YouVersion Logo
Search Icon

Josua 12

12
Crynodeb o hanes concro’r wlad
1Dyma’r brenhinoedd wnaeth pobl Israel eu trechu i’r dwyrain o afon Iorddonen, a’r tiroedd wnaethon nhw eu meddiannu – o Ddyffryn Arnon i Fynydd Hermon, sef yr holl dir i’r dwyrain o Ddyffryn Iorddonen:#12:1 Dyffryn Iorddonen Hebraeg, “Araba”.
2Sihon, brenin yr Amoriaid, oedd yn byw yn Cheshbon ac yn teyrnasu o Aroer, ger Dyffryn Arnon. Roedd yn teyrnasu o ganol Dyffryn Arnon i Ddyffryn Jabboc, sef y ffin gyda thiriogaeth pobl Ammon – yn cynnwys hanner Gilead. 3Roedd ei diriogaeth yn cynnwys y tir sydd i’r dwyrain o Ddyffryn Iorddonen, yr holl ffordd o Lyn Galilea#12:3 Lyn Galilea Hebraeg, “Cinnereth”, enw cynharach ar y llyn. i’r Môr Marw.#12:3 Hebraeg, “Môr yr Araba, sef y Môr Halen”. Yna o Beth-ieshimoth yn y dwyrain i lawr i’r de, cyn belled â llethrau Mynydd Pisga.
4Og, brenin Bashan – un o’r ychydig Reffaiaid oedd ar ôl. Roedd Og yn teyrnasu o Ashtaroth ac Edrei, 5a’i diriogaeth yn ymestyn o Fynydd Hermon i Salca yn y gogledd; Bashan yn y dwyrain i’r ffin gyda theyrnasoedd Geshwr a Maacha yn y gorllewin; a hanner arall Gilead at y ffin gyda theyrnas Sihon, oedd yn frenin yn Cheshbon. 6Roedd Moses, gwas yr ARGLWYDD, a phobl Israel wedi’u trechu nhw a rhannu eu tiroedd nhw rhwng llwythau Reuben, Gad, a hanner llwyth Manasse.#Numeri 32:33; Deuteronomium 3:12
7A dyma’r brenhinoedd wnaeth Josua a phobl Israel eu trechu i’r gorllewin o afon Iorddonen – o Baal-gad yn Nyffryn Libanus yn y gogledd i lawr i Fynydd Halac i gyfeiriad Edom yn y de. (Rhannodd Josua y tiroedd yma i gyd rhwng llwythau Israel. 8Roedd yn cynnwys y bryniau a’r iseldir, y tir anial, y llethrau, anialwch Jwda a’r Negef, sef tiroedd yr Hethiaid, Amoriaid, Canaaneaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid):
9Brenin Jericho; brenin Ai, ger Bethel; 10brenin Jerwsalem; brenin Hebron; 11brenin Iarmwth; brenin Lachish; 12brenin Eglon; brenin Geser; 13brenin Debir; brenin Geder; 14brenin Horma; brenin Arad; 15brenin Libna; brenin Adwlam; 16brenin Macceda; brenin Bethel; 17brenin Tapŵach; brenin Cheffer; 18brenin Affec; brenin Lasaron; 19brenin Madon; brenin Chatsor; 20brenin Shimron-meron; brenin Achsaff; 21brenin Taanach; brenin Megido; 22brenin Cedesh; brenin Iocneam, ger Mynydd Carmel; 23brenin Dor, ar yr arfordir; brenin Goïm, ger Gilgal; 24a brenin Tirsa. (Tri deg un o frenhinoedd i gyd.)

Currently Selected:

Josua 12: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in