YouVersion Logo
Search Icon

Josua 17

17
Y tir gafodd hanner arall llwyth Manasse
1Dyma’r tir gafodd ei roi i lwyth Manasse, mab hynaf Joseff. (Roedd ardaloedd Gilead a Bashan, i’r dwyrain o afon Iorddonen, eisoes wedi’u rhoi i ddisgynyddion Machir – tad Gilead a mab hynaf Manasse – am ei fod yn filwr dewr.) 2Cafodd gweddill y teuluoedd oedd yn perthyn i lwyth Manasse dir oedd i’r gorllewin o afon Iorddonen. Disgynyddion Abieser, Chelec, Asriel, Sechem, Cheffer, a Shemida. Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Manasse, mab Joseff.
3Ond doedd gan Seloffchad fab Cheffer ddim meibion, dim ond merched. (Roedd Cheffer yn fab i Gilead, yn ŵyr i Machir ac yn or-ŵyr i Manasse.) Enwau merched Seloffchad oedd Machla, Noa, Hogla, Milca, a Tirtsa. 4Dyma nhw’n mynd at Eleasar yr offeiriad, Josua fab Nwn, a’r arweinwyr eraill, a dweud, “Dwedodd yr ARGLWYDD wrth Moses am roi tir i ni gyda’n perthnasau.”#Numeri 27:8-11 Felly dyma Josua yn rhoi tir iddyn nhw gyda brodyr eu tad, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn.
5Cafodd Manasse ddeg darn o dir yn ychwanegol at Gilead a Bashan, oedd i’r dwyrain o afon Iorddonen, 6am fod merched o lwyth Manasse wedi cael tir gyda’r meibion. (Roedd tir Gilead yn perthyn i weddill disgynyddion Manasse.)
7Roedd tir Manasse yn ymestyn o’r ffin gyda llwyth Asher yn y gogledd, i Michmethath wrth ymyl Sichem. Yna roedd yn mynd yn bellach i’r de at y bobl oedd yn byw yn En-tapŵach. 8(Roedd yr ardal o gwmpas Tapŵach yn perthyn i lwyth Manasse, ond tref Tapŵach ei hun, oedd ar ffin Manasse, yn perthyn i lwyth Effraim.) 9Wedyn roedd ffin y de yn dilyn Dyffryn Cana. Roedd yna drefi yno, yng nghanol trefi Manasse, oedd wedi cael eu rhoi i lwyth Effraim. Ond roedd ffin Manasse yn mynd ar hyd ochr ogleddol y dyffryn, at y môr. 10Tir Effraim oedd i’r de o’r ffin, a Manasse i’r gogledd. Môr y Canoldir oedd ffin Manasse i’r gorllewin. Yna roedd eu tir yn ffinio gyda llwyth Asher i’r gogledd ac Issachar i’r dwyrain. 11Ac roedd rhai trefi o fewn ffiniau Asher ac Issachar, gyda’r pentrefi o’u cwmpas, wedi’u rhoi i lwyth Manasse: Beth-shean, Ibleam, Dor, En-dor, Taanach, a Megido (Naffeth ydy’r drydedd yn y rhestr). 12Ond wnaeth dynion Manasse ddim llwyddo i goncro’r trefi yma. Roedd y Canaaneaid yn dal i wrthod symud. 13Yn ddiweddarach, pan oedd Israel yn gryfach, dyma nhw yn llwyddo i orfodi’r Canaaneaid i weithio fel caethweision iddyn nhw. Ond wnaethon nhw erioed lwyddo i’w gyrru nhw allan yn llwyr.
Disgynyddion Joseff yn gofyn am fwy o dir
14Dyma ddisgynyddion Joseff yn gofyn i Josua, “Pam wyt ti wedi rhoi cyn lleied o dir i ni? – dim ond un rhandir. Mae yna lot fawr ohonon ni a, diolch i’r ARGLWYDD dŷn ni’n dal i dyfu.” 15Dyma Josua’n dweud, “Os oes cymaint â hynny ohonoch chi, a bryniau Effraim yn rhy fach, ewch i’r goedwig a chlirio lle i fyw yno, yn ardal y Peresiaid a’r Reffaiaid.” 16Ond dyma nhw’n ateb, “Fyddai’r bryniau yna i gyd ddim digon, ac allwn ni ddim mynd i lawr i’r dyffryn – mae gan y Canaaneaid sy’n byw yn ardal Beth-shean a Dyffryn Jesreel gerbydau rhyfel haearn.”
17Yna dyma Josua’n dweud wrth ddisgynyddion Joseff (sef llwythau Effraim a Manasse): “Mae yna lot fawr ohonoch chi, a dych chi’n gryf iawn. Byddwch chi’n cael mwy nag un rhandir – 18chi fydd piau’r bryniau i gyd. Er fod y tir yn goediog, gallwch ei glirio, a’i gymryd i gyd. A gallwch goncro’r Canaaneaid yn yr iseldir hefyd, er eu bod nhw’n gryfion a bod ganddyn nhw gerbydau rhyfel haearn.”

Currently Selected:

Josua 17: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in