YouVersion Logo
Search Icon

Exodus 32

32
1 Y bobl, yn absen Moses, yn peri i Aaron wneuthur llo; 7 a hynny yn digio Duw; 11 ac yntau, ar ymbil Moses, yn ymdawelu. 15 Moses yn dyfod i waered â’r llechau: 19 yn eu torri hwy: 20 yn difetha y llo. 22 Esgus Aaron drosto ei hun. 25 Moses yn gorchymyn lladd y delw‐addolwyr, 30 ac yn gweddïo dros y bobl.
1Pan welodd y bobl fod Moses yn oedi dyfod i waered o’r mynydd; yna yr ymgasglodd y bobl at Aaron, ac y dywedasant wrtho, #Act 7:40Cyfod, gwna i ni dduwiau i fyned o’n blaen: canys y Moses hwn, y gŵr a’n dug ni i fyny o wlad yr Aifft, ni wyddom beth a ddaeth ohono. 2A dywedodd Aaron wrthynt, Tynnwch y clustlysau aur sydd wrth glustiau eich gwragedd, a’ch meibion, a’ch merched, a dygwch ataf fi. 3A’r holl bobl a dynasant y clustlysau aur oedd wrth eu clustiau, ac a’u dygasant at Aaron. 4Ac #1 Bren 12:28; Salm 106:19efe a’u cymerodd o’u dwylo, ac a’i lluniodd â chŷn, ac a’i gwnaeth yn llo tawdd: a hwy a ddywedasant, Dyma dy dduwiau di, Israel, y rhai a’th ddug di i fyny o wlad yr Aifft. 5A phan ei gwelodd Aaron, efe a adeiladodd allor ger ei fron ef: ac Aaron a gyhoeddodd, ac a ddywedodd, Y mae gŵyl i’r Arglwydd yfory. 6A hwy a godasant yn fore drannoeth, ac a offrymasant boethoffrymau, ac a ddygasant aberthau hedd: a’r #1 Cor 10:7bobl a eisteddasant i fwyta ac i yfed, ac a godasant i fyny i chwarae.
7A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, #Deut 9:12Cerdda, dos i waered: canys #Deut 32:5ymlygrodd dy bobl a ddygaist i fyny o dir yr Aifft. 8Buan y ciliasant o’r ffordd a orchmynnais iddynt: gwnaethant iddynt lo tawdd, ac addolasant ef, ac aberthasant iddo; dywedasant hefyd, #1 Bren 12:28Dyma dy dduwiau di, Israel, y rhai a’th ddygasant i fyny o wlad yr Aifft. 9Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, #Pen 33:3; Deut 9:6, 13; Esa 48:4Gwelais y bobl hyn; ac wele, pobl wargaled ydynt. 10Am hynny yn awr gad i mi lonydd, fel yr enynno fy llid yn eu herbyn, ac y difethwyf hwynt: a #Num 14:12mi a’th wnaf di yn genhedlaeth fawr. 11A #Deut 9:18; Salm 106:23Moses a ymbiliodd #32:11 Heb. ag wyneb.gerbron yr Arglwydd ei Dduw, ac a ddywedodd, Paham, Arglwydd, yr enynna dy ddigofaint yn erbyn dy bobl, y rhai a ddygaist allan o wlad yr Aifft, trwy nerth mawr, a llaw gadarn? 12#Num 14:13; Deut 9:28; 32:27Paham y caiff yr Eifftiaid lefaru, gan ddywedyd, Mewn malais y dygodd efe hwynt allan, i’w lladd yn y mynyddoedd, ac i’w difetha oddi ar wyneb y ddaear? Tro oddi wrth angerdd dy ddigofaint, a bydded edifar gennyt y drwg a amcenaist i’th bobl. 13Cofia Abraham, Isaac, ac Israel, dy weision, y rhai y tyngaist wrthynt i ti dy hun, ac y dywedaist wrthynt, #Gen 12:7; 13:15; 15:7, 18; 26:4; 28:13; 48:16Mi a amlhaf eich had chwi fel sêr y nefoedd; a’r holl wlad yma yr hon a ddywedais, a roddaf i’ch had chwi, a hwy a’i hetifeddant byth. 14Ac edifarhaodd ar yr Arglwydd am y drwg a ddywedasai efe y gwnâi i’w bobl.
15A Moses a drodd, ac a ddaeth i waered o’r mynydd, a dwy lech y dystiolaeth yn ei law: y llechau a ysgrifenasid o’u dau du; hwy a ysgrifenasid o bob tu. 16#Pen 31:18A’r llechau hynny oedd o waith Duw: yr ysgrifen hefyd oedd ysgrifen Duw yn ysgrifenedig ar y llechau. 17A phan glywodd Josua sŵn y bobl yn bloeddio, efe a ddywedodd wrth Moses, Y mae sŵn rhyfel yn y gwersyll. 18Yntau a ddywedodd, Nid llais bloeddio am oruchafiaeth, ac nid llais gweiddi am #32:18 Heb. lesgedd.golli’r maes; ond sŵn canu a glywaf fi.
19A bu, wedi dyfod ohono yn agos i’r gwersyll, iddo weled y llo a’r dawnsiau: ac enynnodd digofaint Moses: ac efe a daflodd y llechau o’i ddwylo ac a’u torrodd hwynt islaw y mynydd. 20#Deut 9:21Ac efe a gymerodd y llo a wnaethent hwy, ac a’i llosgodd â thân, ac a’i malodd yn llwch, ac a’i taenodd ar wyneb y dwfr, ac a’i rhoddes i’w yfed i feibion Israel. 21A dywedodd Moses wrth Aaron, Beth a wnaeth y bobl hyn i ti, pan ddygaist arnynt bechod mor fawr? 22A dywedodd Aaron, Nac enynned digofaint fy arglwydd: ti a adwaenost y bobl, mai ar ddrwg y maent. 23Canys dywedasant wrthyf, Gwna i ni dduwiau i fyned o’n blaen: canys y Moses hwn, y gŵr a’n dug ni i fyny o wlad yr Aifft, ni wyddom beth a ddaeth ohono. 24A dywedais wrthynt, I’r neb y mae aur, tynnwch ef: a hwy a’i rhoddasant i mi: a mi a’i bwriais yn tân, a daeth y llo hwn allan.
25A phan welodd Moses fod y bobl yn noeth, (canys Aaron #2 Cron 28:19a’u noethasai hwynt, i’w gwaradwyddo ymysg #32:25 Heb. y rhai a gyfodent i’w herbyn.eu gelynion;) 26Yna y safodd Moses ym mhorth y gwersyll, ac a ddywedodd, Pwy sydd ar du’r Arglwydd? deued ataf fi. A holl feibion Lefi a ymgasglasant ato ef. 27Ac efe a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel; Gosodwch bob un ei gleddyf ar ei glun, ac ewch, cyniweiriwch o borth i borth trwy’r gwersyll, a #Num 25:5; Deut 33:9lleddwch bob un ei frawd, a phob un ei gyfaill, a phob un ei gymydog. 28A meibion Lefi a wnaethant yn ôl gair Moses: a chwympodd o’r bobl y dydd hwnnw ynghylch tair mil o wŷr. 29Canys dywedasai Moses, #32:29 Heb. Llenwch.Cysegrwch eich llaw heddiw i’r Arglwydd, #32:29 Neu, am fod pob un yn erbyn ei fab, ac yn erbyn, &cbob un ar ei fab, ac ar ei frawd; fel y rhodder heddiw i chwi fendith.
30A thrannoeth y dywedodd Moses wrth y bobl, Chwi a bechasoch bechod mawr: ac yn awr mi a af i fyny at yr Arglwydd; #2 Sam 16:12; Amos 5:15ond odid mi a wnaf gymod dros eich pechod chwi. 31A Moses a ddychwelodd at yr Arglwydd, ac a ddywedodd, Och! pechodd y bobl hyn bechod mawr, ac a wnaethant iddynt dduwiau o aur. 32Ac yn awr, os maddeui eu pechod; ac #Rhuf 9:3os amgen, dilea fi, atolwg, allan o’th #Salm 69:28; Dan 12:1; Phil 4:3; Dat 3:5; 13:8; 20:12lyfr a ysgrifennaist. 33A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, #Esec 18:4Pwy bynnag a bechodd i’m herbyn, hwnnw a ddileaf allan o’m llyfr. 34Am hynny dos yn awr, arwain y bobl i’r lle a ddywedais wrthyt: #Pen 33:2, 14 &cwele, fy angel a â o’th flaen di: #Deut 32:35a’r dydd yr ymwelwyf, yr ymwelaf â hwynt am eu pechod. 35A’r Arglwydd a drawodd y bobl, am iddynt wneuthur y llo a wnaethai Aaron.

Currently Selected:

Exodus 32: BWM1955C

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in