YouVersion Logo
Search Icon

Genesis 50

50
1 Arwyl Jacob. 4 Joseff yn cael cennad gan Pharo i fyned i’w gladdu ef. 7 Y claddedigaeth. 15 Joseff yn cysuro ei frodyr, y rhai oedd yn gofyn ei nawdd ef. 22 Ei oedran. 23 Mae efe yn gweled y drydedd genhedlaeth o’i feibion: 24 yn darogan i’w frodyr eu dychweliad: 25 yn cymryd llw ganddynt am ei esgyrn: 26 yn marw, ac yn cael ei roddi mewn arch.
1Yna #Pen 46:4y syrthiodd Joseff ar wyneb ei dad, ac a wylodd arno ef, ac a’i cusanodd ef. 2Gorchmynnodd Joseff hefyd i’w weision, y meddygon, #2 Cron 16:14; Ioan 19:40berarogli ei dad ef: felly y meddygon a beraroglasant Israel. 3Pan gyflawnwyd iddo ddeugain niwrnod, (canys felly y cyflawnir dyddiau y rhai a beraroglir,) yna yr Eifftiaid a’i harwylasant ef ddeng niwrnod a thrigain. 4Pan aeth dyddiau ei arwyl ef heibio, yna y llefarodd Joseff wrth deulu Pharo, gan ddywedyd, Os cefais yr awr hon ffafr yn eich golwg, lleferwch wrth Pharo, atolwg, gan ddywedyd, 5#Pen 47:29Fy nhad a’m tyngodd, gan ddywedyd, Wele fi yn marw: yn fy medd #2 Cron 16:14; Esa 22:16; Mat 27:60yr hwn a gloddiais i mi yng ngwlad Canaan, yno y’m cleddi. Ac yr awr hon caffwyf fyned i fyny, atolwg, fel y claddwyf fy nhad; yna mi a ddychwelaf. 6A dywedodd Pharo, Dos i fyny, a chladd dy dad, fel y’th dyngodd.
7A Joseff a aeth i fyny i gladdu ei dad: a holl weision Pharo, sef henuriaid ei dŷ ef, a holl henuriaid gwlad yr Aifft, a aethant i fyny gydag ef, 8A holl dŷ Joseff, a’i frodyr, a thŷ ei dad: eu rhai bach yn unig, a’u defaid, a’u gwartheg, a adawsant yn nhir Gosen. 9Ac aeth i fyny gydag ef gerbydau, a gwŷr meirch hefyd: ac yr oedd yn llu mawr iawn. 10A hwy a ddaethant hyd lawr dyrnu Atad, yr hwn sydd dros yr Iorddonen; ac a alarasant yno alar mawr, a thrwm iawn: canys gwnaeth alar dros ei dad saith niwrnod. 11Pan welodd y Canaaneaid, y rhai oedd yn preswylio yn y wlad, y galar yn llawr dyrnu Atad; yna y dywedasant, Dyma alar trwm gan yr Eifftiaid: am hynny y galwasant ei enw #50:11 Sef, Galar yr Eifftiaid.Abel‐misraim, yr hwn sydd dros yr Iorddonen. 12A’i feibion a wnaethant iddo megis y gorchmynasai efe iddynt. 13Canys #Act 7:16ei feibion a’i dygasant ef i wlad Canaan, ac a’i claddasant ef yn ogof maes Machpela: yr hon #Pen 23:16a brynasai Abraham gyda’r maes, yn feddiant beddrod, gan Effron yr Hethiad, o flaen Mamre.
14A dychwelodd Joseff i’r Aifft, efe, a’i frodyr, a’r rhai oll a aethant i fyny gydag ef i gladdu ei dad, wedi iddo gladdu ei dad.
15Pan welodd brodyr Joseff farw o’u tad, hwy a ddywedasant, Joseff ond odid a’n casâ ni, a chan dalu a dâl i ni yr holl ddrwg a wnaethom ni iddo ef. 16A hwy a #50:16 Heb. yrasant orchymyn.anfonasant at Joseff i ddywedyd, Dy dad a orchmynnodd o flaen ei farw, gan ddywedyd, 17Fel hyn y dywedwch wrth Joseff; Atolwg, maddau yr awr hon gamwedd dy frodyr, a’u pechod hwynt; canys gwnaethant i ti ddrwg: ond yr awr hon, maddau, atolwg, gamwedd gweision Duw dy dad. Ac wylodd Joseff pan lefarasant wrtho. 18A’i frodyr a ddaethant hefyd, ac a syrthiasant ger ei fron ef; ac a ddywedasant, Wele ni yn weision i ti. 19A dywedodd Joseff wrthynt, #Pen 45:5Nac ofnwch; canys a ydwyf fi yn lle Duw? 20Chwi a fwriadasoch ddrwg i’m herbyn; ond Duw a’i bwriadodd i ddaioni, i ddwyn i ben, fel y gwelir heddiw, i gadw yn fyw bobl lawer. 21Am hynny, nac ofnwch yr awr hon: myfi a’ch cynhaliaf chwi, a’ch rhai bach. Ac efe a’u cysurodd hwynt, ac a lefarodd wrth fodd eu calon.
22A Joseff a drigodd yn yr Aifft, efe, a theulu ei dad: a bu Joseff fyw gan mlynedd a deg. 23Gwelodd Joseff hefyd, o Effraim, orwyrion: #Num 32:39maethwyd hefyd blant Machir, fab Manasse, ar liniau Joseff. 24A dywedodd Joseff wrth ei frodyr, Myfi sydd yn marw: a #Exod 3:16; Heb 11:22Duw gan ymweled a ymwêl â chwi, ac a’ch dwg chwi i fyny o’r wlad hon, i’r wlad #Pen 15:14; 26:3; 35:12; 46:4a dyngodd efe i Abraham, i Isaac, ac i Jacob. 25A #Exod 13:19; Jos 24:32; Act 7:16thyngodd Joseff feibion Israel, gan ddywedyd, Duw gan eich gofwyo a’ch gofwya chwi; dygwch chwithau fy esgyrn i fyny oddi yma. 26A Joseff a fu farw yn fab deng mlwydd a chant: a hwy a’i peraroglasant ef; ac efe a osodwyd mewn arch yn yr Aifft.

Currently Selected:

Genesis 50: BWM1955C

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in