YouVersion Logo
Search Icon

Exodus 2

2
1 Geni Moses, 3 a’i fwrw mewn cawell yn yr hesg. 5 Merch Pharo yn ei gael ef, ac yn ei ddwyn i fyny. 11 Efe yn lladd Eifftwr: 13 yn ceryddu Hebrëwr: 15 yn ffoi i Midian: 21 yn priodi Seffora. 22 Genedigaeth Gersom. 23 Duw yn ystyried uchenaid yr Israeliaid.
1Yna #Pen 6:20; Num 26:59; 1 Cron 23:14gŵr o dŷ Lefi a aeth, ac a briododd ferch i Lefi. 2A’r wraig a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab: a phan welodd hi mai tlws ydoedd efe, #Act 7:20; Heb 11:23hi a’i cuddiodd ef dri mis. 3A phan na allai hi ei guddio ef yn hwy, hi a gymerodd gawell iddo ef o lafrwyn, ac a ddwbiodd hwnnw â chlai ac â phyg; ac a osododd y bachgen ynddo, ac a’i rhoddodd ymysg yr hesg ar fin yr afon. 4A’i chwaer ef a safodd o bell, i gael gwybod beth a wneid iddo ef.
5A merch Pharo a ddaeth i waered i’r afon i ymolchi; (a’i llancesau oedd yn rhodio gerllaw yr afon;) a hi a ganfu’r cawell yng nghanol yr hesg, ac a anfonodd ei llawforwyn i’w gyrchu ef. 6Ac wedi iddi ei agoryd, hi a ganfu’r bachgen; ac wele y plentyn yn wylo: a hi a dosturiodd wrtho, ac a ddywedodd, Un o blant yr Hebreaid yw hwn. 7Yna ei chwaer ef a ddywedodd wrth ferch Pharo, A af fi i alw atat famaeth o’r Hebreësau, fel y mago hi y bachgen i ti? 8A merch Pharo a ddywedodd wrthi, Dos. A’r llances a aeth ac a alwodd fam y bachgen. 9A dywedodd merch Pharo wrthi, Dwg ymaith y bachgen hwn, a maga ef i mi, a minnau a roddaf i ti dy gyflog. A’r wraig a gymerodd y bachgen, ac a’i magodd. 10Pan aeth y bachgen yn fawr, hi a’i dug ef i ferch Pharo; ac efe a fu iddi yn fab: a hi a alwodd ei enw ef #2:10 Sef, Un a dynnwyd allan.Moses; Oherwydd (eb hi) o’r dwfr y tynnais ef.
11A bu yn y dyddiau hynny, #Act 7:23; Heb 11:24pan aeth Moses yn fawr, fyned ohono allan at ei frodyr, ac edrych ar eu beichiau hwynt, a gweled Eifftwr yn taro Hebrëwr, un o’i frodyr. 12Ac efe a edrychodd yma ac acw; a phan welodd nad oedd yno neb, efe a laddodd yr Eifftiad, ac a’i cuddiodd yn y tywod. 13Ac #Act 7:26efe a aeth allan yr ail ddydd; ac wele ddau Hebrëwr yn ymryson: ac efe a ddywedodd wrth yr hwn oedd ar y cam, Paham y trewi dy gyfaill? 14A dywedodd yntau, Pwy a’th osododd di yn #2:14 dywysog.bennaeth ac yn frawdwr arnom ni? ai meddwl yr wyt ti fy lladd i, megis y lleddaist yr Eifftiad? A Moses a ofnodd, ac a ddywedodd, Diau y gwyddir y peth hyn. 15Pan glybu Pharo y peth hyn, efe a geisiodd ladd Moses: ond #Act 7:29Moses a ffodd rhag Pharo, ac a arhosodd yn nhir Midian; ac a eisteddodd wrth bydew. 16Ac i #2:16 dywysog. Felly Gen 41:45offeiriad Midian yr ydoedd saith o ferched: a’r rhai hynny a ddaethant ac a dynasant ddwfr, ac a lanwasant y cafnau i ddyfrhau defaid eu tad. 17Ond y bugeiliaid a ddaethant ac a’u gyrasant ymaith: yna y cododd Moses, ac a’u cynorthwyodd hwynt, ac a ddyfrhaodd eu praidd hwynt. 18Yna y daethant at Reuel eu tad: ac efe a ddywedodd, #2:18 pa fodd.Paham y daethoch heddiw cyn gynted? 19A hwy a ddywedasant, Eifftwr a’n hachubodd ni o law y bugeiliaid; a chan dynnu a dynnodd ddwfr hefyd i ni, ac a ddyfrhaodd y praidd. 20Ac efe a ddywedodd wrth ei ferched, Pa le y mae efe? paham y gollyngasoch ymaith y gŵr? Gelwch arno, a bwytaed fara. 21A bu Moses fodlon i drigo gyda’r gŵr: ac yntau a roddodd Seffora ei ferch i Moses. 22A hi a esgorodd ar fab; ac efe a alwodd ei enw ef #Pen 18:3Gersom: Oherwydd #Heb 11:13, 14dieithr (eb efe) a fûm i mewn gwlad ddieithr.
23Ac #Pen 7:7 Act 7:30yn ôl dyddiau lawer, bu farw brenin yr Aifft; a phlant Israel #Num 20:16a ucheneidiasant oblegid y caethiwed, ac a waeddasant; #Gen 18:20; Pen 22:23, 27 Deut 24:15; Iago 5:4a’u gwaedd hwynt a ddyrchafodd at Dduw, oblegid y caethiwed. 24A Duw a glybu eu huchenaid hwynt; a Duw a gofiodd ei #Gen 15:14; 46:4gyfamod ag Abraham, ag Isaac, ac â Jacob. 25A Duw a edrychodd ar blant Israel; Duw hefyd #Pen 3:7a gydnabu â hwynt.

Currently Selected:

Exodus 2: BWM1955C

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in