Salm 29
29
Llais yr ARGLWYDD yn y storm
Salm Dafydd.
1Dewch, angylion, Cyhoeddwch!
Cyhoeddwch mor wych ac mor gryf ydy’r ARGLWYDD!
2Cyhoeddwch mor wych ydy ei enw da!
Plygwch i addoli’r ARGLWYDD
sydd mor hardd yn ei gysegr.
3Mae llais yr ARGLWYDD i’w glywed uwchben y dŵr –
sŵn y Duw gwych yn taranu.
Mae’r ARGLWYDD yn taranu uwchben y dyfroedd mawr.
4Mae llais yr ARGLWYDD yn rymus.
Mae llais yr ARGLWYDD yn urddasol.
5Mae llais yr ARGLWYDD yn dryllio’r cedrwydd;
mae e’n dryllio coed cedrwydd Libanus.
6Mae’n gwneud i Libanus brancio fel llo;
a Sirion#29:6 Sirion Yr enw Phoenicaidd ar Fynydd Hermon – gw. Deuteronomium 3:9. fel ych gwyllt ifanc.
7Mae llais yr ARGLWYDD fel mellt yn fflachio.
8Mae llais yr ARGLWYDD yn ysgwyd yr anialwch;
mae’r ARGLWYDD yn ysgwyd anialwch Cadesh.
9Mae llais yr ARGLWYDD yn plygu’r coed mawr,
ac yn tynnu’r dail oddi ar y fforestydd.
Ac yn ei deml mae pawb yn gweiddi, “Rwyt ti’n wych!”
10Mae’r ARGLWYDD ar ei orsedd uwchben y llifogydd.#29:10 llifogydd Symbol o’r anhrefn sy’n bygwth y byd.
Mae’r ARGLWYDD yn Frenin ar ei orsedd am byth.
11Mae’r ARGLWYDD yn gwneud ei bobl yn gryf.
Mae’r ARGLWYDD yn rhoi heddwch i’w bobl.
Currently Selected:
Salm 29: bnet
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
© Cymdeithas y Beibl 2023