YouVersion Logo
Search Icon

Genesis 24

24
1 Abraham yn peri i’w was dyngu. 10 Taith y gwas: 12 Ei weddi: 14 Ei arwydd. 15 Rebeca yn ei gyfarfod ef, 18 yn cwblhau ei arwydd ef, 22 yn derbyn tlysau, 23 yn dangos ei chenedl, 25 ac yn ei wahodd ef adref. 26 Y gwas yn bendithio Duw. 29 Laban yn ei groesawu ef. 34 Y gwas yn traethu ei neges. 50 Laban a Bethuel yn fodlon. 58 Rebeca yn cydsynio i fyned. 62 Isaac yn cyfarfod â hi.
1Ac Abraham oedd hen, wedi myned #24:1 Heb. mewn dyddiau.yn oedrannus; a’r Arglwydd a fendithiasai Abraham ym mhob dim. 2A dywedodd Abraham wrth ei was hynaf yn ei dŷ, #Pen 15:2yr hwn oedd yn llywodraethu ar yr hyn oll a’r a oedd ganddo, #Pen 47:20; 1 Cron 29:24Gosod, atolwg, dy law dan fy morddwyd: 3A mi a baraf i ti dyngu i Arglwydd Dduw y nefoedd, a Duw y ddaear, #Pen 26:35; 27:46; 28:2; Exod 34:16; Deut 7:3na chymerech wraig i’m mab i o ferched y Canaaneaid, y rhai yr ydwyf yn trigo yn eu mysg: 4Ond i’m gwlad i yr ei, ac at fy nghenedl i yr ei di, ac a gymeri wraig i’m mab Isaac. 5A’r gwas a ddywedodd wrtho ef, Ond odid ni fyn y wraig ddyfod ar fy ôl i i’r wlad hon: gan ddychwelyd a ddychwelaf dy fab di i’r tir y daethost allan ohono? 6A dywedodd Abraham wrtho, Gwylia arnat rhag i ti ddychwelyd fy mab i yno.
7 Arglwydd Dduw y nefoedd, #Pen 12:1, 7yr hwn a’m cymerodd i o dŷ fy nhad, ac o wlad fy nghenedl, yr hwn hefyd a ymddiddanodd â mi, ac a dyngodd wrthyf, gan ddywedyd, #Pen 12:7; 13:15; 15:18; 26:4; Exod 32:13; Deut 34:4; Act 7:5I’th had di y rhoddaf y tir hwn; efe a enfyn ei angel o’th flaen di, a thi a gymeri wraig i’m mab oddi yno. 8Ac os y wraig ni fyn ddyfod ar dy ôl di, yna glân fyddi oddi wrth fy llw hwn: yn unig na ddychwel di fy mab i yno. 9A’r gwas a osododd ei law dan forddwyd Abraham ei feistr, ac a dyngodd iddo am y peth hyn.
10A chymerodd y gwas ddeg camel, o gamelod ei feistr, ac a aeth ymaith: (#24:10 Neu, a.canys holl dda ei feistr oedd dan ei law ef;) ac efe a gododd, ac a aeth i Mesopotamia, i #Pen 27:43ddinas Nachor. 11Ac efe a wnaeth i’r camelod orwedd o’r tu allan i’r ddinas, wrth bydew dwfr ar brynhawn, ynghylch yr amser y byddai merched #24:11 Neu, a dynnai ddwfr yn dyfod allan.yn dyfod allan i dynnu dwfr. 12Ac efe a ddywedodd, O Arglwydd Dduw fy meistr Abraham, atolwg, pâr i mi lwyddiant heddiw; a gwna drugaredd â’m meistr Abraham. 13#ad. 43Wele fi yn sefyll wrth y ffynnon ddwfr, a #Pen 29:9; Exod 2:16merched gwŷr y ddinas yn dyfod allan i dynnu dwfr: 14A bydded, mai y llances y dywedwyf wrthi, Gogwydda, atolwg, dy ystên, fel yr yfwyf; os dywed hi, Yf, a mi a ddiodaf dy gamelod di hefyd; honno a ddarperaist i’th was Isaac: ac #Edrych Barn 6:17, 37; 1 Sam 6:7; 14:8; 20:7wrth hyn y caf wybod wneuthur ohonot ti drugaredd â’m meistr.
15A bu, cyn darfod iddo lefaru, wele Rebeca yn dyfod allan, (yr hon a anesid i Bethuel fab #Pen 11:29; 22:23Milca, gwraig Nachor, brawd Abraham,) a’i hystên ar ei hysgwydd. 16A’r llances oedd deg odiaeth yr olwg, yn forwyn, a heb i ŵr ei hadnabod; a hi a aeth i waered i’r ffynnon, ac a lanwodd ei hystên, ac a ddaeth i fyny. 17A’r gwas a redodd i’w chyfarfod, ac a ddywedodd, Atolwg, gad i mi yfed ychydig ddwfr o’th ystên. 18A hi a ddywedodd, Yf, fy meistr: a hi a frysiodd, ac a ddisgynnodd ei hystên ar ei llaw, ac a’i diododd ef. 19A phan ddarfu iddi ei ddiodi ef, hi a ddywedodd, Tynnaf hefyd i’th gamelod, hyd oni ddarffo iddynt yfed. 20A hi a frysiodd, ac a dywalltodd ei hystên i’r cafn, ac a redodd eilwaith i’r pydew i dynnu, ac a dynnodd i’w holl gamelod ef. 21A’r gŵr, yn synnu o’i phlegid hi, a dawodd, i wybod a lwyddasai yr Arglwydd ei daith ef, ai naddo. 22A bu, pan ddarfu i’r camelod yfed, gymryd o’r gŵr #24:22 tal‐dlws.glustlws aur, yn hanner sicl ei bwys; a dwy freichled i’w dwylo hi, yn ddeg sicl o aur eu pwys. 23Ac efe a ddywedodd, Merch pwy ydwyt ti? mynega i mi, atolwg: a oes lle i ni i letya yn nhŷ dy dad? 24A hi a ddywedodd wrtho, #Pen 22:23Myfi ydwyf ferch i Bethuel fab Milca, yr hwn a ymddûg hi i Nachor. 25A hi a ddywedodd wrtho ef, Y mae gwellt ac ebran ddigon gennym ni, a lle i letya. 26A’r gŵr #Pen 24:52; Exod 4:31a ymgrymodd, ac a addolodd yr Arglwydd. 27Ac a ddywedodd, Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw fy meistr Abraham, yr hwn ni adawodd fy meistr heb ei drugaredd a’i ffyddlondeb: yr ydwyf fi ar y ffordd; dug yr Arglwydd fi i dŷ brodyr fy meistr. 28A’r llances a redodd, ac a fynegodd yn nhŷ ei mam y pethau hyn.
29Ac i Rebeca yr oedd brawd, a’i enw #Pen 29:5Laban: a Laban a redodd at y gŵr allan i’r ffynnon. 30A phan welodd efe y clustlws, a’r breichledau am ddwylo ei chwaer, a phan glywodd efe eiriau Rebeca ei chwaer yn dywedyd, Fel hyn y dywedodd y gŵr wrthyf fi; yna efe a aeth at y gŵr; ac wele efe yn sefyll gyda’r camelod wrth y ffynnon. 31Ac efe a ddywedodd, Tyred i mewn, ti fendigedig yr Arglwydd; paham y sefi di allan? canys mi a baratoais y tŷ, a lle i’r camelod.
32A’r gŵr a aeth i’r tŷ: ac yntau a ryddhaodd y camelod, ac a roddodd wellt ac ebran i’r camelod; a dwfr i olchi ei draed ef, a thraed y dynion oedd gydag ef. 33A gosodwyd bwyd o’i flaen ef i fwyta; ac efe a ddywedodd, Ni fwytâf hyd oni thraethwyf fy negesau. A dywedodd yntau, Traetha. 34Ac efe a ddywedodd, Gwas Abraham ydwyf fi. 35A’r Arglwydd a fendithiodd fy meistr yn ddirfawr, ac efe a gynyddodd: canys rhoddodd iddo ddefaid, a gwartheg, ac arian, ac aur, a gweision, a morynion, a chamelod, ac asynnod. 36Sara hefyd gwraig fy meistr a ymddûg fab i’m meistr, wedi ei heneiddio hi; ac efe a roddodd #Pen 25:5i hwnnw yr hyn oll oedd ganddo. 37A’m meistr a’m tyngodd i, gan ddywedyd, Na chymer wraig i’m mab i o ferched y Canaaneaid, y rhai yr ydwyf yn trigo yn eu tir. 38Ond ti a ei i dŷ fy nhad, ac at fy nhylwyth, ac a gymeri wraig i’m mab. 39A dywedais wrth fy meistr, Fe allai na ddaw y wraig ar fy ôl i. 40Ac efe a ddywedodd wrthyf, Yr Arglwydd #Pen 17:1yr hwn y rhodiais ger ei fron, a enfyn ei angel gyda thi, ac a lwydda dy daith di; a thi a gymeri wraig i’m mab i o’m tylwyth, ac o dŷ fy nhad. 41Yna y byddi rydd oddi wrth fy llw, os ti a ddaw at fy nhylwyth; ac oni roddant i ti, yna y byddi rydd oddi wrth fy llw. 42A heddiw y deuthum at y ffynnon, ac a ddywedais, Arglwydd Dduw fy meistr Abraham, os ti sydd yr awr hon yn llwyddo fy nhaith, yr hon yr wyf fi yn myned arni: 43Wele fi #ad. 13yn sefyll wrth y ffynnon ddwfr; a’r forwyn a ddelo allan i dynnu, ac y dywedwyf wrthi, Dod i mi, atolwg, ychydig ddwfr i’w yfed o’th ystên; 44Ac a ddywedo wrthyf finnau, Yf di, a thynnaf hefyd i’th gamelod: bydded honno y wraig a ddarparodd yr Arglwydd i fab fy meistr. 45A chyn darfod i mi ddywedyd yn fy nghalon, wele Rebeca yn dyfod allan, a’i hystên ar ei hysgwydd; a hi a aeth i waered i’r ffynnon, ac a dynnodd: yna y dywedais wrthi, Dioda fi, atolwg. 46Hithau a frysiodd, ac a ddisgynnodd ei hystên oddi arni, ac a ddywedodd, Yf; a mi a ddyfrhaf dy gamelod hefyd. Felly yr yfais; a hi a ddyfrhaodd y camelod hefyd. 47A mi a ofynnais iddi, ac a ddywedais, Merch pwy ydwyt ti? Hithau a ddywedodd, Merch Bethuel mab Nachor, yr hwn a ymddûg Milca iddo ef. Yna y gosodais y clustlws wrth ei hwyneb, a’r breichledau am ei dwylo hi: 48Ac a ymgrymais, ac a addolais yr Arglwydd, ac a fendithiais Arglwydd Dduw fy meistr Abraham, yr hwn a’m harweiniodd ar hyd yr iawn ffordd, i gymryd merch brawd fy meistr i’w fab ef. 49Ac yn awr od ydych chwi yn gwneuthur trugaredd a ffyddlondeb â’m meistr, mynegwch i mi: ac onid e, mynegwch i mi; fel y trowyf ar y llaw ddeau, neu ar y llaw aswy. 50Yna yr atebodd Laban a Bethuel, ac a ddywedasant, Oddi wrth yr Arglwydd y daeth y peth hyn: ni allwn ddywedyd wrthyt ddrwg, na da. 51Wele Rebeca o’th flaen; cymer hi, a dos, a bydded wraig i fab dy feistr, fel y llefarodd yr Arglwydd. 52A phan glybu gwas Abraham eu geiriau hwynt, yna efe #ad. 26a ymgrymodd hyd lawr i’r Arglwydd. 53A thynnodd y gwas allan #24:53 Heb. lestri.dlysau arian, a thlysau aur, a gwisgoedd, ac a’u rhoddodd i Rebeca: rhoddodd hefyd bethau gwerthfawr i’w brawd hi, ac i’w mam. 54A hwy a fwytasant ac a yfasant, efe a’r dynion oedd gydag ef, ac a letyasant dros nos: a chodasant yn fore; ac efe a ddywedodd, #Pen 24:56, 59Gollyngwch fi at fy meistr. 55Yna y dywedodd ei brawd a’i mam, Triged y llances gyda ni #24:55 flwyddyn gyfan, neu ddeg o fisoedd.ddeng niwrnod o’r lleiaf; wedi hynny hi a gaiff fyned. 56Yntau a ddywedodd wrthynt, Na rwystrwch fi, gan i’r Arglwydd lwyddo fy nhaith; gollyngwch fi, fel yr elwyf at fy meistr. 57Yna y dywedasant, Galwn ar y llances, a gofynnwn iddi hi. 58A hwy a alwasant ar Rebeca, a dywedasant wrthi, A ei di gyda’r gŵr hwn? A hi a ddywedodd, Af. 59A hwy a ollyngasant Rebeca eu chwaer, #Pen 35:8a’i mamaeth, a gwas Abraham, a’i ddynion; 60Ac a fendithiasant Rebeca, ac a ddywedasant wrthi, Ein chwaer wyt, bydd di fil fyrddiwn; ac #Pen 22:17etifedded dy had borth ei gaseion.
61Yna y cododd Rebeca, a’i llancesau, ac a farchogasant ar y camelod, ac a aethant ar ôl y gŵr; a’r gwas a gymerodd Rebeca, ac a aeth ymaith. 62Ac Isaac oedd yn dyfod o ffordd #Pen 16:14; 25:11pydew Lahai‐roi; ac efe oedd yn trigo yn nhir y deau. 63Ac Isaac a aeth allan i #24:63 weddïo.fyfyrio yn y maes, ym min yr hwyr; ac a ddyrchafodd ei lygaid, ac a edrychodd, ac wele y camelod yn dyfod. 64Rebeca hefyd a ddyrchafodd ei llygaid; a phan welodd hi Isaac, #Jos 15:18hi a ddisgynnodd oddi ar y camel. 65Canys hi a ddywedasai wrth y gwas, Pwy yw y gŵr hwn sydd yn rhodio yn y maes i’n cyfarfod ni? A’r gwas a ddywedasai, Fy meistr yw efe: a hi a gymerth orchudd, ac a ymwisgodd. 66A’r gwas a fynegodd i Isaac yr hyn oll a wnaethai efe. 67Ac Isaac a’i dug hi i mewn i babell Sara ei fam; ac efe a gymerth Rebeca, a hi a aeth yn wraig iddo, ac efe a’i hoffodd hi: ac Isaac a ymgysurodd ar ôl ei fam.

Currently Selected:

Genesis 24: BWM1955C

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in