YouVersion Logo
Search Icon

Josua 11

11
Yr Ymgyrch i’r Gogledd
Taro Jabin a brenhinoedd eraill y Gogledd
1Pan glywodd Jabin, brenin Chatsor, beth oedd wedi digwydd, dyma fe’n anfon neges at frenhinoedd eraill yr ardal honno – Iobab brenin Madon, brenin Shimron, brenin Achsaff, 2a’r brenhinoedd oedd yn teyrnasu yn y bryniau i’r gogledd, yn Nyffryn Iorddonen#11:2 Nyffryn Iorddonen Hebraeg, “Araba”. i’r de o Lyn Galilea,#11:2 Lyn Galilea Hebraeg, “Llyn Cinnereth”, enw cynharach ar y llyn. ac ar yr iseldir ac arfordir Dor i’r gorllewin. 3Daeth Canaaneaid o gyfeiriad y dwyrain a’r gorllewin, Amoriaid, Hethiaid, Peresiaid a Jebwsiaid o’r bryniau, a Hefiaid o’r ardal wrth droed Mynydd Hermon yn Mitspa. 4Daeth y brenhinoedd yma i gyd allan gyda’i byddinoedd – roedd gormod ohonyn nhw i’w cyfrif! Roedden nhw fel y tywod ar lan y môr! Ac roedd ganddyn nhw lot fawr o geffylau a cherbydau rhyfel. 5Daethon nhw i gyd at ei gilydd wrth ffynnon Merom, i ymladd yn erbyn Israel. 6Ond dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua, “Paid bod ag ofn. Erbyn tua’r adeg yma yfory bydda i wedi gwneud yn siŵr eu bod nhw i gyd yn gorwedd yn farw o flaen Israel. Gwna eu ceffylau yn gloff, a llosga eu cerbydau rhyfel.”
7Felly dyma Josua a’i fyddin yn ymosod arnyn nhw yn ddirybudd wrth Ddyfroedd Merom. 8Dyma’r ARGLWYDD yn rhoi’r fuddugoliaeth i fyddin Israel. Ac aeth byddin Israel ar eu holau yr holl ffordd i Sidon a Misreffoth-maim, a hefyd i Ddyffryn Mitspe yn y dwyrain, a’u taro nhw i lawr. Wnaethon nhw adael neb ar ôl yn fyw. 9Wedyn dyma Josua yn gwneud y ceffylau’n gloff ac yn llosgi’r cerbydau rhyfel, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn.
10Yna dyma Josua’n troi yn ôl a choncro tref Chatsor a lladd y brenin yno. (Chatsor oedd wedi bod yn arwain y teyrnasoedd yma i gyd.) 11Dyma nhw’n lladd pawb yno – gafodd yr un enaid byw ei adael ar ôl. A dyma nhw’n llosgi’r dref.
12Aeth Josua yn ei flaen i goncro’r trefi brenhinol i gyd, a lladd pawb oedd yn byw ynddyn nhw, yn union fel roedd Moses, gwas yr ARGLWYDD, wedi gorchymyn. 13Ond wnaeth pobl Israel ddim llosgi unrhyw un o’r trefi oedd wedi’u hadeiladu ar garnedd, ar wahân i Chatsor – hi oedd yr unig un gafodd ei llosgi. 14Cymerodd pobl Israel bopeth gwerthfawr o’r trefi, a chadw’r anifeiliaid. Ond cafodd y boblogaeth i gyd eu lladd – adawyd neb yn fyw.
Y tiroedd enillodd Josua
15Roedd Moses, gwas yr ARGLWYDD, wedi dweud wrth Josua beth roedd yr ARGLWYDD wedi’i orchymyn, a dyna wnaeth Josua. Gwnaeth bopeth roedd yr ARGLWYDD wedi’i ddweud wrth Moses. 16Llwyddodd Josua i goncro’r wlad gyfan, gan gynnwys y bryniau a’r iseldir yn y de, y Negef, tir Gosen, Dyffryn Iorddonen,#11:16 Dyffryn Iorddonen Hebraeg, “Araba”. a bryniau ac iseldir Israel yn y gogledd hefyd. 17Concrodd bobman o fynydd Halac, sydd i gyfeiriad Edom yn y de, yr holl ffordd i Baal-gad yn Nyffryn Libanus, wrth droed Mynydd Hermon. Daliodd bob un o’u brenhinoedd, a’u lladd.
18Roedd Josua wedi bod yn rhyfela yn erbyn y brenhinoedd yma am amser hir iawn. 19Wnaeth neb ohonyn nhw gytundeb heddwch gyda phobl Israel (dim ond yr Hefiaid yn Gibeon). Roedd rhaid i bobl Israel frwydro yn eu herbyn nhw i gyd. 20Roedd yr ARGLWYDD ei hun wedi’u gwneud nhw’n ystyfnig, er mwyn iddyn nhw frwydro yn erbyn Israel. Roedd e eisiau i Israel eu dinistrio nhw’n llwyr, yn gwbl ddidrugaredd, fel roedd e wedi gorchymyn i Moses.
21Yn ystod y cyfnod yma, llwyddodd Josua a’i fyddin i ddinistrio disgynyddion Anac hefyd, oedd yn byw yn y bryniau – yn Hebron, Debir, Anab, a gweddill bryniau Jwda ac Israel. Lladdodd Josua nhw i gyd, a dinistrio’u trefi. 22Doedd neb o ddisgynyddion Anac ar ôl lle mae pobl Israel yn byw. Ond roedd rhai yn dal ar ôl yn Gasa, Gath ac Ashdod.#11:22 Gasa, Gath ac Ashdod Trefi yn Philistia.
23Felly roedd Josua wedi concro’r wlad i gyd, fel roedd yr ARGLWYDD wedi addo i Moses. A dyma Josua yn rhannu’r wlad rhwng y llwythau, ac yn rhoi eu tiriogaeth arbennig i bob un.
Ac roedd heddwch yn y wlad.

Currently Selected:

Josua 11: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in