YouVersion Logo
Search Icon

Genesis 37

37
2 Joseff yn cael ei gasáu gan ei frodyr. 5 Ei ddwy freuddwyd ef. 13 Jacob yn ei anfon ef i ymweld â’i frodyr. 18 Hwythau yn cydfwriadu ei ladd ef. 21 Reuben yn ei achub ef. 26 Ei werthu ef i’r Ismaeliaid. 31 Ei dad, wedi ei siomi trwy y siaced waedlyd, yn galaru am dano ef. 36 Ei werthu ef i Potiffar yn yr Aifft.
1A thrigodd Jacob yng ngwlad #Pen 36:7; Heb 11:9ymdaith ei dad, yng ngwlad Canaan. 2Dyma genedlaethau Jacob. Joseff, yn fab dwy flwydd ar bymtheg, oedd fugail gyda’i frodyr ar y praidd: a’r llanc oedd gyda meibion Bilha, a chyda meibion Silpa, gwragedd ei dad; a Joseff a ddygodd eu drygair hwynt at eu tad. 3Ac Israel oedd hoffach ganddo Joseff na’i holl feibion, oblegid efe oedd fab ei henaint ef: ac efe a wnaeth siaced #37:3 Heb. o amryw ddarnau.fraith iddo ef. 4A phan welodd ei frodyr fod eu tad yn ei garu ef yn fwy na’i holl frodyr, #Pen 49:23hwy a’i casasant ef, ac ni fedrent ymddiddan ag ef yn heddychol.
5A Joseff a freuddwydiodd freuddwyd, ac a’i mynegodd i’w frodyr: a hwy a’i casasant ef eto yn ychwaneg. 6Ac efe a ddywedodd wrthynt, Gwrandewch, atolwg, y breuddwyd hwn a freuddwydiais i. 7Ac #Pen 42:6, 9; 43:26; 44:14wele, rhwymo ysgubau yr oeddem ni yng nghanol y maes; ac wele, fy ysgub i a gyfododd, ac a safodd hefyd; ac wele, eich ysgubau chwi a safasant o amgylch, ac a ymgrymasant i’m hysgub i. 8A’i frodyr a ddywedasant wrtho, Ai gan deyrnasu y teyrnesi arnom ni? ai gan arglwyddiaethu yr arglwyddiaethi arnom ni? A hwy a chwanegasant eto ei gasáu ef, oblegid ei freuddwydion, ac oblegid ei eiriau.
9Hefyd efe a freuddwydiodd eto freuddwyd arall, ac a’i mynegodd i’w frodyr, ac a ddywedodd, Wele, breuddwydiais freuddwyd eto; ac wele, #Pen 46:29yr haul, a’r lleuad, a’r un seren ar ddeg, yn ymgrymu i mi. 10Ac efe a’i mynegodd i’w dad, ac i’w frodyr. A’i dad a feiodd arno, ac a ddywedodd wrtho, Pa freuddwyd yw hwn a freuddwydiaist ti? Ai gan ddyfod y deuwn ni, mi, a’th fam, a’th frodyr, i ymgrymu i lawr i ti? 11#Act 7:9A’i frodyr a genfigenasant wrtho ef; ond ei dad #Dan 7:28; Luc 2:19, 51a ddaliodd ar y peth.
12A’i frodyr a aethant i fugeilia praidd eu tad, yn Sichem. 13Ac Israel a ddywedodd wrth Joseff, Onid yw dy frodyr yn bugeilio yn Sichem? Tyred, a mi a’th anfonaf atynt. Yntau a ddywedodd wrtho, Wele fi. 14A dywedodd wrtho, Dos weithian, edrych #37:14 Heb. heddwch dy frodyr.pa lwyddiant sydd i’th frodyr, a pha lwyddiant sydd i’r praidd; a dwg eilchwyl air i mi. Felly efe a’i hanfonodd ef o ddyffryn Hebron; ac efe a ddaeth i Sichem.
15A chyfarfu gŵr ag ef; ac wele efe yn crwydro yn y maes: a’r gŵr a ymofynnodd ag ef, gan ddywedyd, Pa beth yr wyt ti yn ei geisio? 16Yntau a ddywedodd, Ceisio fy mrodyr yr ydwyf fi; mynega, atolwg, i mi, pa le y maent hwy yn bugeilio? 17A’r gŵr a ddywedodd, Hwy a aethant oddi yma; oblegid mi a’u clywais hwy yn dywedyd, Awn i Dothan. A Joseff a aeth ar ôl ei frodyr, ac a’u cafodd hwynt #2 Bren 6:13yn Dothan. 18Hwythau a’i canfuant ef o bell; a chyn ei ddynesu ef atynt, hwy a gyd‐fwriadasant yn ei erbyn ef, i’w ladd ef. 19A dywedasant wrth ei gilydd, Wele y #37:19 Heb. meistr breuddwydion.breuddwydiwr yn dyfod. 20Deuwch gan hynny yn awr, a lladdwn ef, a thaflwn ef yn un o’r pydewau; a dywedwn, Bwystfil drwg a’i bwytaodd ef: yna y cawn weled beth a ddaw o’i freuddwydion ef. 21A #Pen 42:22Reuben a glybu, ac a’i hachubodd ef o’u llaw hwynt; ac a ddywedodd, Na laddwn ef. 22Reuben a ddywedodd hefyd wrthynt, Na thywelltwch waed; bwriwch ef i’r pydew hwn sydd yn yr anialwch, ac nac estynnwch law arno: fel yr achubai ef o’u llaw hwynt, i’w ddwyn eilwaith at ei dad.
23A bu, pan ddaeth Joseff at ei frodyr, iddynt ddiosg ei siaced oddi am Joseff, sef y siaced fraith ydoedd amdano ef. 24A chymerasant ef, a thaflasant i bydew: a’r pydew oedd wag heb ddwfr ynddo. 25A hwy a eisteddasant i fwyta bwyd; ac a ddyrchafasant eu llygaid, ac a edrychasant, ac wele fintai o #Edrych ad. 28, 36Ismaeliaid yn dyfod o Gilead, yn myned i waered i’r Aifft, a’u camelod yn dwyn llysiau, a #Jer 8:22balm, a myrr. 26A dywedodd Jwda wrth ei frodyr, Pa lesâd a fydd os lladdwn ein brawd, a chelu ei waed ef? 27Deuwch, a gwerthwn ef i’r Ismaeliaid, ac na fydded ein llaw ni arno ef; oblegid ein brawd ni a’n cnawd ydyw efe. A’i frodyr a #37:27 Heb. wrandawsant.gytunasant. 28A phan ddaeth y marchnadwyr o Midian heibio, y tynasant ac y cyfodasant Joseff i fyny o’r pydew, ac #Salm 105:17; Act 7:9a werthasant Joseff i’r Ismaeliaid er #Edrych Mat 27:9ugain darn o arian: hwythau a ddygasant Joseff i’r Aifft.
29A Reuben a ddaeth eilwaith at y pydew; ac wele nid ydoedd Joseff yn y pydew: ac yntau #Job 1:20a rwygodd ei ddillad; 30Ac a ddychwelodd at ei frodyr, ac a ddywedodd, Y llanc nid yw acw; a minnau, i ba le yr af fi? 31A hwy a gymerasant siaced Joseff, ac a laddasant fyn gafr, ac a drochasant y siaced yn y gwaed. 32Ac a anfonasant y siaced fraith, ac a’i dygasant at eu tad, ac a ddywedasant, Hon a gawsom: myn wybod yn awr, ai siaced dy fab yw hi, ai nad e. 33Yntau a’i hadnabu hi, ac a ddywedodd, Siaced fy mab yw hi; #Pen 44:28bwystfil drwg a’i bwytaodd ef: gan larpio y llarpiwyd Joseff. 34A Jacob a rwygodd ei ddillad, ac a osododd sachlen am ei lwynau, ac a alarodd am ei fab ddyddiau lawer. 35A’i holl feibion, a’i holl ferched, a godasant i’w gysuro ef; ond efe a wrthododd gymryd cysur, ac a ddywedodd, #Pen 42:38; 44:29, 31Yn ddiau disgynnaf yn alarus at fy mab i’r beddrod: a’i dad a wylodd amdano ef. 36#Pen 39:1A’r Midianiaid a’i gwerthasant ef i’r Aifft, i Potiffar #37:36 swyddog i Pharo.tywysog Pharo, a’r distain.

Currently Selected:

Genesis 37: BWM1955C

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in