YouVersion Logo
Search Icon

Eseia 48

48
Yr ARGLWYDD yn cywiro’i bobl
1Gwrandwch ar hyn, bobl Jacob –
chi sy’n cael eich galw wrth yr enw ‘Israel’
ac yn ddisgynyddion i Jwda,
sy’n tyngu i enw’r ARGLWYDD
ac yn galw ar Dduw Israel –
ond heb fod yn ddidwyll wrth wneud hynny.
2(Maen nhw’n galw eu hunain yn ‘bobl y ddinas sanctaidd’,
ac yn honni pwyso ar Dduw Israel,
sef yr ARGLWYDD hollbwerus):
3“Dw i wedi sôn ers talwm am y pethau fyddai’n digwydd;
dwedais yn glir i bawb glywed.
Yna’n sydyn gweithredais, a dyma nhw’n digwydd.
4Rôn i’n gwybod mor benstiff wyt ti –
mae gewynnau dy wddf fel haearn
a dy dalcen yn galed fel pres.
5Dyna pam wnes i roi gwybod i ti’n bell yn ôl,
a dweud yn glir cyn i ddim ddigwydd –
rhag i ti ddweud, ‘Fy eilun-dduw wnaeth hyn,
fy eilun a’m delw metel wnaeth ei drefnu.’
6Ti wedi clywed hyn i gyd; edrych,
pam wnei di ddim cydnabod y peth?
A nawr dw i’n mynd i ddweud pethau newydd,
pethau cudd allet ti ddim eu gwybod o’r blaen
7pethau newydd sbon, ddim o’r gorffennol.
Ti ddim wedi clywed hyn cyn heddiw,
rhag i ti ddweud, ‘Rôn i’n gwybod hynny!’
8Ti ddim wedi clywed, a ti ddim yn gwybod;
allet ti ddim bod wedi clywed hyn o’r blaen.
Er fy mod i’n gwybod dy fod ti’n twyllo
ac yn cael dy alw’n rebel ers i ti gael dy eni,
9dw i wedi atal fy llid er mwyn cadw fy enw da
a bod yn amyneddgar er mwyn i mi gael fy moli;
dw i wedi ymatal rhag dy ddinistrio di.
10Edrych, dw i wedi dy buro di, ond nid fel arian;
dw i wedi dy brofi di yn ffwrnais dioddefaint.
11Er fy mwyn fy hun yn unig dw i’n gwneud hyn –
pam ddylai fy enw da gael ei halogi?
Dw i ddim yn rhannu fy ysblander gyda neb arall!
Rhyddhau Israel
12Gwrandwch arna i, bobl Jacob,
ac Israel, y rhai dw i wedi’u galw:
Fi ydy e – fi ydy’r cyntaf,
a fi ydy’r olaf hefyd.
13Gosodais sylfeini’r ddaear gyda’m dwylo fy hun,
a lledu’r awyr gyda’m llaw dde.
Dw i’n eu galw nhw,
ac maen nhw’n sefyll gyda’i gilydd.
14‘Dewch at eich gilydd i gyd, a gwrando!
Pa un o’ch duwiau ddwedodd am y pethau yma? –
y bydd ffrind#48:14 ffrind Cyfeiriad at Cyrus (gw. 44:28; 45:1). yr ARGLWYDD
yn cyflawni ei fwriad yn erbyn Babilon,
ac yn defnyddio’i holl nerth yn erbyn pobl Caldea.’#48:14,20 Caldea Hen enw ar wlad Babilon.
15Fi ddwedodd! Fi alwodd e.
Fi ddaeth ag e allan, a bydd yn llwyddo.
16Dewch ata i yma i glywed hyn:
‘Dw i ddim wedi siarad yn gyfrinachol erioed;
a phan mae’n digwydd dw i yna.’”
Felly nawr mae fy Meistr, sef yr ARGLWYDD,
wedi fy anfon i gyda’i ysbryd.
17Dyma mae’r ARGLWYDD sy’n dy ollwng yn rhydd yn ei ddweud – Un Sanctaidd Israel:
“Fi ydy’r ARGLWYDD dy Dduw,
sy’n dy ddysgu di er dy les,
ac yn dy arwain di ar hyd y ffordd y dylet ti fynd.
18O na fyddet ti wedi gwrando ar fy ngorchmynion!
Byddai dy heddwch yn llifo fel afon,
a dy gyfiawnder fel tonnau’r môr.
19Byddai gen ti ddisgynyddion fel y tywod,
a plant mor niferus â’r gronynnau o dywod.
Fyddai eu henw nhw ddim wedi’i dorri i ffwrdd
a’i ddileu o’m gŵydd i.
20Ewch allan ar frys o Babilon,
dianc oddi wrth bobl Caldea!
Dwedwch beth sy’n digwydd a gweiddi’n llawen.
Cyhoeddwch y peth!
Anfonwch y neges i ben draw’r byd!
Dwedwch: ‘Mae’r ARGLWYDD wedi gollwng
ei was Jacob yn rhydd!
21Wnaethon nhw ddim profi syched,
er iddo eu harwain nhw drwy’r anialwch.
Gwnaeth i ddŵr lifo o’r graig iddyn nhw;
holltodd y graig a dyma ddŵr yn tasgu allan.’
22Does dim heddwch i bobl ddrwg.”#Eseia 57:21
–yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn.

Currently Selected:

Eseia 48: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in