YouVersion Logo
Search Icon

Exodus 24

24
1 Galw Moses i’r mynydd. 3 Y bobl yn addo ufudd‐dod. 4 Moses yn adeiladu allor, a deuddeg colofn: 6 yn taenellu gwaed y cyfamod. 14 Aaron a Hur â siars y bobl arnynt. 15 Moses yn myned i’r mynydd; lle y mae efe yn aros ddeugain niwrnod a deugain nos.
1Ac efe a ddywedodd wrth Moses, Tyred i fyny at yr Arglwydd, ti ac Aaron, Nadab ac Abihu, a’r deg a thrigain o henuriaid Israel; ac addolwch o hirbell. 2Ac aed Moses ei hun at yr Arglwydd; ac na ddelont hwy, ac nac aed y bobl i fyny gydag ef.
3A Moses a ddaeth, ac a fynegodd i’r bobl holl eiriau yr Arglwydd, a’r holl farnedigaethau. Ac atebodd yr holl bobl yn unair, ac a ddywedasant, #ad. 7; Pen 19:8; Deut 5:27Ni a wnawn yr holl eiriau a lefarodd yr Arglwydd. 4A Moses a ysgrifennodd holl eiriau yr Arglwydd; ac a gododd yn fore, ac a adeiladodd allor islaw y mynydd, a deuddeg colofn, yn ôl deuddeg llwyth Israel. 5Ac efe a anfonodd lanciau meibion Israel; a hwy a offrymasant boethoffrymau, ac a aberthasant fustych yn ebyrth hedd i’r Arglwydd. 6A chymerodd Moses hanner y gwaed, ac a’i gosododd mewn cawgiau, a hanner y gwaed a daenellodd efe ar yr allor. 7Ac efe a gymerth lyfr y cyfamod, ac a’i darllenodd lle y clywai’r bobl. A dywedasant, #ad. 3Ni a wnawn, ac a wrandawn yr hyn oll a lefarodd yr Arglwydd. 8A chymerodd Moses y gwaed, ac a’i taenellodd ar y bobl; ac a ddywedodd, Wele #Heb 9:20; 13:20; 1 Pedr 1:2waed y cyfamod, yr hwn a wnaeth yr Arglwydd â chwi, yn ôl yr holl eiriau hyn.
9Yna yr aeth Moses i fyny, ac Aaron, Nadab ac Abihu, a deg a thrigain o henuriaid Israel. 10A gwelsant Dduw Israel; a than ei draed megis gwaith o faen #Esec 1:26; 10:1saffir, ac fel corff y nefoedd o ddisgleirder. 11Ac ni roddes ei law ar bendefigion meibion Israel; ond #Gen 16:13; 32:30; Pen 33:20; Deut 4:33; Barn 13:22gwelsant Dduw, a bwytasant ac yfasant.
12A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Tyred i fyny ataf i’r mynydd, a bydd yno: a mi a roddaf i ti #Pen 31:18; 32:16lechau cerrig, a chyfraith, a gorchmynion, y rhai a ysgrifennais, i’w dysgu hwynt. 13A chododd Moses, a Josua #Pen 32:17ei weinidog; ac aeth Moses i fyny i fynydd Duw. 14Ac wrth yr henuriaid y dywedodd, Arhoswch ni yma, hyd oni ddelom ni atoch drachefn: ac wele, Aaron a Hur gyda chwi; pwy bynnag a fyddo ag achos iddo, deued atynt hwy. 15A Moses a aeth i fyny i’r mynydd; a #Pen 19:9, 16chwmwl a orchuddiodd y mynydd. 16A #Num 14:10gogoniant yr Arglwydd a arhodd ar fynydd Sinai, a’r cwmwl a’i gorchuddiodd chwe diwrnod: ac efe a alwodd am Moses y seithfed dydd o ganol y cwmwl. 17A’r golwg ar ogoniant yr Arglwydd oedd fel tân #Deut 4:36yn difa ar ben y mynydd, yng ngolwg meibion Israel. 18A Moses a aeth i ganol y cwmwl, ac a aeth i fyny i’r mynydd: a #Pen 34:28; Deut 9:9bu Moses yn y mynydd ddeugain niwrnod a deugain nos.

Currently Selected:

Exodus 24: BWM1955C

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in