YouVersion Logo
Search Icon

Esra 6

6
Dareius yn dod o hyd i orchymyn Cyrus a chadarnhau fod yr ailadeiladu i fynd yn ei flaen
1Dyma’r brenin Dareius yn gorchymyn chwilio drwy’r archifau brenhinol oedd yn cael eu cadw yn Babilon. 2Cafwyd hyd i sgrôl yn y gaer ddinesig yn Echbetana,#6:2 Safle presennol Hamadan, Iran. Tua 280 milltir i’r gogledd-ddwyrain o Babilon. Roedd y brenin yn byw yn Babilon yn y gaeaf, yn Shwshan yn y gwanwyn, ac yn Echbetana yn yr haf. talaith Media. A dyma oedd wedi’i ysgrifennu arni:
“Memorandwm: 3Yn ystod blwyddyn gyntaf Cyrus yn frenin, dyma fe’n rhoi gorchymyn am deml Dduw yn Jerwsalem: ‘Mae’r deml i gael ei hailadeiladu fel lle i gyflwyno aberthau. Dylai’r sylfeini gael eu gosod, ac yna dylid ei hadeiladu yn 27 metr o uchder a 27 metr o led, 4gyda thair rhes o gerrig anferth, ac un rhes o goed. Bydd y trysorlys brenhinol yn talu am y gwaith. 5Yna hefyd, mae’r llestri aur ac arian wnaeth Nebwchadnesar eu cymryd i Babilon i gael eu rhoi yn ôl. Maen nhw i gael eu gosod ble maen nhw i fod, sef yn y deml yn Jerwsalem.’”
6Felly dyma Dareius yn ateb Tatnai (llywodraethwr talaith Traws-Ewffrates), Shethar-bosnai, a swyddogion y dalaith:
“Rhaid i chi gadw o’r ffordd, 7a gadael i’r gwaith ar deml Dduw fynd yn ei flaen. Gadewch i lywodraethwr ac arweinwyr Jwda fwrw ymlaen gyda’r gwaith o ailadeiladu teml Dduw lle mae hi i fod.
8Dw i hefyd yn gorchymyn eich bod chi i helpu arweinwyr yr Iddewon fel bod y gwaith yn mynd yn ei flaen yn ddi-rwystr. Mae’r costau i gyd i’w talu allan o drethi talaith Traws-Ewffrates, sy’n cael eu cadw yn y trysorlys brenhinol. 9Dylid gwneud yn siŵr bob dydd eu bod nhw’n cael popeth sydd ei angen – teirw, hyrddod, ac ŵyn yn offrymau i’w llosgi i Dduw y nefoedd, gwenith, halen, gwin ac olew olewydd – beth bynnag mae’r offeiriaid yn Jerwsalem yn gofyn amdano. 10Wedyn byddan nhw’n gallu offrymu arogldarth i Dduw y nefoedd, a gweddïo dros y brenin a’i feibion.
11A dw i’n rhybuddio y bydd unrhyw un sy’n newid y gorchymyn yma yn marw – bydd trawst pren yn cael ei gymryd o’i dŷ a bydd y person hwnnw yn cael ei rwymo i’r trawst a’i drywanu’n farw. Wedyn bydd ei dŷ yn cael ei chwalu am ei fod wedi gwneud y fath beth.
12Boed i’r Duw sy’n byw yn Jerwsalem ddinistrio unrhyw frenin neu wlad sy’n ceisio newid hyn er mwyn chwalu’r deml yno. Dw i, Dareius, wedi rhoi’r gorchymyn, a dw i’n disgwyl i’r cwbl gael ei gadw i’r llythyren!”
Y Deml yn Cael ei Chysegru
13Dyma Tatnai (llywodraethwr talaith Traws-Ewffrates), Shethar-bosnai, a’i cydweithwyr yn gwneud yn union beth roedd y Brenin Dareius wedi’i orchymyn. 14Roedd arweinwyr yr Iddewon yn dal ati i adeiladu, ac yn llwyddiannus iawn, tra oedd Haggai a Sechareia fab Ido yn dal ati i broffwydo. A dyma nhw’n gorffen y gwaith adeiladu roedd Duw Israel wedi’i orchymyn, a hefyd Cyrus, Dareius ac Artaxerxes, brenhinoedd Persia. 15Dyma nhw’n gorffen adeiladu’r deml ar y trydydd o fis Adar,#6:15 Adar Deuddegfed mis y calendr Hebreig, o tua canol Chwefror i ganol Mawrth. yn chweched flwyddyn teyrnasiad y Brenin Dareius.#6:15 chweched … Dareius 515 cc.
16Trefnodd pobl Israel ddathliad i gysegru’r deml. Roedd pawb yno – yr offeiriaid, y Lefiaid, a phawb arall ddaeth yn ôl o’r gaethglud. 17Cafodd cant o deirw eu hoffrymu, dau gant o hyrddod, pedwar cant o ŵyn, ac un deg dau bwch gafr dros bechodau pobl Israel (un ar ran pob llwyth). 18Yna, fel mae sgrôl Moses yn dweud, dyma nhw’n rhannu’r offeiriaid a’r Lefiaid yn grwpiau, i fod yn gyfrifol am addoliad Duw yn Jerwsalem.#6:18 Dyma ddiwedd yr adran sydd yn yr iaith Aramaeg (Esra 4:8–6:18). Hebraeg ydy iaith y gwreiddiol o adn. 19 ymlaen, er fod Aramaeg yn cael ei defnyddio eto yn Esra 7:12-26.
Dathlu Gŵyl y Pasg
19Dyma’r bobl oedd wedi dod yn ôl o’r gaethglud yn dathlu’r Pasg ar y pedwerydd ar ddeg o’r mis cyntaf.#6:19 mis cyntaf Nisan, mis cyntaf y calendr Hebreig, o tua canol Mawrth i ganol Ebrill.#Lefiticus 23:5 20Roedd yr offeiriaid a’r Lefiaid wedi mynd drwy’r ddefod o buro’u hunain ac wedi’u cysegru. Felly dyma nhw’n lladd ŵyn y Pasg ar ran y bobl oedd wedi dod yn ôl o’r gaethglud, ac ar ran yr offeiriaid eraill a nhw eu hunain. 21Cafodd aberthau’r Pasg eu bwyta gan bobl Israel a phawb arall oedd wedi ymuno gyda nhw a throi cefn ar arferion paganaidd pobloedd eraill y wlad er mwyn dilyn yr ARGLWYDD, Duw Israel. 22A dyma nhw’n dathlu Gŵyl y Bara Croyw yn llawen am saith diwrnod. Roedden nhw mor hapus am fod yr ARGLWYDD wedi newid agwedd brenin Asyria tuag atyn nhw, a gwneud iddo’u helpu nhw gyda’r gwaith o adeiladu teml Dduw, Duw Israel.

Currently Selected:

Esra 6: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in