YouVersion Logo
Search Icon

Eseia 49

49
Gwas yr ARGLWYDD
1Gwrandwch arna i, ynysoedd!
Daliwch sylw, chi bobloedd o bell:
Galwodd yr ARGLWYDD fi cyn i mi gael fy ngeni;
rhoddodd fy enw i mi pan oeddwn i’n dal yng nghroth fy mam.
2Gwnaeth fy ngheg fel cleddyf miniog,
a chuddiodd fi dan gysgod ei law.
Gwnaeth fi fel saeth loyw,
a chuddiodd fi yn ei gawell.
3Dwedodd wrtho i, “Ti ydy fy ngwas i,
Israel, y caf fy anrhydeddu drwyddi.”
4Meddyliais fy mod wedi gweithio’n galed i ddim byd,
a gwastraffu fy holl egni i ddim pwrpas.
Ond mae fy achos yn llaw’r ARGLWYDD,
a bydd fy Nuw yn rhoi fy ngwobr i mi.
5Nawr, mae’r ARGLWYDD,
wnaeth fy llunio i yn y groth i fod yn was iddo,
yn dweud ei fod am adfer pobl Jacob
a dod ag Israel yn ôl ato’i hun.
Bydda i wedi fy anrhydeddu yng ngolwg yr ARGLWYDD,
am mai Duw sy’n fy nerthu i.
6Yna dwedodd, “Mae’n beth rhy fach i ti fod yn was i mi
dim ond i godi llwythau Jacob ar eu traed
ac adfer yr ychydig rai fydd ar ôl yn Israel.
Bydda i’n dy wneud di yn olau i’r cenhedloedd,
er mwyn i bobl o ben draw’r byd gael eu hachub.”
7Dyma mae’r ARGLWYDD sy’n rhyddhau Israel – yr Un Sanctaidd – yn ei ddweud wrth yr un sy’n cael ei dirmygu; wrth genedl sy’n cael ei ffieiddio, a gwas y rhai sy’n llywodraethu:
“Bydd brenhinoedd yn gweld ac yn codi ar eu traed,
a bydd tywysogion yn ymgrymu,
am fod yr ARGLWYDD, sydd wedi bod mor ffyddlon,
Un Sanctaidd Israel wedi dy ddewis di.”
Adfer Jerwsalem
8Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud:
“Bydda i’n dy ateb di pan fydd yr amser yn iawn,
ac yn dy helpu di pan ddaw’r dydd i mi achub.
Fi sydd wedi dy siapio di,
a dy benodi di’n ganolwr fy ymrwymiad i’r bobl –
bydda i’n adfer y wlad,
ac yn rhoi’r hawliau ar y tir yn ôl i’w phobl.
9Byddi’n dweud wrth garcharorion, ‘Cewch fod yn rhydd’,
ac wrth y rhai sydd yn y tywyllwch, ‘Dewch i’r golwg’.
Byddan nhw fel defaid yn pori ar ochr y ffyrdd,
ac yn cael porfa ar lethrau’r bryniau.
10Fydd dim syched nac eisiau bwyd arnyn nhw;
fydd y gwynt poeth a’r haul ddim yn eu taro nhw.
Achos bydd yr un sy’n eu caru nhw yn eu harwain,
ac yn mynd â nhw at ffynhonnau o ddŵr.
11Bydda i’n gwneud y mynyddoedd yn ffordd agored,
ac yn adeiladu priffyrdd amlwg.”
12Edrychwch! Mae rhai’n dod o bell.
Edrychwch! Mae rhai’n dod o’r gogledd,
eraill o’r gorllewin, a rhai o wlad Sinim.
13Cân, nefoedd, a dathla, ddaear!
Torrwch allan i ganu’n llawen, fynyddoedd!
Achos mae’r ARGLWYDD wedi cysuro’i bobl,
ac wedi tosturio wrth y rhai fu’n dioddef.
14“Dwedodd Seion, ‘Mae’r ARGLWYDD wedi troi cefn arna i;
mae fy Meistr wedi fy anghofio i.’
15Ydy gwraig yn gallu anghofio’r babi ar ei bron?
Ydy hi’n gallu peidio dangos tosturi at ei phlentyn?
Hyd yn oed petaen nhw’n anghofio,
fyddwn i’n sicr ddim yn dy anghofio di!
16Dw i wedi cerfio dy enw ar gledrau fy nwylo!
Wna i byth golli golwg ar dy waliau di.
17Bydd dy adeiladwyr yn gweithio’n gyflymach
na’r rhai wnaeth dy ddinistrio di;
mae’r rhai achosodd y fath lanast wedi mynd!
18Edrych o dy gwmpas!
Maen nhw i gyd yn ymgasglu! Maen nhw’n dod atat ti!
Mor sicr â’r ffaith fy mod i’n fyw,”
–yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn,
“byddi di’n eu gwisgo nhw fel gemau,
ac fel priodferch yn ei gwisg briodas.
19Er dy fod wedi dy daro,
dy ddifetha a dy ddinistrio fel gwlad,
bellach fydd dim digon o le i bawb sydd am fyw ynot ti,
a bydd y rhai wnaeth dy ddinistrio yn bell i ffwrdd.
20Bydd y plant gafodd eu geni yn y cyfnod o golled
yn dweud yn dy glyw di,
‘Mae hi’n rhy gyfyng yn y lle yma;
symudwch i wneud lle i ni!’
21A byddi di’n meddwl i ti dy hun,
‘Pwy gafodd y plant yma i mi?
Rôn i’n weddw ac yn methu cael plant.
Rôn wedi cael fy ngwrthod a’m gadael –
felly pwy fagodd y rhain?
Rôn wedi fy ngadael ar fy mhen fy hun –
felly o ble daeth y rhain i gyd?’”
22Dyma mae’r Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud:
“Dw i’n gwneud arwydd i alw’r cenhedloedd,
ac yn codi fy maner i’r bobloedd.
Byddan nhw’n cario dy feibion yn eu côl,
a dy ferched ar eu hysgwyddau.
23Bydd brenhinoedd yn gofalu amdanat ti,
a breninesau yn famau maeth.
Byddan nhw’n plygu o’th flaen a’u hwynebau ar lawr,
ac yn llyfu’r llwch wrth dy draed di.
A byddi di’n deall mai fi ydy’r ARGLWYDD
fydd y rhai sydd â’u gobaith ynof fi ddim yn cael eu siomi.
24Ydy’n bosib dwyn ysbail oddi ar ryfelwr,
neu ryddhau caethion o law gormeswr?”
25Wel, dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud:
“Bydd caethion yn cael eu cymryd oddi ar ryfelwr,
ac ysbail yn cael ei dwyn oddi ar ormeswr;
Bydda i’n ymladd gyda dy elynion di,
ac yn achub dy blant di.
26Bydda i’n gwneud i dy ormeswyr fwyta eu cnawd eu hunain;
byddan nhw’n meddwi ar eu gwaed eu hunain, fel ar win melys.
A bydd y ddynoliaeth gyfan yn gwybod
mai fi ydy’r ARGLWYDD sy’n dy achub di ac yn dy ollwng yn rhydd –
Un Cryf Jacob!”

Currently Selected:

Eseia 49: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in