YouVersion Logo
Search Icon

Exodus 10

10
1 Duw yn bygwth anfon locustiaid. 7 Pharo, ar ddeisyfiad ei weision, yn lled‐fodlon i’r Israeliaid fyned ymaith. 12 Pla y locustiaid. 16 Pharo yn ymbil â Moses. 21 Pla y tywyllwch anferthol. 24 Pharo yn ymbil â Moses: 27 eto efe a galon‐galedir.
1A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Dos at Pharo: #Pen 4:21; 7:14oherwydd mi a galedais ei galon ef, a chalon ei weision; fel y dangoswn fy arwyddion hyn yn ei ŵydd ef: 2Ac fel #Salm 71:18; 78:5 &cy mynegit wrth dy fab, a mab dy fab, yr hyn a wneuthum yn yr Aifft, a’m harwyddion a wneuthum yn eu plith hwynt; ac y gwypoch mai myfi yw yr Arglwydd. 3A daeth Moses ac Aaron i mewn at Pharo, a dywedasant wrtho, Fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw yr Hebreaid; Pa hyd y gwrthodi ymostwng ger fy mron? gollwng ymaith fy mhobl, fel y’m gwasanaethont. 4Oherwydd os ti a wrthodi ollwng fy mhobl, wele, yfory y dygaf locustiaid i’th fro; 5A hwynt‐hwy a orchuddiant #10:5 Heb. lygad.wyneb y ddaear, fel na allo un weled y ddaear: a #Joel 1:4hwy a ysant y gweddill a adawyd i chwi yn ddihangol gan y cenllysg; difânt hefyd bob pren a fyddo yn blaguro i chwi yn y maes. 6Llanwant hefyd dy dai di, a thai dy holl weision, a thai yr holl Eifftiaid, y rhai ni welodd dy dadau, na thadau dy dadau, er y dydd y buont ar y ddaear hyd y dydd hwn. Yna efe a drodd, ac a aeth allan oddi wrth Pharo. 7A gweision Pharo a ddywedasant wrtho, Pa hyd y bydd hwn yn fagl i ni? gollwng ymaith y gwŷr, fel y gwasanaethont yr Arglwydd eu Duw: Oni wyddost ti eto ddifetha’r Aifft? 8A dychwelwyd Moses ac Aaron at Pharo: ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch, gwasanaethwch yr Arglwydd eich Duw: ond #10:8 Heb. pwy a phwy.pa rai sydd yn myned? 9A Moses a ddywedodd, A’n llanciau, ac â’n hynafgwyr, yr awn ni; â’n meibion hefyd, ac â’n merched, â’n defaid, ac â’n gwartheg, yr awn ni: oblegid rhaid i ni gadw gŵyl i’r Arglwydd 10Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yr un modd y byddo’r Arglwydd gyda chwi, ag y gollyngaf chwi, a’ch rhai bach: gwelwch, mai ar ddrwg y mae eich bryd. 11Nid felly; ewch yn awr, y gwŷr, a gwasanaethwch yr Arglwydd: canys hyn yr oeddech yn ei geisio. Felly hwy a yrrwyd allan o ŵydd Pharo.
12A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Estyn dy law ar wlad yr Aifft am locustiaid, fel y delont i fyny ar dir yr Aifft; ac y bwytaont holl lysiau y ddaear, sef y cwbl a’r a adawodd y cenllysg. 13A Moses a estynnodd ei wialen ar dir yr Aifft: a’r Arglwydd a ddug ddwyreinwynt ar y tir yr holl ddiwrnod hwnnw, a’r holl nos honno; a phan ddaeth y bore, gwynt y dwyrain a ddug locustiaid. 14A’r #Salm 78:46; 105:34locustiaid a aethant i fyny dros holl wlad yr Aifft, ac a arosasant ym mhob ardal i’r Aifft: blin iawn oeddynt; #Joel 2:2ni bu’r fath locustiaid o’u blaen hwynt, ac ar eu hôl ni bydd y cyffelyb. 15Canys toesant wyneb yr holl dir, a thywyllodd y wlad; a hwy a ysasant holl lysiau y ddaear, a holl ffrwythau y coed, yr hyn a weddillasai y cenllysg: ac ni adawyd dim gwyrddlesni ar goed, nac ar lysiau y maes, o fewn holl wlad yr Aifft.
16Yna Pharo #10:16 Heb. a frysiodd i alw.a alwodd am Moses ac Aaron ar frys; ac a ddywedodd, Pechais yn erbyn yr Arglwydd eich Duw, ac yn eich erbyn chwithau. 17Ac yn awr maddau, atolwg, fy mhechod y waith hon yn unig, a #Pen 9:28gweddïwch ar yr Arglwydd eich Duw, ar iddo dynnu oddi wrthyf y farwolaeth hon yn unig. 18A Moses a aeth allan oddi wrth Pharo, ac a weddïodd ar yr Arglwydd. 19A’r Arglwydd a drodd wynt gorllewin cryf iawn, ac efe a gymerodd ymaith y locustiaid, ac a’u #10:19 Heb. rhwymodd.bwriodd hwynt #Joel 2:20i’r môr coch: ni adawyd un locust o fewn holl derfynau yr Aifft. 20Er hynny #Pen 4:21; 11:10caledodd yr Arglwydd galon Pharo, fel na ollyngai efe feibion Israel ymaith.
21A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Estyn dy law tua’r nefoedd, fel y byddo tywyllwch ar dir yr Aifft, tywyllwch a aller ei deimlo. 22A Moses a estynnodd ei law tua’r nefoedd: a bu #Salm 105:28tywyllwch dudew trwy holl wlad yr Aifft dri diwrnod. 23Ni welai neb ei gilydd, ac ni chododd neb o’i le dri diwrnod: #Pen 8:22ond yr ydoedd goleuni i holl feibion Israel yn eu trigfannau.
24A galwodd Pharo am Moses ac Aaron, ac a ddywedodd, Ewch, gwasanaethwch yr Arglwydd; arhoed eich defaid, a’ch gwartheg yn unig; aed eich rhai bach hefyd gyda chwi. 25A dywedodd Moses, Ti a roddi hefyd yn ein dwylo ebyrth a phoethoffrymau, fel yr aberthom i’r Arglwydd ein Duw. 26Aed ein hanifeiliaid hefyd gyda ni; ni adewir ewin yn ôl: oblegid ohonynt y cymerwn i wasanaethu yr Arglwydd ein Duw: ac nis gwyddom â pha beth y gwasanaethwn yr Arglwydd, hyd oni ddelom yno.
27Ond yr Arglwydd #Pen 14:4, 8a galedodd galon Pharo, ac ni fynnai eu gollwng hwynt. 28A dywedodd Pharo wrtho, Dos oddi wrthyf, gwylia arnat rhag gweled fy wyneb mwy: oblegid y dydd y gwelych fy wyneb, y byddi farw. 29A dywedodd Moses, Uniawn y dywedaist, #Heb 11:27ni welaf dy wyneb mwy.

Currently Selected:

Exodus 10: BWM1955C

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in