Salm 25
25
Gweddi am arweiniad a help
Salm Dafydd.
1O ARGLWYDD, dw i’n troi atat ti mewn gweddi.
2Fy Nuw, dw i’n dy drystio di; paid â’m siomi;
paid gadael i’m gelynion gael hwyl am fy mhen.
3Does neb sy’n dy drystio di yn cael ei siomi.
Y rhai sy’n twyllo fydd yn methu,
nhw fydd yn cael eu siomi!
4Dw i eisiau dy ddilyn di, ARGLWYDD;
dysga dy ffyrdd i mi.
5Arwain fi ar y ffordd iawn a dysga fi,
achos ti ydy’r Duw sy’n fy achub i.
Dw i’n dibynnu arnat ti bob amser.
6O ARGLWYDD, cofia dy fod yn Dduw trugarog a ffyddlon –
un felly wyt ti wedi bod erioed!
7Paid dal yn fy erbyn y pechodau
a’r holl bethau wnes i o’i le pan oeddwn i’n ifanc.
Bydd yn garedig ata i, ARGLWYDD;
rwyt ti’n Dduw mor ffyddlon.
8Mae’r ARGLWYDD yn dda ac yn hollol deg,
felly mae e’n dangos i bechaduriaid sut dylen nhw fyw.
9Mae’n dangos y ffordd iawn i’r rhai sy’n plygu iddo
ac yn eu dysgu nhw sut i fyw.
10Mae’r ARGLWYDD bob amser yn ffyddlon,
ac mae’r rhai sy’n cadw amodau’r ymrwymiad wnaeth e
yn gallu dibynnu’n llwyr arno.
11Er mwyn dy enw da, O ARGLWYDD,
maddau’r holl ddrwg dw i wedi’i wneud
– mae yna gymaint ohono!
12Mae’r ARGLWYDD yn dangos i’r rhai sy’n ffyddlon iddo
sut dylen nhw fyw.
13Byddan nhw’n mwynhau bywyd,
a bydd eu plant yn etifeddu’r tir.
14Mae’r ARGLWYDD yn rhoi arweiniad i’w ddilynwyr ffyddlon,
ac mae’n dysgu iddyn nhw oblygiadau’r ymrwymiad wnaeth e.
15Dw i’n troi at yr ARGLWYDD am help bob amser,
am mai fe sy’n fy ngollwng i’n rhydd o rwyd y gelyn.
16Tyrd ata i, bydd yn garedig a helpa fi,
dw i ar fy mhen fy hun, ac yn dioddef.
17Achub fi o’r helbul dw i ynddo;
gollwng fi’n rhydd o’r argyfwng yma.
18Edrych arna i’n dioddef mewn poen.
Maddau fy holl bechodau.
19Edrych gymaint o elynion sydd gen i;
maen nhw’n fy nghasáu i, ac am wneud niwed i mi!
20Amddiffyn fi, ac achub fi!
Paid gadael i mi gael fy siomi,
achos dw i wedi troi atat ti am loches.
21Amddiffyn fi, am fy mod i’n onest ac yn agored hefo ti;
dw i’n dibynnu arnat ti, ARGLWYDD!
22O Dduw, gollwng Israel yn rhydd
o’i holl drafferthion!
Currently Selected:
Salm 25: bnet
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
© Cymdeithas y Beibl 2023