled ar y tŷ seithwaith. 52A glanhaed y tŷ â gwaed yr aderyn, ac â’r dwfr rhedegog, ac â’r aderyn byw, ac â’r coed cedr, ac â’r isop, ac â’r ysgarlad. 53A gollynged yr aderyn byw allan o’r ddinas ar wyneb y maes, a gwnaed gymod dros y tŷ; a glân fydd. 54Dyma gyfraith am bob pla’r clwyf gwahanol, ac am y #Pen 13:30ddufrech, 55Ac am wahanglwyf gwisg, a thŷ, 56Ac am chwydd, a chramen, a disgleirdeb; 57I ddysgu #14:57 Heb. yn nydd yr aflan, ac yn nydd y glân.pa bryd y bydd aflan, a pha bryd yn lân. Dyma gyfraith y gwahanglwyf.

Currently Selected:

Lefiticus 14: BWM1955C

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in