YouVersion Logo
Search Icon

Deuteronomium 10

10
1 Trugaredd Duw, yn ail‐roddi y ddwy lech: 6 yn sicrhau yr offeiriadaeth; 8 yn neilltuo llwyth Lefi: 10 yn gwrando ar weddi Moses dros y bobl. 12 Annog i ufudd‐dod.
1Yr amser hwnnw y dywedodd yr Arglwydd wrthyf, #Exod 34:1Nadd i ti ddwy lech faen, fel y rhai cyntaf; a thyred i fyny ataf fi i’r mynydd, a gwna i ti arch bren. 2A mi a ysgrifennaf ar y llechau y geiriau oedd ar y llechau cyntaf, y rhai a dorraist; a gosod dithau hwynt yn yr arch. 3Yna gwneuthum arch o goed #Exod 25:5, 10Sittim; ac a neddais ddwy lech faen, fel y rhai cyntaf; ac a euthum i fyny i’r mynydd, a’r ddwy lech yn fy llaw. 4Ac #Exod 34:28efe a ysgrifennodd ar y llechau, fel yr ysgrifen gyntaf, y #10:4 deg gorchymyn.dengair, a lefarodd yr Arglwydd wrthych yn y mynydd, o ganol y tân, yn nydd y gymanfa: a rhoddes yr Arglwydd hwynt ataf fi. 5Yna y dychwelais ac y deuthum i waered o’r mynydd, ac a osodais y llechau yn yr arch, yr hon a wnaethwn, ac yno y maent; megis y gorchmynnodd yr Arglwydd i mi.
6A #Num 33:31meibion Israel a aethant o Beeroth meibion Jacan i #Num 33:30Mosera: #Num 20:28; 33:38yno y bu farw Aaron, ac efe a gladdwyd yno; ac Eleasar ei fab a offeiriadodd yn ei le ef. 7#Num 33:32, 33Oddi yno yr aethant i Gudgoda; ac o Gudgoda i Jotbath, tir afonydd dyfroedd.
8Yr amser hwnnw #Num 3:6; 4:4; 8:14y neilltuodd yr Arglwydd lwyth Lefi, i ddwyn arch cyfamod yr Arglwydd, i sefyll gerbron yr Arglwydd, i’w wasanaethu ef, ac i #Lef 9:22; Num 6:23fendigo yn ei enw ef, hyd y dydd hwn. 9#Num 18:20; Pen 18:1 Esec 44:28Am hynny ni bydd rhan i Lefi, nac etifeddiaeth gyda’i frodyr: yr Arglwydd yw ei etifeddiaeth ef; megis y dywedodd yr Arglwydd dy Dduw wrtho ef. 10A #Exod 34:28mi a arhoais yn y mynydd ddeugain niwrnod a deugain nos, fel y #10:10 Neu, y deugain niwrnod cyntaf.dyddiau cyntaf: #Exod 32:14, 33; 33:17; Pen 9:19a gwrandawodd yr Arglwydd arnaf y waith hon hefyd; ni ewyllysiodd yr Arglwydd dy ddifetha di. 11#Exod 32:34; 33:1A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Cyfod, dos i’th daith o flaen y bobl; fel yr elont i mewn ac y meddiannont y tir, yr hwn a dyngais wrth eu tadau ar ei roddi iddynt.
12Ac yr awr hon, Israel, #Micha 6:8beth y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei ofyn gennyt, ond ofni yr Arglwydd dy Dduw, a rhodio yn ei holl ffyrdd, #Pen 6:5; Mat 22:37a’i garu ef, a gwasanaethu yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, 13Cadw gorchmynion yr Arglwydd, a’i ddeddfau, y rhai yr wyf yn eu gorchymyn i ti y dydd hwn, er daioni i ti? 14Wele, #Exod 19:5; Salm 115:16; 148:4y nefoedd, a nefoedd y nefoedd, ydynt eiddo yr Arglwydd dy Dduw, #Gen 14:19; Salm 24:1y ddaear hefyd a’r hyn oll sydd ynddi. 15Yn unig ar dy dadau di y rhoddes yr Arglwydd ei serch, gan eu hoffi hwynt; ac efe a wnaeth ddewis o’u had ar eu hôl hwynt, sef ohonoch chwi, o flaen yr holl bobloedd, megis heddiw y gwelir. 16#Edrych Lef 26:41; Pen 30:6; Jer 4:4; Rhuf 2:28, 29; Col 2:11Enwaedwch chwithau ddienwaediad eich calon, ac na chaledwch eich gwar mwyach. 17Canys yr Arglwydd eich Duw chwi yw Duw y duwiau, ac #Dat 17:14; 19:16 Arglwydd yr arglwyddi, Duw mawr, cadarn, ac ofnadwy yr hwn #2 Cron 19:7ni dderbyn wyneb, ac ni chymer wobr. 18#Salm 68:5; 146:9Yr hwn a farna’r amddifad a’r weddw; ac y sydd yn hoffi’r dieithr, gan roddi iddo fwyd a dillad. 19#Lef 19:33, 34Hoffwch chwithau y dieithr: canys dieithriaid fuoch yn nhir yr Aifft. 20#Pen 6:13; Mat 4:10; Luc 4:8Yr Arglwydd dy Dduw a ofni, ac ef a wasanaethi: wrtho ef hefyd #Pen 13:4y glyni, ac i’w enw ef y tyngi. 21#Exod 15:2; Salm 22:3; Jer 17:14Efe yw dy fawl, ac efe yw dy Dduw yr hwn a wnaeth i ti y mawrion a’r ofnadwy bethau hyn, y rhai a welodd dy lygaid. 22Dy dadau a aethant i waered i’r Aifft #Gen 46:27; Exod 1:5; Act 7:14yn ddeg enaid a thrigain; ac yr awr hon yr Arglwydd dy Dduw a’th wnaeth di #Gen 15:5fel sêr y nefoedd o luosowgrwydd.

Currently Selected:

Deuteronomium 10: BWM1955C

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Free Reading Plans and Devotionals related to Deuteronomium 10

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy