YouVersion Logo
Search Icon

Exodus 6

6
1 Duw yn adnewyddu ei addewid, trwy ei enw JEHOFAH. 14 Achau Reuben, 15 Simeon, 16 a Lefi, o’r hwn y daeth Moses ac Aaron.
1Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Yn awr y cei weled beth a wnaf i Pharo: canys #Pen 3:19trwy law gadarn y gollwng efe hwynt, a thrwy law gadarn #Pen 12:33, 39y gyr efe hwynt o’i wlad. 2Duw hefyd a lefarodd wrth Moses, ac a ddywedodd wrtho, Myfi yw #6:2 Neu, IÔR.JEHOFAH. 3A mi a ymddangosais i Abraham, i Isaac, ac i Jacob, dan enw #Gen 17:1; 35:11; 48:3Duw Hollalluog; ond erbyn fy enw #Pen 3:14JEHOFAH ni bûm adnabyddus iddynt. 4Hefyd mi a sicrheais fy nghyfamod â hwynt, #Gen 17:8; 28:4am roddi iddynt wlad Canaan, sef gwlad eu hymdaith, yr hon yr ymdeithiasant ynddi. 5A #Pen 2:24mi a glywais hefyd uchenaid plant Israel, y rhai y mae yr Eifftiaid yn eu caethiwo; a chofiais fy nghyfamod. 6Am hynny dywed wrth feibion Israel, Myfi yw yr Arglwydd; a myfi a’ch dygaf chwi allan oddi tan lwythau yr Eifftiaid, ac a’ch rhyddhaf o’u caethiwed hwynt; ac a’ch gwaredaf â braich estynedig, ac â barnedigaethau mawrion. 7Hefyd mi a’ch cymeraf yn bobl i mi, ac a fyddaf yn Dduw i chwi: a chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd eich Duw, yr hwn sydd yn eich dwyn chwi allan oddi tan lwythau yr Eifftiaid. 8A mi a’ch dygaf chwi i’r wlad, am yr hon #6:8 Heb. codais fy llaw. Edrych Gen 14:22; Deut 32:40y #Gen 15:18; 26:3; 35:12tyngais y rhoddwn hi i Abraham, i Isaac, ac i Jacob; a mi a’i rhoddaf i chwi yn etifeddiaeth: myfi yw yr Arglwydd.
9A Moses a lefarodd felly wrth feibion Israel: ond ni wrandawsant ar Moses, gan gyfyngdra ysbryd, a chan gaethiwed caled. 10A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, 11Dos i mewn; dywed wrth Pharo, brenin yr Aifft, am iddo ollwng meibion Israel allan o’i wlad. 12A Moses a lefarodd gerbron yr Arglwydd, gan ddywedyd, Wele, plant Israel ni wrandawsant arnaf fi; a pha fodd y’m gwrandawai Pharo, a minnau #Pen 4:10; ad. 30yn ddienwaededig o wefusau? 13A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses ac Aaron, ac a roddodd orchymyn iddynt at feibion Israel, ac at Pharo brenin yr Aifft, i ddwyn meibion Israel allan o wlad yr Aifft.
14Dyma eu pencenedl hwynt: #Gen 46:9; 1 Cron 5:3meibion Reuben, y cyntaf‐anedig i Israel: Hanoch, a Phalu, Hesron, a Charmi: dyma deuluoedd Reuben. 15A #1 Cron 4:24meibion Simeon; Jemwel, a Jamin, Ohad, a Jachin, Sohar hefyd, a Saul mab y Ganaanëes: dyma deuluoedd Simeon.
16Dyma hefyd enwau #Num 3:17; 1 Cron 6:1, 16meibion Lefi, yn ôl eu cenedlaethau; Gerson, Cohath hefyd, a Merari: a blynyddoedd oes Lefi oedd gant ac onid tair blynedd deugain. 17#1 Cron 6:17; 23:7Meibion Gerson; Libni, a Simi, yn ôl eu teuluoedd. 18A #Num 26:57; 1 Cron 6:2, 18meibion Cohath; Amram, ac Ishar, Hebron hefyd, ac Ussiel: a blynyddoedd oes Cohath oedd dair ar ddeg ar hugain a chan mlynedd. 19#1 Cron 6:19; 23:21Meibion Merari oedd Mahali a Musi: dyma deuluoedd Lefi, yn ôl eu cenedlaethau. 20Ac #Pen 2:1; Num 26:59Amram a gymerodd Jochebed, ei fodryb chwaer ei dad, yn wraig iddo; a hi a ymddûg iddo Aaron a Moses: a blynyddoedd oes Amram oedd onid tair deugain a chan mlynedd.
21A #Num 16:1; 1 Cron 6:37, 38meibion Ishar; Cora, a Neffeg, a Sicri. 22A #Lef 10:4; Num 3:30meibion Ussiel; Misael, ac Elsaffan, a Sithri. 23Ac Aaron a gymerodd Eliseba, merch #Ruth 4:19, 20; 1 Cron 2:10Aminadab, chwaer Nahason, yn wraig iddo; a hi a ymddûg iddo #Num 3:2; 26:60; 1 Cron 6:3; 24:1Nadab ac Abihu, Eleasar ac Ithamar. 24Meibion Cora hefyd; Assir, ac Elcana, ac Abiasaff: dyma deuluoedd y Corahiaid. 25Ac Eleasar, mab Aaron, a gymerodd yn wraig iddo un o ferched Putiel; a #Num 25:11hi a ymddûg iddo ef Phineas: dyma bennau cenedl y Lefiaid, yn ôl eu teuluoedd. 26Dyma Aaron a Moses, y rhai y dywedodd yr Arglwydd wrthynt, Dygwch feibion Israel allan o wlad yr Aifft, yn ôl eu lluoedd. 27Dyma y rhai a lefarasant wrth Pharo, brenin yr Aifft, am ddwyn meibion Israel allan o’r Aifft: dyma y Moses ac Aaron hwnnw.
28A bu, ar y dydd y llefarodd yr Arglwydd wrth Moses yn nhir yr Aifft, 29Lefaru o’r Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, Myfi yw yr Arglwydd: dywed wrth Pharo, brenin yr Aifft, yr hyn oll yr ydwyf fi yn ei ddywedyd wrthyt. 30A dywedodd Moses gerbron yr Arglwydd, Wele fi #Pen 4:10yn ddienwaededig o wefusau; a pha fodd y gwrendy Pharo arnaf?

Currently Selected:

Exodus 6: BWM1955C

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in