YouVersion Logo
Search Icon

Barnwyr 10

10
Tola
1Ar ôl i Abimelech farw, dyma Tola, mab Pwa ac ŵyr Dodo, yn codi i achub Israel. Roedd yn perthyn i lwyth Issachar ac yn byw yn Shamîr ym mryniau Effraim. 2Bu’n arwain Israel am ddau ddeg tair o flynyddoedd. Pan fu farw, cafodd ei gladdu yn Shamîr.
Jair
3Ar ôl Tola, dyn o’r enw Jair o Gilead wnaeth arwain Israel am ddau ddeg dwy o flynyddoedd. 4Roedd gan Jair dri deg o feibion ac roedd gan bob un ohonyn nhw ei asyn ei hun,#10:4 asyn ei hun Arwydd fod y teulu’n gyfoethog iawn. ac roedd pob un yn rheoli tref yn Gilead. Mae’r trefi yma yn Gilead yn dal i gael eu galw yn Hafoth-jair#10:4 Hafoth-jair sef, “Treflannau Jair”. hyd heddiw. 5Pan fuodd Jair farw, cafodd ei gladdu yn Camon.
Pobl Israel yn troi cefn ar Dduw eto
6Dyma bobl Israel, unwaith eto, yn gwneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD. Dyma nhw’n addoli delwau o Baal a’r dduwies Ashtart, a duwiau Syria, Sidon, Moab, yr Ammoniaid a’r Philistiaid. Roedden nhw wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD ac wedi stopio’i addoli e! 7Roedd yr ARGLWYDD yn wirioneddol flin gyda phobl Israel. Dyma fe’n gadael i’r Philistiaid a’r Ammoniaid eu rheoli. 8Roedden nhw’n curo a cham-drin pobl Israel yn ddidrugaredd. Bu pobl Israel oedd yn byw ar dir yr Amoriaid, i’r dwyrain o afon Iorddonen (sef Gilead), yn dioddef am un deg wyth o flynyddoedd. 9Wedyn dyma’r Ammoniaid yn croesi’r Iorddonen i ymladd gyda llwythau Jwda, Benjamin ac Effraim. Roedd hi’n argyfwng go iawn ar Israel.
10Yna dyma bobl Israel yn gweiddi ar yr ARGLWYDD a dweud, “Dŷn ni wedi pechu yn dy erbyn di! Dŷn ni wedi troi cefn ar ein Duw ac addoli delwau Baal.” 11A dyma’r ARGLWYDD yn ateb, “Yr Eifftiaid, yr Amoriaid, yr Ammoniaid, y Philistiaid, 12y Sidoniaid, yr Amaleciaid, y Midianiaid#10:12 felly LXX, Hebraeg, “Maoniaid”.…, mae pob un ohonyn nhw wedi’ch cam-drin chi. A phan oeddech chi’n gweiddi arna i am help, roeddwn i’n eich achub chi. 13Ond dw i ddim yn mynd i’ch achub chi eto. Dych chi wedi troi cefn arna i a mynd ar ôl duwiau eraill. 14Ewch i weiddi ar eich duwiau eich hunain – cân nhw’ch helpu chi!”
15Dyma bobl Israel yn dweud, “Dŷn ni wedi pechu. Ti’n iawn i’n cosbi ni. Ond plîs achub ni heddiw!” 16Yna dyma bobl Israel yn cael gwared â’r duwiau eraill oedd ganddyn nhw, a dechrau addoli’r ARGLWYDD eto. Yn y diwedd, roedd yr ARGLWYDD wedi blino gweld pobl Israel yn dioddef.
17Roedd byddin yr Ammoniaid yn paratoi i fynd i ryfel ac wedi gwersylla yn Gilead, tra oedd byddin Israel yn gwersylla yn Mitspa. 18Dyma arweinwyr Gilead yn gofyn, “Pwy sy’n barod i arwain yr ymosodiad yn erbyn byddin yr Ammoniaid? Bydd y person hwnnw’n cael ei wneud yn llywodraethwr ar Gilead!”

Currently Selected:

Barnwyr 10: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in