YouVersion Logo
Search Icon

Barnwyr 11

11
Jefftha
1Roedd dyn yn Gilead o’r enw Jefftha, oedd yn filwr dewr. Putain oedd ei fam, ond roedd e wedi cael ei fagu gan ei dad, Gilead. 2Roedd gan Gilead nifer o feibion eraill hefyd – plant i’w wraig. Pan oedd y rhain wedi tyfu, dyma nhw’n gyrru Jefftha i ffwrdd. “Fyddi di’n etifeddu dim o eiddo’r teulu. Mab i wraig arall wyt ti.” 3Felly roedd rhaid i Jefftha ddianc oddi wrth ei frodyr. Aeth i fyw i ardal Tob, ac yn fuan iawn roedd yn arwain gang o rapsgaliwns gwyllt.
4Roedd hi beth amser ar ôl hyn pan ddechreuodd yr Ammoniaid ryfela yn erbyn Israel. 5A dyna pryd aeth arweinwyr Gilead i ardal Tob i ofyn i Jefftha ddod yn ôl. 6“Tyrd yn ôl i arwain y fyddin yn erbyn yr Ammoniaid,” medden nhw wrtho. 7“Ond roeddech chi’n fy nghasáu i,” meddai Jefftha. “Chi yrrodd fi oddi cartref! A dyma chi, nawr, yn troi ata i am eich bod chi mewn trwbwl!”
8“Mae’n wir,” meddai arweinwyr Gilead wrtho. “Dŷn ni yn troi atat ti i ofyn i ti arwain y frwydr yn erbyn yr Ammoniaid. Ond cei fod yn bennaeth Gilead i gyd ar ôl hynny!” 9A dyma Jefftha’n dweud, “Iawn. Os gwna i ddod gyda chi, a’r ARGLWYDD yn gadael i mi ennill y frwydr, fi fydd eich pennaeth chi.” 10Ac meddai’r arweinwyr, “Mae’r ARGLWYDD yn dyst a bydd yn ein barnu ni os na wnawn ni fel ti’n dweud.” 11Felly dyma Jefftha’n mynd gydag arweinwyr Gilead a chafodd ei wneud yn bennaeth ac arweinydd y fyddin. A dyma Jefftha’n ailadrodd telerau’r cytundeb o flaen yr ARGLWYDD yn Mitspa.
12Anfonodd Jefftha negeswyr at frenin yr Ammoniaid i ofyn pam roedd e’n ymosod ar y wlad. 13Yr ateb roddodd brenin yr Ammoniaid oedd, “Am fod pobl Israel wedi dwyn ein tir ni pan ddaethon nhw o’r Aifft – yr holl ffordd o afon Arnon yn y de i afon Jabboc yn y gogledd, ac at yr Iorddonen yn y gorllewin. Rho’r tir yn ôl i mi, a fydd yna ddim rhyfel.”
14Dyma Jefftha’n anfon negeswyr yn ôl at frenin Ammon, i ddweud, 15“Wnaeth Israel ddim dwyn y tir oddi ar bobloedd Moab ac Ammon. 16Pan ddaethon nhw allan o’r Aifft, dyma nhw’n teithio drwy’r anialwch at y Môr Coch#11:16 Môr Coch Hebraeg, “Môr y Brwyn”. ac yna ymlaen i Cadesh. 17Anfonodd Israel negeswyr at frenin Edom, yn gofyn, ‘Wnei di roi caniatâd i ni groesi dy dir di?’ Ond wnaeth brenin Edom ddim gadael iddyn nhw. Gofynnodd Israel yr un peth i frenin Moab ond doedd yntau ddim yn fodlon gadael iddyn nhw groesi. Felly dyma bobl Israel yn aros yn Cadesh. 18Wedyn dyma nhw’n mynd rownd Edom a Moab – pasio heibio i’r dwyrain o wlad Moab, a gwersylla yr ochr draw i afon Arnon. Wnaethon nhw ddim croesi tir Moab o gwbl (afon Arnon oedd ffin Moab). 19Ar ôl hynny, dyma Israel yn anfon negeswyr at Sihon, brenin yr Amoriaid, oedd yn teyrnasu yn Cheshbon, a gofyn iddo fe, ‘Wnei di roi caniatâd i ni groesi dy dir di i ni fynd i’n tir ein hunain?’ 20Ond doedd Sihon ddim yn trystio pobl Israel i adael iddyn nhw groesi’i dir. Felly dyma fe’n galw’i fyddin at ei gilydd a chodi gwersyll yn Iahats, i ymosod ar Israel. 21Yr ARGLWYDD, Duw Israel, wnaeth eu galluogi nhw i drechu Sihon a’i fyddin. A dyma Israel yn cymryd tiroedd yr Amoriaid i gyd – 22o afon Arnon yn y de i afon Jabboc yn y gogledd, ac o’r anialwch yn y dwyrain i’r Iorddonen yn y gorllewin.
23“Felly, yr ARGLWYDD, Duw Israel, wnaeth yrru’r Amoriaid allan o flaen pobl Israel. Wyt ti’n meddwl y gelli di ei gymryd oddi arnyn nhw? 24Cadw di beth mae dy dduw Chemosh wedi’i roi i ti. Dŷn ni am gadw tiroedd y bobloedd mae’r ARGLWYDD wedi’u gyrru allan o’n blaen ni. 25Wyt ti’n meddwl dy fod ti’n gryfach na Balac fab Sippor, brenin Moab? Wnaeth e fentro ffraeo gyda phobl Israel? Wnaeth e ymladd yn eu herbyn nhw? 26Mae pobl Israel wedi bod yn byw yn y trefi yma ers tri chan mlynedd – Cheshbon ac Aroer a’r pentrefi o’u cwmpas, a’r trefi sydd wrth afon Arnon. Pam dych chi ddim wedi’u cymryd nhw yn ôl cyn hyn? 27Na, dw i ddim wedi gwneud cam â ti. Ti sy’n dechrau’r rhyfel yma. Heddiw, bydd yr ARGLWYDD, y Barnwr, yn penderfynu pwy sy’n iawn – pobl Israel neu’r Ammoniaid!” 28Ond wnaeth brenin Ammon ddim cymryd sylw o neges Jefftha.
29Yna dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn dod ar Jefftha. Dyma fe’n arwain ei fyddin drwy diroedd Gilead a Manasse, pasio drwy Mitspe yn Gilead, a mynd ymlaen i wynebu byddin yr Ammoniaid. 30Dyma fe’n addo ar lw i’r ARGLWYDD, “Os gwnei di adael i mi guro byddin yr Ammoniaid, 31gwna i roi i’r ARGLWYDD beth bynnag fydd gyntaf i ddod allan o’r tŷ i’m cwrdd i pan af i adre. Bydda i’n ei gyflwyno’n offrwm i’w losgi’n llwyr i Dduw.”
32Yna dyma Jefftha a’i fyddin yn croesi i ymladd yn erbyn yr Ammoniaid, a dyma’r ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth iddo. 33Cafodd yr Ammoniaid eu trechu’n llwyr, o Aroer yr holl ffordd i Minnith, a hyd yn oed i Abel-ceramîm – dau ddeg o drefi i gyd. Dinistriodd nhw’n llwyr! Roedd yr Ammoniaid wedi’u trechu gan Israel.
34Pan aeth Jefftha adre i Mitspa, pwy redodd allan i’w groesawu ond ei ferch, yn dawnsio i gyfeiliant tambwrinau. Roedd hi’n unig blentyn. Doedd gan Jefftha ddim mab na merch arall. 35Pan welodd hi, dyma fe’n rhwygo’i ddillad. “O na! Fy merch i. Mae hyn yn ofnadwy. Mae’n drychinebus. Dw i wedi addo rhywbeth ar lw i’r ARGLWYDD, a does dim troi’n ôl.” 36Meddai ei ferch wrtho, “Dad, os wyt ti wedi addo rhywbeth i’r ARGLWYDD, rhaid i ti gadw dy addewid. Mae’r ARGLWYDD wedi cadw ei ochr e a rhoi buddugoliaeth i ti dros dy elynion, yr Ammoniaid. 37Ond gwna un peth i mi. Rho ddau fis i mi grwydro’r bryniau gyda’m ffrindiau, i alaru am fy mod byth yn mynd i gael priodi.” 38“Dos di,” meddai wrthi. A gadawodd iddi fynd i grwydro’r bryniau am ddeufis, yn galaru gyda’i ffrindiau am na fyddai byth yn cael priodi. 39Yna ar ddiwedd y deufis, dyma hi’n dod yn ôl at ei thad, a dyma fe’n gwneud beth roedd e wedi’i addo. Roedd hi’n dal yn wyryf pan fuodd hi farw.
Daeth yn ddefod yn Israel 40fod y merched yn mynd i ffwrdd am bedwar diwrnod bob blwyddyn, i goffáu merch Jefftha o Gilead.

Currently Selected:

Barnwyr 11: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in