Deuteronomium 12
12
1 Bod yn rhaid dinistrio pob lle y buasai delw‐addoliaeth ynddo, 5 a chyrchu i’r lle a ddewisodd Duw i’w wasanaeth. 16, 23 Gwahardd gwaed. 17, 20, 26 Rhaid yw bwyta pethau sanctaidd yn y lle sanctaidd. 19 Na wrthoder y Lefiad. 29 Nac ymoroler am gau‐dduwiau.
1Dyma’r deddfau a’r barnedigaethau, y rhai a wyliwch ar eu gwneuthur, yn y tir a rydd Arglwydd Dduw dy dadau i ti i’w feddiannu, yr holl ddyddiau y byddoch fyw ar y ddaear. 2#Pen 7:5Gan ddinistrio dinistriwch yr holl fannau, y rhai y gwasanaethodd y cenhedloedd yr ydych chwi yn eu #12:2 Neu, etifeddu.meddiannu eu duwiau ynddynt, ar y mynyddoedd uchel, ac ar y bryniau, a than bob pren gwyrddlas. 3#Barn 2:2Drylliwch hefyd eu hallorau hwynt, a thorrwch eu colofnau hwynt, a llosgwch eu llwynau hwynt â thân, a thorrwch gerfiedig ddelwau eu duwiau hwynt, a dinistriwch eu henwau hwynt o’r lle hwnnw. 4Na wnewch felly i’r Arglwydd eich Duw. 5Ond y lle #1 Bren 8:29; 2 Cron 7:12a ddewiso yr Arglwydd eich Duw o’ch holl lwythau chwi, i osod ei enw yno, ei drigfa ef a geisiwch, ac yno y deuwch: 6A dygwch #Lef 17:3yno eich poethoffrymau, a’ch aberthau, a’ch #ad. 17; Pen 14:22; 15:19, 20degymau, ac offrwm dyrchafael eich llaw, eich addunedau hefyd, a’ch offrymau gwirfodd, a chyntaf‐anedig eich gwartheg a’ch defaid. 7A bwytewch #Pen 14:26yno gerbron yr Arglwydd eich Duw, a llawenhewch ym mhob dim y rhoddoch eich llaw arno, chwychwi a’ch teuluoedd, yn yr hyn y’th fendithiodd yr Arglwydd dy Dduw. 8Na wnewch yn ôl yr hyn oll yr ydym ni yn ei wneuthur yma heddiw, pob un yr hyn fyddo uniawn yn ei olwg ei hun. 9Canys ni ddaethoch hyd yn hyn i’r orffwysfa, ac i’r etifeddiaeth, yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti. 10Ond pan eloch dros yr Iorddonen, a thrigo yn y tir yr hwn y mae yr Arglwydd eich Duw yn ei roddi yn etifeddiaeth i chwi, a phan roddo lonydd i chwi oddi wrth eich holl elynion o amgylch, fel y preswylioch yn ddiogel: 11Yna y bydd #1 Bren 8:29; Salm 78:68lle wedi i’r Arglwydd eich Duw ei ddewis iddo, i beri i’w enw aros ynddo; yno y dygwch yr hyn oll yr ydwyf fi yn ei orchymyn i chwi; sef eich poethoffrymau, a’ch aberthau, eich degymau, a dyrchafael‐offrwm eich llaw, #12:11 Heb. a holl ddewis eich addunedau.a’ch holl ddewis addunedau, y rhai a addunedoch i’r Arglwydd. 12A llawenhewch gerbron yr Arglwydd eich Duw; chwi, a’ch meibion, a’ch merched, a’ch gweision, a’ch morynion, a’r Lefiad a fyddo yn eich pyrth chwi: canys #Pen 10:9nid oes iddo ran nac etifeddiaeth gyda chwi. 13Gwylia arnat rhag poethoffrymu ohonot dy boethoffrymau ym mhob lle a’r a welych: 14Ond yn y lle a ddewiso yr Arglwydd o fewn un o’th lwythau di, yno yr offrymi dy boethoffrymau, ac y gwnei yr hyn oll yr ydwyf fi yn ei orchymyn i ti. 15Er hynny ti a gei ladd a bwyta cig yn ôl holl ddymuniant dy galon, yn ôl bendith yr Arglwydd dy Dduw, yr hon a rydd efe i ti, yn dy holl byrth: #ad. 22yr aflan a’r glân a fwyty ohono, megis o’r iwrch a’r carw. 16#Gen 9:4; Lef 7:26; 17:10; Pen 15:23Ond na fwytewch y gwaed; ar y ddaear y tywelltwch ef fel dwfr.
17Ni elli fwyta o fewn dy byrth ddegfed dy ŷd, na’th win, na’th olew, na chyntaf‐anedig dy wartheg, na’th ddefaid, na’th holl addunedau y rhai a addunech, na’th offrymau gwirfodd, na dyrchafael‐offrwm dy law: 18Ond o flaen yr Arglwydd dy Dduw y bwytei hwynt, yn y lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw; ti, a’th fab, a’th ferch, a’th was, a’th forwyn, a’r Lefiad a fyddo yn dy byrth di: llawenycha gerbron yr Arglwydd dy Dduw yn yr hyn oll yr estynnech dy law arno. 19#Pen 14:27Gwylia arnat rhag gadael y Lefiad, #12:19 Heb. dy holl ddyddiau.tra fyddech byw ar y ddaear.
20Pan helaetho yr Arglwydd dy Dduw dy derfyn di, #Gen 15:18; 28:14; Pen 11:24; 19:8megis y dywedodd wrthyt, os dywedi, Bwytâf gig, (pan ddymuno dy galon fwyta cig,) yn ôl holl ddymuniad dy galon y bwytei gig. 21Os y lle a ddewisodd yr Arglwydd dy Dduw i roddi ei enw ynddo, fydd pell oddi wrthyt; yna lladd o’th wartheg, ac o’th ddefaid, y rhai a roddodd yr Arglwydd i ti, megis y gorchmynnais i ti, a bwyta o fewn dy byrth wrth holl ddymuniad dy galon. 22#ad. 15Eto fel y bwyteir yr iwrch a’r carw, felly y bwytei ef: yr aflan a’r glân a’i bwyty yn yr un ffunud. 23#ad. 16Yn unig #12:23 Heb. ymgryfha.bydd sicr na fwytaech #Lef 17:11, 14y gwaed: canys y gwaed yw yr einioes; ac ni chei fwyta yr einioes ynghyd â’r cig. 24Na fwyta ef; ar y ddaear y tywellti ef fel dwfr. 25Na fwyta ef; fel y byddo daioni i ti, ac i’th feibion ar dy ôl, pan wnelych yr uniawn yng ngolwg yr Arglwydd. 26Eto cymer dy gysegredig bethau y rhai sydd gennyt, a’th addunedau, a thyred i’r lle a ddewiso yr Arglwydd. 27Ac #Lef 1:5, 9, 13offryma dy boethoffrwm, (y cig a’r gwaed,) ar allor yr Arglwydd dy Dduw: a gwaed dy aberthau a dywelltir wrth allor yr Arglwydd dy Dduw; a’r cig a fwytei di. 28Cadw a gwrando yr holl eiriau hyn yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti; fel y byddo daioni i ti, ac i’th feibion ar dy ôl byth, pan wnelych yr hyn sydd dda ac uniawn yng ngolwg yr Arglwydd dy Dduw.
29Pan ddinistrio yr Arglwydd dy Dduw y cenhedloedd, y rhai yr wyt ti yn myned atynt i’w meddiannu, o’th flaen di, a #12:29 Heb. meddiannu, neu, etifeddu ohonot hwynt.dyfod ohonot yn eu lle hwynt, a phreswylio yn eu tir hwynt: 30Gwylia arnat #Pen 7:16rhag ymfaglu ohonot ar eu hôl hwynt, wedi eu dinistrio hwynt o’th flaen di; a rhag ymorol am eu duwiau hwynt, gan ddywedyd, Pa fodd y gwasanaethodd y cenhedloedd hyn eu duwiau? myfi a wnaf felly hefyd. 31Na wna di felly i’r Arglwydd dy Dduw: canys pob ffieidd‐dra #12:31 Heb. yr Arglwydd, yr hwn oedd gas ganddo.yr hwn oedd gas gan yr Arglwydd, a wnaethant hwy i’w duwiau: canys #Lef 18:21; 20:2; Pen 18:10; Jer 32:35eu meibion hefyd a’u merched a losgasant yn tân i’w duwiau. 32Pob gair yr wyf fi yn ei orchymyn i chwi, edrychwch am wneuthur hynny: #Pen 4:2na chwanega ato, ac na thyn oddi wrtho.
Currently Selected:
Deuteronomium 12: BWM1955C
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society