YouVersion Logo
Search Icon

Exodus 24

24
Cadarnhau’r ymrwymiad
1Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Tyrd i fyny yma ata i. Tyrd ag Aaron a’i ddau fab, Nadab ac Abihw, a saith deg arweinydd Israel gyda ti. Byddan nhw’n fy addoli o bell, 2tra byddi di, Moses, yn dod yn nes ata i. Dydy’r lleill ddim i ddod yn rhy agos. A dydy’r bobl ddim i gael dringo’r mynydd o gwbl.”
3Yna dyma Moses yn mynd i ddweud wrth y bobl beth ddwedodd yr ARGLWYDD. Roedd ymateb y bobl yn unfrydol, “Byddwn ni’n gwneud popeth mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud.” 4Felly dyma Moses yn ysgrifennu popeth ddwedodd yr ARGLWYDD. Yn gynnar y bore wedyn, dyma fe’n codi allor wrth droed y mynydd, ac un deg dwy o golofnau o’i chwmpas – un ar gyfer pob un o ddeuddeg llwyth Israel. 5Yna anfonodd rai o’r dynion ifanc i gyflwyno offrymau oedd i’w llosgi’n llwyr, ac i aberthu teirw yn offrymau i gydnabod daioni’r ARGLWYDD. 6Wedyn dyma Moses yn rhoi hanner y gwaed mewn powlenni, a sblasio’r gweddill ar yr allor. 7Yna cymerodd Sgrôl yr Ymrwymiad, a’i darllen i’r bobl. A dyma nhw’n dweud eto, “Byddwn ni’n gwneud popeth mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud, ac yn gwrando arno.”
8Wedyn cymerodd Moses y gwaed oedd yn y powlenni, a’i daenellu ar y bobl. Ac meddai, “Mae’r gwaed hwn yn cadarnhau’r ymrwymiad mae’r ARGLWYDD wedi’i wneud, i chi fod yn ufudd i bopeth mae e’n ddweud.”
9Yna dyma Moses, Aaron, Nadab, Abihw a saith deg arweinydd Israel yn mynd i fyny’r mynydd, 10a dyma nhw’n gweld Duw Israel. Dan ei draed roedd rhywbeth tebyg i balmant wedi’i wneud o saffir. Roedd yn glir fel yr awyr las. 11Ond wnaeth e ddim dinistrio arweinwyr Israel, er iddyn nhw weld Duw; a dyma nhw’n bwyta ac yn yfed yn ei gwmni.
Moses ar Fynydd Sinai
12A dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Tyrd i ben y mynydd, ac aros amdana i. Dw i fy hun wedi ysgrifennu fy rheolau a’m cyfreithiau ar lechi, a dw i’n mynd i’w rhoi nhw i ti i’w dysgu i’r bobl.”
13Felly dyma Moses yn mynd, gyda’i was Josua, a dechrau dringo i fyny mynydd Duw. 14Roedd wedi dweud wrth yr arweinwyr, “Arhoswch amdanon ni yma, nes down ni yn ôl. Mae Aaron a Hur gyda chi. Os oes angen setlo rhyw ddadl, gallwch fynd atyn nhw.” 15Wrth i Moses ddringo i fyny, dyma’r cwmwl yn dod i lawr a gorchuddio’r mynydd. 16Roedd ysblander yr ARGLWYDD yn gorffwys ar Fynydd Sinai. Roedd y cwmwl wedi’i orchuddio am chwe diwrnod. Yna ar y seithfed diwrnod, dyma Duw yn galw ar Moses o ganol y cwmwl. 17-18Roedd Moses wedi cerdded i mewn i’r cwmwl ar y mynydd. A buodd yno ddydd a nos am bedwar deg diwrnod llawn.
Roedd y bobl yn gweld ysblander yr ARGLWYDD ar ben y mynydd – roedd yn edrych fel tân yn llosgi.

Currently Selected:

Exodus 24: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in