YouVersion Logo
Search Icon

Exodus 10:21-23

Exodus 10:21-23 BWM1955C

A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Estyn dy law tua’r nefoedd, fel y byddo tywyllwch ar dir yr Aifft, tywyllwch a aller ei deimlo. A Moses a estynnodd ei law tua’r nefoedd: a bu tywyllwch dudew trwy holl wlad yr Aifft dri diwrnod. Ni welai neb ei gilydd, ac ni chododd neb o’i le dri diwrnod: ond yr ydoedd goleuni i holl feibion Israel yn eu trigfannau.