YouVersion Logo
Search Icon

Hosea 8

8
Barn Duw ar Israel
1Canwch y corn hwrdd!#8:1 corn hwrdd Hebraeg, shoffar. Rhybuddiwch y bobl!
Mae eryr yn hofran uwch teml yr ARGLWYDD.
Maen nhw wedi torri amodau’r ymrwymiad gyda mi,
ac wedi gwrthryfela yn erbyn fy nghyfraith.
2Mae Israel yn galw arna i,
“O Dduw, dŷn ni’n dy gydnabod di!”
3Ond mae’n rhy hwyr! Mae Israel wedi gwrthod y da,#8:3 y da neu yr Un da (sef Duw).
a bydd y gelyn yn ei erlyn.
4Maen nhw wedi dewis brenhinoedd
heb ofyn i mi.
Maen nhw wedi urddo arweinwyr
heb i mi gytuno.
Maen nhw wedi gwneud eilunod
gyda’r arian a’r aur oedd ganddyn nhw –
ffordd dda i ddinistrio’i hunain!
5Dw i wedi gwrthod tarw Samaria.#1 Brenhinoedd 12:26-30
Dw i wedi digio’n lân gyda nhw!
Fydd hi ddim yn hir nes i mi eu cosbi nhw,
6er mai pobl Israel ydyn nhw!
Cafodd y peth hwnnw ei greu gan grefftwr –
nid Duw ydy e!
Felly, bydd tarw Samaria
yn cael ei falu’n ddarnau mân!
7Maen nhw wedi hau gwynt,
ond byddan nhw’n medi corwynt!
‘Dydy ŷd heb ben ddim yn rhoi blawd.’
Hyd yn oed petai’n rhoi cnwd,
pobl estron fydd yn ei fwyta.
8Bydd Israel wedi’i llyncu gan y cenhedloedd;
bydd fel darn o sbwriel wedi’i daflu i ffwrdd.
9Maen nhw wedi mynd i fyny i Asyria –
fel asyn gwyllt yn crwydro’n unig.
Mae Effraim#8:9 Effraim Effraim oedd prif lwyth teyrnas Israel, ac mae’n aml yn cynrychioli’r wlad yn gyfan. wedi bod yn talu am ei chariadon.
10Am ei bod nhw wedi talu am gariad y cenhedloedd,
dw i’n mynd i’w casglu nhw i gael eu barnu,
a byddan nhw’n gwywo dan orthrwm y brenin mawr.
11Er fod Effraim wedi adeiladu allorau i aberthu dros bechod,
maen nhw wedi’u troi yn allorau i bechu!
12Er fy mod wedi rhoi cyfreithiau manwl iddyn nhw,
maen nhw’n trin y cwbl fel rhywbeth hollol ddieithr!
13Maen nhw’n dod i offrymu aberthau
er mwyn cael bwyta’r cig!
Dydy’r ARGLWYDD ddim yn eu derbyn nhw!
Yn fuan iawn, bydd yn delio gyda’i pechodau nhw,
ac yn eu cosbi nhw;
byddan nhw’n mynd yn ôl i’r Aifft!#8:13 yn ôl i’r Aifft Darlun o fod yn gaeth unwaith eto.
14Mae Israel wedi anghofio’i Chrëwr.
Mae Jwda wedi adeiladu palasau,
a chryfhau ei chaerau amddiffynnol.#8:14 caerau amddiffynnol Roedd eu polisi amddiffyn wedi cymryd lle trystio’r ARGLWYDD.
Ond bydda i’n anfon tân i’w threfi,
ac yn llosgi ei phalasau.

Currently Selected:

Hosea 8: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in