YouVersion Logo
Search Icon

Exodus 39

39
Gwneud gwisgoedd yr offeiriaid
(Exodus 28:1-14)
1Dyma nhw’n gwneud gwisgoedd i’r rhai fyddai’n gwasanaethu yn y cysegr – gwisgoedd wedi’u brodio’n hardd gydag edau las, porffor a coch. Gwisgoedd cysegredig i Aaron, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. 2Roedd yr effod wedi’i gwneud o’r lliain main gorau, wedi’i frodio gydag aur, glas, porffor a coch. 3Dyma’r crefftwyr yn gwneud dalen denau, denau o aur a’i thorri yn stribedi main a’u gwnïo i’r patrwm gyda’r edau las, porffor a coch; y cwbl wedi’i ddylunio’n gelfydd. 4Dyma nhw’n gwneud dau strap i fynd dros yr ysgwyddau, wedi’u cysylltu i’r corneli, i’w dal gyda’i gilydd. 5Ac roedd strap cywrain wedi’i blethu i fod yn un darn gyda’r effod. Roedd wedi’i wneud o’r lliain main gorau, ac wedi’i frodio gydag aur, ac edau las, porffor a coch, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. 6Yna dyma nhw’n gosod y cerrig onics mewn gwaith ffiligri o aur, a chrafu enwau meibion Israel arnyn nhw, yr un fath ag mae sêl yn cael ei gwneud. 7Yna eu rhoi nhw ar strapiau ysgwydd yr effod, fel cerrig coffa i bobl Israel, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.
Gwneud y darn i fynd ar frest yr Archoffeiriad
(Exodus 28:15-30)
8Wedyn dyma nhw’n gwneud y darn sy’n mynd dros y frest, wedi’i gynllunio’n gelfydd gan artist. Ei wneud yr un fath â’r effod – allan o liain main wedi’i frodio gydag aur, ac edau las, porffor a coch. 9Roedd wedi’i blygu drosodd i wneud poced 22 centimetr sgwâr. 10Yna gosod pedair rhes o gerrig arno: y rhes gyntaf yn rhuddem, topas a beryl; 11yr ail res yn lasfaen, saffir ac emrallt; 12y drydedd res yn iasinth, calcedon ac amethyst; 13a’r bedwaredd yn saffir melyn, onics a iasbis – pob un wedi’i gosod mewn gwaith ffiligri o aur. 14Roedd pob carreg yn cynrychioli un o feibion Israel – un deg dau enw wedi’u crafu arnyn nhw, yr un fath ag mae sêl yn cael ei gwneud.
15A dyma nhw’n gwneud cadwyni o aur pur wedi’u plethu i’w gosod ar y darn sy’n mynd dros y frest. 16Yna gwneud dau ffiligri o aur a dwy ddolen aur, a chysylltu’r dolenni i ddwy gornel uchaf y darn sy’n mynd dros y frest. 17Wedyn cysylltu’r ddwy gadwyn aur i’r dolenni hynny, 18a chysylltu pen arall y cadwyni i’r ddau ffiligri, a rhoi’r rheiny ar strapiau ysgwydd yr effod, ar y tu blaen. 19Wedyn gwneud dwy ddolen aur arall a’u cysylltu nhw i gorneli isaf y darn sy’n mynd dros y frest, ar yr ymyl fewnol agosaf at yr effod. 20Yna gwneud dwy ddolen aur arall eto, a’u rhoi nhw ar waelod strapiau ysgwydd yr effod wrth ymyl y gwnïad sydd uwchben strap yr effod. 21Wedyn clymu dolenni’r darn dros y frest i ddolenni’r effod gydag edau las, i’w gadw uwchben strap yr effod, yn lle ei fod yn hongian yn rhydd. Roedd hyn i gyd yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
Gwneud gwisgoedd eraill yr Offeiriaid
(Exodus 28:31-43)
22Gwnaeth gwehydd y fantell sy’n mynd gyda’r effod i gyd yn las. 23Roedd lle i’r pen fynd drwyddo yn y canol, gyda hem o’i gwmpas, wedi’i bwytho fel coler i’w atal rhag rhwygo. 24Wedyn roedd pomgranadau bach o gwmpas ymylon y fantell, wedi’u gwneud o edau las, porffor a coch, a lliain main. 25Ac yna gwneud clychau o aur pur a’u gosod nhw rhwng y pomgranadau ar ymylon y fantell – 26clychau a ffrwythau bob yn ail o gwmpas y fantell fyddai’n cael ei gwisgo i wasanaethu, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
27Wedyn dyma nhw’n gwneud crysau o liain main i Aaron a’i feibion. 28Hefyd twrban a phenwisgoedd o liain main, a dillad isaf o’r lliain main gorau. 29Ac roedd y sash i’w wneud o’r lliain main gorau hefyd, wedi’i frodio gydag edau las, porffor a coch, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
30Wedyn gwneud medaliwn o aur pur, y symbol ei fod wedi’i gysegru i waith Duw, a chrafu arno (fel ar sêl) y geiriau: ‘Wedi ei gysegru i’r ARGLWYDD’. 31Wedyn ei glymu ar du blaen y twrban gydag edau las, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
Gorffen y gwaith
(Exodus 35:10-19)
32Felly roedd yr holl waith ar y Tabernacl (sef pabell presenoldeb Duw) wedi’i orffen. Roedd pobl Israel wedi gwneud popeth yn union fel dwedodd yr ARGLWYDD wrth Moses. 33Felly dyma nhw’n dod â’r Tabernacl at Moses, sef y babell ei hun a’r darnau eraill i gyd: y bachau, y fframiau, y trawstiau, y polion a’r socedi. 34Y gorchudd o grwyn hyrddod wedi’u llifo’n goch, y gorchudd o grwyn môr-fuchod, a llen y sgrîn. 35Yna Arch y dystiolaeth, y polion i’w chario, a’i chaead (sef Caead y Cymodi), 36y bwrdd a’i holl gelfi, a’r bara cysegredig. 37Y menora gyda’i lampau mewn trefn, yr offer oedd gyda hi, a’r olew i’w goleuo. 38Yr Allor Aur, yr olew eneinio, yr arogldarth persawrus, y sgrîn ar gyfer y fynedfa i’r babell. 39Yr Allor Bres a’i grât o bres, y polion i’w chario, a’i hoffer i gyd. Y ddysgl fawr a’i stand. 40Y llenni ar gyfer y wal o gwmpas yr iard, y polion i’w dal a’r socedi, y sgrîn ar gyfer y fynedfa i’r iard, y rhaffau a’r pegiau, a’r holl offer oedd ei angen ar gyfer y gwaith yn y Tabernacl, sef pabell presenoldeb Duw. 41Hefyd gwisgoedd y rhai fyddai’n gwasanaethu yn yr addoliad yn y lle sanctaidd (i gyd wedi’u brodio’n hardd), a gwisgoedd cysegredig Aaron yr offeiriad, a’i feibion fyddai hefyd yn gwasanaethu fel offeiriaid.
42Roedd pobl Israel wedi gwneud y gwaith i gyd yn union fel dwedodd yr ARGLWYDD wrth Moses. 43Yna dyma Moses yn archwilio’r cwbl, ac yn wir, roedd y cwbl wedi’i wneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud. A dyma Moses yn eu bendithio nhw.

Currently Selected:

Exodus 39: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in