YouVersion Logo
Search Icon

Josua 4

4
Codi Cerrig Coffa
1Pan oedd y genedl gyfan wedi croesi afon Iorddonen, dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua: 2“Dewis un deg dau o ddynion – un o bob llwyth. 3Dwed wrthyn nhw am gymryd un deg dwy o gerrig o wely’r afon, o’r union fan lle roedd yr offeiriaid yn sefyll. Maen nhw i fynd â’r cerrig, a’u gosod nhw i lawr lle byddwch chi’n gwersylla heno.”
4Dyma Josua’n galw’r dynion oedd wedi’u penodi at ei gilydd (un dyn o bob llwyth), 5a dweud wrthyn nhw: “Ewch o flaen Arch yr ARGLWYDD eich Duw i ganol yr Iorddonen. Yno, mae pob un ohonoch chi i godi carreg ar ei ysgwydd – un garreg ar gyfer pob llwyth. 6Bydd y cerrig yn eich atgoffa chi o beth ddigwyddodd yma. Yn y dyfodol, pan fydd eich plant yn gofyn, ‘Beth ydy’r cerrig yma?’, 7gallwch ddweud wrthyn nhw fod afon Iorddonen wedi stopio llifo o flaen Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD – wrth i’r Arch groesi, fod y dŵr wedi stopio llifo. A bod y cerrig i atgoffa pobl Israel o beth ddigwyddodd.”
8Felly dyma’r dynion yn gwneud yn union fel dwedodd Josua. Dyma nhw’n codi un deg dwy o gerrig o ganol afon Iorddonen (fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Josua – un garreg ar gyfer pob llwyth). A dyma nhw’n cario’r cerrig i’r gwersyll, ac yn eu gosod nhw i lawr yno. 9Gosododd Josua hefyd un deg dwy o gerrig eraill yn yr union fan lle roedd yr offeiriaid oedd yn cario’r Arch wedi bod yn sefyll. Mae’r cerrig yno hyd heddiw.
10Safodd yr offeiriaid oedd yn cario’r Arch ar wely afon Iorddonen nes oedd popeth roedd yr ARGLWYDD wedi’i orchymyn i Josua wedi’i gyflawni. Yn y cyfamser, roedd y bobl yn croesi’r afon ar frys. 11Pan oedd pawb wedi croesi, dyma’r Arch a’r offeiriaid oedd yn ei chario yn croesi, a’r bobl yn eu gwylio. 12Roedd y dynion o lwyth Reuben, Gad a hanner llwyth Manasse wedi croesi o flaen pobl Israel, yn barod i ymladd, fel roedd Moses wedi dweud wrthyn nhw. 13Roedd tua 40,000 o ddynion arfog wedi croesi drosodd i ryfela ar wastatir Jericho. 14Y diwrnod hwnnw gwnaeth yr ARGLWYDD Josua yn arweinydd mawr yng ngolwg pobl Israel. Roedden nhw’n ei barchu e tra buodd e byw, yn union fel roedden nhw wedi parchu Moses.
15Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua, 16“Dwed wrth yr offeiriaid sy’n cario Arch y Dystiolaeth i ddod i fyny o wely’r Iorddonen.” 17Felly dyma Josua’n gwneud hynny. “Dewch i fyny o wely’r afon!” meddai wrthyn nhw. 18Dyma’r offeiriaid oedd yn cario Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD yn dod. Pan oedden nhw wedi cyrraedd y tir sych, dyma ddŵr yr afon yn dechrau llifo eto, a gorlifo fel o’r blaen. 19Roedd hi’r degfed o’r mis cyntaf#4:19 degfed o’r mis cyntaf Abib (sydd hefyd yn cael ei alw yn Nisan), sef mis cyntaf y calendr Hebreig, o tua canol Mawrth i ganol Ebrill. Y degfed o’r mis cyntaf oedd dyddiad y Pasg yn yr Aifft hefyd – gw. Exodus 12:2; 13:4. pan groesodd y bobl afon Iorddonen, a gwersylla yn Gilgal sydd i’r dwyrain o Jericho. 20Dyna lle gwnaeth Josua osod i fyny yr un deg dwy o gerrig roedden nhw wedi’u cymryd o afon Iorddonen. 21A dyma fe’n dweud wrth bobl Israel, “Pan fydd eich plant yn gofyn i’w tadau, ‘Beth ydy’r cerrig yma?’ 22esboniwch iddyn nhw, ‘Dyma lle wnaeth pobl Israel groesi afon Iorddonen ar dir sych.’ 23Roedd yr ARGLWYDD eich Duw wedi sychu dŵr yr Iorddonen o’n blaen ni wrth i ni groesi drosodd, yn union fel roedd wedi sychu’r Môr Coch#4:23 Môr Coch Hebraeg, “Môr y Brwyn”. pan oedden ni’n croesi hwnnw. 24Gwnaeth hynny er mwyn i bobl holl wledydd y byd gydnabod fod yr ARGLWYDD yn Dduw grymus, ac er mwyn i chi ei barchu a’i addoli bob amser.”

Currently Selected:

Josua 4: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in