YouVersion Logo
Search Icon

Deuteronomium 7

7
1 Gwahardd pob cyfeillach â’r cenhedloedd, 4 rhag ofn delw‐addoliaeth, 6 o ran sancteiddrwydd y bobl, 9 o ran naturiaeth Duw yn ei drugaredd a’i gyfiawnder, 17 o ran sicred yr oruchafiaeth a rydd Duw drostynt.
1Pan y’th ddygo yr #Pen 31:3 Arglwydd dy Dduw i mewn i’r wlad yr ydwyt ti yn myned iddi i’w meddiannu, a gyrru ohono ymaith genhedloedd lawer o’th flaen di, #Gen 15:19yr Hethiaid, a’r Girgasiaid, a’r Amoriaid, a’r Canaaneaid, a’r Pheresiaid, a’r Hefiaid, a’r Jebusiaid, saith o genhedloedd lluosocach a chryfach na thydi; 2A rhoddi o’r Arglwydd dy Dduw hwynt o’th flaen di, a tharo ohonot ti hwynt: #Lef 27:21, 28; Num 33:52; Jos 6:17; 8:24; 10:28, 40; 11:11, 12gan ddifrodi difroda hwynt; #Exod 23:32; 34:12, 15, 16; Edrych Pen 20:10; Jos 2:14; 9:18; Barn 1:24na wna gyfamod â hwynt, ac na thrugarha wrthynt. 3#1 Bren 11:2Nac ymgyfathracha chwaith â hwynt: na ddod dy ferch i’w fab ef, ac na chymer ei ferch ef i’th fab dithau. 4Canys efe a dry dy fab di oddi ar fy ôl i, fel y gwasanaethont dduwiau dieithr: felly yr ennyn llid yr Arglwydd i’ch erbyn chwi, ac a’th ddifetha di yn ebrwydd 5Ond fel hyn y gwnewch iddynt: #Exod 23:24Dinistriwch eu hallorau, a thorrwch eu colofnau hwynt; cwympwch hefyd eu llwynau, a llosgwch eu delwau cerfiedig hwy yn y tân. 6#Pen 14:2; 26:19Canys pobl sanctaidd ydwyt ti i’r Arglwydd dy Dduw: #Exod 19:5; Amos 3:2; 1 Pedr 2:9yr Arglwydd dy Dduw a’th ddewisodd di i fod yn bobl unig iddo ei hun, o’r holl bobloedd sydd ar wyneb y ddaear. 7Nid am eich bod yn lluosocach na’r holl bobloedd, yr hoffodd yr Arglwydd chwi, ac y’ch dewisodd; oherwydd yr oeddech chwi yn anamlaf o’r holl bobloedd: 8Ond #Pen 10:15oherwydd caru o’r Arglwydd chwi, ac er mwyn cadw ohono ef y llw a dyngodd efe wrth eich tadau, y dug yr Arglwydd chwi allan â llaw gadarn, ac a’ch gwaredodd o dŷ y caethiwed, o law Pharo brenin yr Aifft. 9Gwybydd gan hynny mai yr Arglwydd dy Dduw sydd Dduw, sef y Duw #Esa 49:7; 1 Cor 1:9; 10:13; 2 Cor 1:18; 1 Thess 5:24; 2 Thess 3:3; 2 Tim 2:13; Heb 11:11; 1 Ioan 1:9ffyddlon, #Exod 20:6yn cadw cyfamod a thrugaredd â’r rhai a’i carant ef, ac a gadwant ei orchmynion, hyd fil o genedlaethau; 10Ac #Nahum 1:2yn talu’r pwyth i’w gas, yn ei wyneb gan ei ddifetha ef: nid oeda efe i’w gas; yn ei wyneb y tâl efe iddo. 11Cadw gan hynny y gorchmynion, a’r deddfau, a’r barnedigaethau, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw, i’w gwneuthur.
12A #Lef 26:3; Pen 28:1bydd, o achos gwrando ohonoch ar y barnedigaethau hyn, a’u cadw, a’u gwneuthur hwynt; y ceidw yr Arglwydd dy Duw â thi y cyfamod, a’r drugaredd, a addawodd efe trwy lw i’th dadau di: 13Ac a’th gâr, ac a’th fendithia, ac a’th amlha di; ac a fendiga ffrwyth dy fru, a ffrwyth dy dir di, dy ŷd, a’th win, a’th olew, a chynnydd dy wartheg, a diadellau dy ddefaid, yn y tir y tyngodd efe wrth dy dadau, ar ei roddi i ti. 14Bendigedig fyddi uwchlaw yr holl bobloedd: #Exod 23:26 &cni bydd yn dy blith di un gwryw nac un fenyw yn anffrwythlon, nac ymhlith dy anifeiliaid di. 15Hefyd yr Arglwydd a dynn oddi wrthyt ti bob gwendid, ac ni esyd arnat ti yr un o #Exod 9:14; 15:26; Pen 28:27, 60glefydau drwg yr Aifft, y rhai a adwaenost: ond ar dy holl gaseion di y rhydd efe hwynt. 16Difetha gan hynny yr holl bobloedd y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi i ti: nac arbeded dy lygad hwynt, ac na wasanaetha eu duwiau hwynt; oblegid #Exod 23:33; Pen 12:30magl i ti a fyddai hynny. 17Os dywedi yn dy galon, Lluosocach yw y cenhedloedd hyn na myfi; pa ddelw y gallaf eu gyrru hwynt ymaith? 18Nac ofna rhagddynt: gan gofio cofia yr hyn a wnaeth yr Arglwydd dy Dduw i Pharo, ac i’r holl Aifft: 19#Pen 4:34; 29:3Y profedigaethau mawrion y rhai a welodd dy lygaid, a’r arwyddion, a’r rhyfeddodau, a’r llaw gadarn, a’r braich estynedig, â’r rhai y’th ddug yr Arglwydd dy Dduw allan: felly y gwna’r Arglwydd dy Dduw i’r holl bobloedd yr wyt ti yn eu hofni. 20#Exod 23:28; Jos 24:12A’r Arglwydd dy Dduw hefyd a ddenfyn gacwn yn eu plith hwynt, hyd oni ddarfyddo am y rhai gweddill, a’r rhai a ymguddiant rhagot ti. 21Nac ofna rhagddynt: oblegid yr Arglwydd dy Dduw sydd yn dy ganol di, yn Dduw mawr, ac ofnadwy. 22A’r Arglwydd dy Dduw a #7:22 Heb. dyn.yrr ymaith y cenhedloedd hynny o’th flaen di, bob ychydig ac ychydig: ni elli eu difetha hwynt ar unwaith, rhag myned o fwystfilod y maes yn amlach na thydi. 23Ond yr Arglwydd dy Dduw a’u rhydd hwynt o’th flaen di, ac a’u cystuddia hwynt â chystudd dirfawr, nes eu difetha hwynt; 24Ac #Jos 12:1a rydd eu brenhinoedd hwynt yn dy law di, a thi a ddifethi eu henw hwynt oddi tan y nefoedd: ni saif gŵr yn dy wyneb di, nes difetha ohonot ti hwynt. 25#Pen 12:3; Exod 32:20Llosg ddelwau cerfiedig eu duwiau hwynt yn tân: #Jos 7:1, 21na chwennych na’r arian na’r aur a fyddo arnynt, i’w cymryd i ti; rhag dy #Seff 1:3faglu ag ef: oblegid ffieidd‐dra i’r Arglwydd dy Dduw ydyw. 26Na ddwg dithau ffieidd‐dra i’th dŷ, fel y byddech ysgymunbeth megis yntau: gan ddirmygu dirmyga ef, a chan ffieiddio ffieiddia ef: #Pen 13:17; Lef 27:28oblegid ysgymunbeth yw efe.

Currently Selected:

Deuteronomium 7: BWM1955C

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in