YouVersion Logo
Search Icon

Exodus 34

34
1 Adnewyddu y llechau. 5 Cyhoeddi Enw yr Arglwydd. 8 Moses yn ymbil â Duw ar iddo fyned gyda hwy. 10 Duw yn gwneuthur cyfamod â hwynt, ac yn ail‐adrodd rhai o orchmynion y llech gyntaf. 28 Moses, wedi bod ddeugain niwrnod yn y mynydd, yn dyfod i lawr â’r llechau. 29 Ei wyneb ef yn disgleirio; ac yntau yn rhoddi llen gudd arno.
1A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, #Deut 10:1Nadd i ti ddwy o lechau cerrig, fel y rhai cyntaf: a mi a ysgrifennaf ar y llechau y geiriau oedd ar y llechau cyntaf, y rhai a dorraist. 2A bydd barod erbyn y bore; a thyred i fyny yn fore i fynydd Sinai, a saf i mi yno #Pen 19:20ar ben y mynydd. 3Ond #Pen 19:12, 13na ddeued neb i fyny gyda thi, ac na weler neb ar yr holl fynydd: na phored hefyd na dafad, nac eidion, ar gyfer y mynydd hwn.
4Ac efe a naddodd ddwy o lechau cerrig, o fath y rhai cyntaf: a Moses a gyfododd yn fore, ac a aeth i fynydd Sinai, fel y gorchmynasai yr Arglwydd iddo; ac a gymerodd yn ei law y ddwy lech garreg. 5A’r Arglwydd a ddisgynnodd mewn cwmwl, ac a safodd gydag ef yno, ac #Pen 33:19a gyhoeddodd enw yr Arglwydd. 6A’r Arglwydd a aeth heibio o’i flaen ef, ac a lefodd JEHOFAH, JEHOFAH, #Num 14:18y Duw trugarog a graslon, hwyrfrydig i ddig, ac aml o drugaredd a gwirionedd; 7#Pen 20:6; Deut 5:10; Salm 86:15; Jer 32:18Yr hwn sydd yn cadw trugaredd i filoedd, gan faddau anwiredd, a chamwedd, a phechod, a #Pen 23:7, 21; Jos 24:19; Job 10:14; Micha 6:11; Nahum 1:3heb gyfrif yr anwir yn gyfiawn; yr hwn a ymwêl ag anwiredd y tadau ar y plant, ac ar blant y plant, hyd y drydedd a’r bedwaredd genhedlaeth. 8A Moses a frysiodd, ac a ymgrymodd tua’r llawr, ac a addolodd; 9Ac a ddywedodd, Os cefais yn awr ffafr yn dy olwg, O Arglwydd, eled fy Arglwydd, atolwg, yn ein plith ni, (canys pobl wargaled yw,) a maddau ein hanwiredd, a’n pechod, a chymer ni yn etifeddiaeth i ti.
10Yntau a ddywedodd, Wele #Deut 5:2fi yn gwneuthur cyfamod yng ngŵydd dy holl bobl: gwnaf ryfeddodau, y rhai ni wnaed yn yr holl ddaear, nac yn yr holl genhedloedd; a’r holl bobl yr wyt ti yn eu mysg a gânt weled gwaith yr Arglwydd: canys ofnadwy yw yr hyn a wnaf â thi. 11Cadw yr hyn a orchmynnais i ti heddiw: wele, mi a yrraf allan o’th flaen di yr Amoriad, a’r Canaanead, a’r Hethiad, a’r Pheresiad, yr Hefiad hefyd, a’r Jebusiad. 12A #Pen 23:32; Deut 7:2chadw arnat, rhag gwneuthur cyfamod â phreswylwyr y wlad yr wyt yn myned iddi; rhag eu bod yn fagl yn dy blith. 13Eithr dinistriwch eu hallorau hwynt, #Pen 23:24; Deut 12:3drylliwch eu delwau hwynt, a #Barn 6:25; 2 Bren 18:4; 23:14; 2 Cron 31:1; 34:3thorrwch i lawr eu llwynau hwynt. 14Canys ni chei ymgrymu i dduw arall: oblegid yr Arglwydd, Eiddigus yw ei enw; Duw #Pen 20:5eiddigus yw efe; 15Rhag i ti wneuthur cyfamod â phreswylwyr y tir; ac iddynt buteinio ar ôl eu duwiau, ac aberthu i’w duwiau, a’th alw di, ac i tithau fwyta o’u haberth; 16A chymryd ohonot o’u #1 Bren 11:2; Neh 13:25merched i’th feibion; a #Num 25:1, 2phuteinio o’u merched ar ôl eu duwiau hwynt, a gwneuthur i’th feibion di buteinio ar ôl eu duwiau hwynt. 17Na wna i ti dduwiau tawdd.
18Cadw ŵyl #Pen 12:15; 23:15y bara croyw: saith niwrnod y bwytei fara croyw, fel y gorchmynnais i ti, ar yr amser ym mis Abib: oblegid ym #Pen 13:4mis Abib y daethost allan o’r Aifft. 19#Pen 13:2, 13; 22:29; Esec 44:30; Luc 2:23Eiddof fi yw pob peth a agoro y groth; a phob gwryw cyntaf o’th anifeiliaid, yn eidionau, ac yn ddefaid. 20Ond #Num 18:15y cyntaf i asyn a bryni di #34:20 Neu, â myn.ag oen; ac oni phryni, tor ei wddf: prŷn hefyd bob cyntaf‐anedig o’th feibion: ac #Pen 23:15; Deut 16:16; 1 Sam 9:7, 8; 2 Sam 24:24nac ymddangosed neb ger fy mron yn waglaw.
21 # Pen 23:12 ; Deut 5:12; Luc 13:14Chwe diwrnod y gweithi; ac ar y seithfed dydd y gorffwysi: yn amser aredig, ac yn y cynhaeaf, y gorffwysi.
22 # Pen 23:16 Cadw i ti hefyd ŵyl yr wythnosau, o flaenffrwyth y cynhaeaf gwenith; a gŵyl y cynnull, ar ddiwedd y flwyddyn.
23 # Pen 23:14, 17; Deut 16:16Tair gwaith yn y flwyddyn yr ymddengys dy holl wrywiaid gerbron yr Arglwydd Dduw, Duw Israel. 24Canys mi a yrraf y cenhedloedd allan o’th flaen di, ac a helaethaf dy derfynau di: ac #Edrych Gen 35:5; Act 18:10ni chwennych neb dy dir di, pan elych i fyny i ymddangos gerbron yr Arglwydd dy Dduw, dair gwaith yn y flwyddyn. 25#Pen 23:18Nac offryma waed fy aberth gyda bara lefeinllyd; ac #Pen 12:10nac arhoed aberth gŵyl y Pasg dros nos hyd y bore. 26#Deut 26:2Dwg y #34:26 cyntaf.gorau o flaenffrwyth dy dir i dŷ yr Arglwydd dy Dduw. #Pen 23:19; Deut 14:21Na ferwa fyn yn llaeth ei fam. 27Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, Ysgrifenna i ti y geiriau hyn: oblegid yn ôl y geiriau hyn y gwneuthum gyfamod â thi, ac ag Israel. 28#Pen 24:18; Deut 9:9, 18Ac efe a fu yno gyda’r Arglwydd ddeugain niwrnod a deugain nos; ni fwytaodd fara, ac nid yfodd ddwfr: ac #ad. 1; Pen 31:18; Deut 4:13efe a ysgrifennodd ar y llechau eiriau’r cyfamod, sef y deg #34:28 gorchymyn.gair.
29A phan ddaeth Moses i waered o fynydd Sinai, a dwy lech y dystiolaeth yn llaw Moses, pan ddaeth efe i waered o’r mynydd, ni wyddai Moses i #2 Cor 3:7, 13groen ei wyneb ddisgleirio wrth lefaru ohono ef wrtho. 30A phan welodd Aaron a holl feibion Israel Moses, wele, yr oedd croen ei wyneb ef yn disgleirio; a hwy a ofnasant nesáu ato ef. 31A Moses a alwodd arnynt. Ac Aaron a holl benaethiaid y gynulleidfa a ddychwelsant ato ef: a Moses a lefarodd wrthynt hwy. 32Ac wedi hynny nesaodd holl feibion Israel: ac efe a orchmynnodd iddynt yr hyn oll a lefarasai yr Arglwydd ym mynydd Sinai. 33Ac nes darfod i Moses lefaru wrthynt, efe a roddes #2 Cor 3:13len gudd ar ei wyneb. 34A phan ddelai Moses gerbron yr Arglwydd i lefaru wrtho, efe a dynnai ymaith y llen gudd nes ei ddyfod allan: a phan ddelai efe allan, y llefarai wrth feibion Israel yr hyn a orchmynnid iddo. 35A meibion Israel a welsant wyneb Moses, fod croen wyneb Moses yn disgleirio: a Moses a roddodd drachefn y llen gudd ar ei wyneb, hyd oni ddelai i lefaru wrth Dduw.

Currently Selected:

Exodus 34: BWM1955C

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in