YouVersion Logo
Search Icon

Exodus 29

29
1 Yr aberth a’r seremonïau a arferid wrth gysegru yr offeiriaid. 38 Y llosg‐offrwm gwastadol. 45 Addewid Duw ar drigo ym mhlith plant Israel.
1Dyma hefyd yr hyn a wnei di iddynt i’w cysegru hwynt, i offeiriadu i mi. #Lef 8:2Cymer un bustach ieuanc, a dau hwrdd perffeithgwbl, 2A #Lef 6:20bara croyw, a theisennau croyw wedi eu cymysgu ag olew, ac afrllad croyw wedi eu hiro ag olew: o beilliaid gwenith y gwnei hwynt. 3A dod hwynt mewn un cawell, a dwg hwynt yn y cawell, gyda’r bustach a’r ddau hwrdd. 4Dwg hefyd Aaron a’i feibion i ddrws pabell y cyfarfod, a golch hwynt â dwfr. 5A chymer y gwisgoedd, a gwisg am Aaron y bais, a mantell yr effod, a’r effod hefyd, a’r ddwyfronneg; a gwregysa ef #Pen 28:8â gwregys yr effod. 6A gosod y meitr ar ei ben ef, a dod y goron gysegredig ar y meitr. 7Yna y cymeri #Pen 30:25olew yr eneiniad, ac y tywellti ar ei ben ef, ac yr eneini ef. 8A dwg ei feibion ef, a gwisg beisiau amdanynt. 9A gwregysa hwynt â gwregysau, sef Aaron a’i feibion, a #29:9 Heb. rhwym.gwisg hwynt â chapiau: a bydd yr offeiriadaeth iddynt yn ddeddf dragwyddol: a thi #Pen 28:41a #29:9 Heb. lenwi law.gysegri Aaron a’i feibion. 10A phâr ddwyn y bustach gerbron pabell y cyfarfod; a #Lef 1:4rhodded Aaron a’i feibion eu dwylo ar ben y bustach. 11A lladd y bustach gerbron yr Arglwydd, wrth ddrws pabell y cyfarfod. 12A chymer o waed y bustach, a dod ar #Pen 27:2; 30:2gyrn yr allor â’th fys; a thywallt yr holl waed arall wrth droed yr allor. 13#Lef 3:3Cymer hefyd yr holl fraster a fydd yn gorchuddio’r perfedd, a’r #29:13 y llengig yw, medd y dysgawdwyr Hebreaidd.rhwyden a fyddo ar yr afu, a’r ddwy aren, a’r braster a fyddo arnynt, a llosg ar yr allor. 14Ond #Lef 4:11, 21; Heb 13:11cig y bustach, a’i groen, a’i fiswail, a losgi mewn tân, o’r tu allan i’r gwersyll: aberth dros bechod yw.
15Cymer hefyd un hwrdd; a gosoded Aaron a’i feibion eu dwylo ar ben yr hwrdd. 16A lladd yr hwrdd; a chymer ei waed ef, a thaenella ar yr allor o amgylch. 17A thor yr hwrdd yn ddarnau; a golch ei berfedd, a’i draed, a dod hwynt ynghyd â’i ddarnau, ac #29:17 Neu, ar ei.â’i ben. 18A llosg yr hwrdd i gyd ar yr allor: poethoffrwm i’r Arglwydd yw: arogl peraidd, aberth tanllyd i’r Arglwydd yw.
19A chymer yr ail hwrdd; a rhodded Aaron a’i feibion eu dwylo ar ben yr hwrdd. 20Yna lladd yr hwrdd, a chymer o’i waed, a dod ar gwr isaf clust ddeau Aaron, ac ar gwr isaf clust ddeau ei feibion, ac ar fawd eu llaw ddeau hwynt, ac ar fawd eu troed deau hwynt; a thaenella’r gwaed arall ar yr allor o amgylch. 21A chymer o’r gwaed a fyddo ar yr allor, ac o #Pen 30:25olew yr eneiniad, a thaenella ar Aaron, ac ar ei wisgoedd, ar ei feibion hefyd, ac ar wisgoedd ei feibion gydag ef: felly #Heb 9:22sanctaidd fydd efe a’i wisgoedd, ei feibion hefyd, a gwisgoedd ei feibion gydag ef. 22Cymer hefyd o’r hwrdd, y gwêr a’r gloren, a’r gwêr sydd yn gorchuddio’r perfedd, a rhwyden yr afu, a’r ddwy aren, a’r gwêr sydd arnynt, a’r ysgwyddog ddeau; canys hwrdd cysegriad yw: 23Ac un dorth o fara, ac un deisen o fara olewedig, ac un afrlladen o gawell y bara croyw, yr hwn sydd gerbron yr Arglwydd. 24A dod y cwbl yn nwylo Aaron, ac yn nwylo ei feibion: #29:24 Neu, ac ysgwyd.a chyhwfana hwynt yn offrwm #29:24 Neu, ysgydwad.cyhwfan gerbron yr Arglwydd. 25A chymer hwynt o’u dwylo, a llosg ar yr allor yn boethoffrwm, yn arogl peraidd gerbron yr Arglwydd: aberth tanllyd i’r Arglwydd yw. 26Cymer hefyd #Lef 8:29barwyden hwrdd y cysegriad yr hwn fyddo dros Aaron, a chyhwfana hi yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd; a’th ran di fydd. 27A sancteiddia #Lef 7:34; Num 18:18; Deut 18:3barwyden yr offrwm cyhwfan, ac ysgwyddog yr offrwm dyrchafael, yr hon a gyhwfanwyd, a’r hon a ddyrchafwyd, o hwrdd y cysegriad, o’r hwn a fyddo dros Aaron, ac o’r hwn a fyddo dros ei feibion. 28Ac eiddo Aaron a’i feibion fydd trwy ddeddf dragwyddol oddi wrth feibion Israel: canys offrwm dyrchafael yw; ac #Lef 7:34offrwm dyrchafael a fydd oddi wrth feibion Israel o’u haberthau hedd, sef eu hoffrwm dyrchafael i’r Arglwydd.
29A dillad sanctaidd Aaron a fyddant i’w feibion ar ei ôl ef, i’w heneinio ynddynt, ac i’w cysegru ynddynt. 30#Num 20:28Yr hwn o’i feibion ef a fyddo offeiriad yn ei le ef, a’u gwisg hwynt saith niwrnod, pan ddelo i babell y cyfarfod i weini yn y cysegr.
31A chymer hwrdd y cysegriad, a berwa ei gig yn y lle sanctaidd. 32A bwytaed Aaron a’i feibion gig yr hwrdd, #Lef 8:31; Mat 12:4a’r bara yr hwn fydd yn y cawell, wrth ddrws pabell y cyfarfod. 33A hwy a fwytânt y pethau hyn y gwnaed y cymod â hwynt, i’w cysegru hwynt ac i’w sancteiddio: ond y dieithr ni chaiff eu bwyta; canys cysegredig ydynt. 34Ac os gweddillir o gig y cysegriad, neu o’r bara, hyd y bore; yna ti a losgi’r gweddill â thân: ni cheir ei fwyta, oblegid cysegredig yw. 35A gwna fel hyn i Aaron, ac i’w feibion, yn ôl yr hyn oll a orchmynnais i ti: saith niwrnod y cysegri hwynt. 36A phob dydd yr aberthi fustach yn aberth dros bechod, er cymod: a glanha yr allor, wedi i ti wneuthur cymod drosti, ac eneinia hi, i’w chysegru. 37Saith niwrnod y gwnei gymod dros yr allor, ac y sancteiddi hi: felly #Pen 40:10yr allor fydd sanctaidd: #Pen 30:29; Mat 23:19pob peth a gyffyrddo â’r allor, a sancteiddir.
38A dyma yr hyn a offrymi ar yr allor. #Num 28:3Dau oen blwyddiaid, #Edrych Dan 9:27; 12:11bob dydd yn wastadol. 39Yr oen cyntaf a offrymi di y bore; a’r ail oen a offrymi di yn y cyfnos. 40A chyda’r naill oen ddegfed ran o beilliaid wedi ei gymysgu â phedwaredd ran hin o olew coethedig: a phedwaredd ran hin o win, yn ddiod‐offrwm. 41A’r oen arall a offrymi di yn y cyfnos, ac a wnei iddo yr un modd ag i fwyd‐offrwm y bore, ac i’w ddiod‐offrwm, i fod yn arogl peraidd, yn aberth tanllyd i’r Arglwydd: 42Yn boethoffrwm gwastadol trwy eich oesoedd, wrth ddrws pabell y cyfarfod, gerbron yr Arglwydd; #Pen 30:36lle y cyfarfyddaf â chwi, i lefaru wrthyt yno. 43Ac yn y lle hwnnw y cyfarfyddaf â meibion Israel; ac efe a sancteiddir trwy fy ngogoniant. 44A mi a sancteiddiaf babell y cyfarfod a’r allor; ac Aaron a’i feibion a sancteiddiaf, i offeiriadu i mi.
45A #Pen 25:8; Lef 26:12; Sech 2:10; 2 Cor 6:16; Dat 21:3mi a breswyliaf ymysg meibion Israel, ac a fyddaf yn Dduw iddynt. 46A hwy a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd eu Duw, yr hwn a’u dygais hwynt allan o dir yr Aifft, fel y trigwn yn eu plith hwynt: myfi yw yr Arglwydd eu Duw.

Currently Selected:

Exodus 29: BWM1955C

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in