YouVersion Logo
Search Icon

Titus 3

3
Gwneud beth sy’n dda
1Atgoffa pobl fod rhaid iddyn nhw fod yn atebol i’r llywodraeth a’r awdurdodau. Dylen nhw fod yn ufudd bob amser ac yn barod i wneud daioni; 2peidio enllibio neb, peidio achosi dadleuon, ond bod yn ystyriol o bobl eraill, a bod yn addfwyn wrth drin pawb. 3Wedi’r cwbl, roedden ninnau hefyd yn ffôl ac yn anufudd ar un adeg – wedi’n camarwain, ac yn gaeth i bob math o chwantau a phleserau. Roedd ein bywydau ni’n llawn malais a chenfigen a chasineb. Roedd pobl yn ein casáu ni, a ninnau’n eu casáu nhw. 4Ond dyma garedigrwydd a chariad Duw ein Hachubwr yn dod i’r golwg. 5Wnaeth e ddim ein hachub ni am ein bod ni’n dda, ond am ei fod e’i hun mor drugarog! Golchodd ni’n lân o’n pechod a rhoi bywyd newydd i ni drwy’r Ysbryd Glân. 6Tywalltodd yr Ysbryd arnon ni’n hael o achos beth oedd Iesu Grist wedi’i wneud i’n hachub ni. 7Am ei fod wedi bod mor garedig â gwneud ein perthynas ni gyda Duw yn iawn, dŷn ni’n gwybod y byddwn ni’n etifeddu bywyd tragwyddol. 8Mae beth sy’n cael ei ddweud mor wir!
Dyma’r pethau dw i am i ti eu pwysleisio, er mwyn i bawb sy’n credu yn Nuw fod ar y blaen yn gwneud daioni. Mae hynny’n beth da ynddo’i hun, ac mae’n gwneud lles i bawb.
9Ond paid cael dim i’w wneud â’r dyfalu dwl am achau, a’r holl gecru a dadlau am ryw fân reolau yn y Gyfraith Iddewig. Does dim pwynt – mae’r cwbl yn wastraff amser llwyr! 10Pwy bynnag sy’n creu rhaniadau, rhybuddia nhw i stopio. Os ydyn nhw ddim yn gwrando ar ôl i ti eu rhybuddio nhw’r ail waith paid cael dim i’w wneud â nhw. 11Mae pobl felly wedi gwyro oddi wrth y gwirionedd, ac wedi pechu. Nhw sy’n condemnio eu hunain!
Sylwadau i gloi
12Dw i’n bwriadu anfon Artemas neu Tychicus atat ti. Cyn gynted ag y bydd y naill neu’r llall wedi cyrraedd tyrd i’m gweld i yn Nicopolis. Dw i wedi penderfynu aros yno dros y gaeaf. 13Gwna dy orau i helpu Zenas y twrnai ac Apolos ar eu taith. Gwna’n siŵr fod ganddyn nhw bopeth sydd ei angen. 14Dylai ein pobl ni ddysgu arwain y ffordd wrth wneud daioni, yn cwrdd ag anghenion y rhai sydd mewn angen go iawn. Fyddan nhw ddim yn gwastraffu eu bywydau felly.
15Mae pawb sydd yma gyda mi yn cofio atat ti. Cofia di ni hefyd at bawb sy’n credu ac yn ein caru ni.
Dw i’n gweddïo y byddwch chi i gyd yn profi haelioni rhyfeddol Duw.

Currently Selected:

Titus 3: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in