YouVersion Logo
Search Icon

2 Samuel 18

18
Absalom yn cael ei ladd
1Dyma Dafydd yn casglu’r milwyr oedd gydag e at ei gilydd, a phenodi capteiniaid ar unedau o fil ac o gant. 2Yna anfonodd nhw allan yn dair catrawd. Roedd un o dan awdurdod Joab, un o dan ei frawd Abishai (mab Serwia), a’r llall o dan Itai o Gath. A dyma fe’n dweud wrthyn nhw, “Dw i’n hun am ddod allan i ymladd gyda chi hefyd.” 3Ond dyma’r dynion yn ateb, “Na, paid. Petai’n rhaid i ni ffoi am ein bywydau fyddai neb yn malio – hyd yn oed petai hanner y fyddin yn cael eu lladd! Ond rwyt ti’n werth deg mil ohonon ni. Byddai’n fwy o help i ni petaet ti’n aros yn y dre.” 4Atebodd y brenin, “Os mai dyna dych chi’n feddwl sydd orau, dyna wna i.”
Yna safodd y brenin wrth giât y dre wrth i’r dynion fynd allan fesul catrawd. 5A dyma fe’n gweiddi ar Joab, Abishai ac Itai, “Er fy mwyn i, byddwch yn garedig at y bachgen Absalom.” (Roedd y fyddin gyfan wedi’i glywed yn rhoi’r gorchymyn yma i’w swyddogion.) 6Dyma nhw’n mynd allan i frwydro yn erbyn byddin Israel. Roedd y brwydro yng Nghoedwig Effraim, 7a dyma ddilynwyr Dafydd yn gorchfygu byddin Israel. Roedd colledion mawr. Cafodd dau ddeg mil eu lladd y diwrnod hwnnw. 8Roedd y brwydro wedi lledu i bobman, a chafodd mwy o ddynion eu lladd o achos peryglon y goedwig na gafodd eu lladd â’r cleddyf!
9Yn ystod y frwydr dyma rai o ddynion Dafydd yn dod ar draws Absalom. Roedd yn reidio ar gefn ei ful. Wrth i’r mul fynd o dan ganghennau rhyw goeden fawr, dyma ben Absalom yn cael ei ddal yn y goeden. Aeth y mul yn ei flaen, a gadael Absalom yn hongian yn yr awyr. 10Gwelodd un o’r dynion beth ddigwyddodd a mynd i ddweud wrth Joab, “Dw i newydd weld Absalom yn hongian o goeden fawr.” 11Atebodd Joab, “Beth? Welaist ti e? Pam wnes ddim ei ladd e yn y fan a’r lle? Byddwn i wedi rhoi deg darn arian a medal#18:11 medal Hebraeg, “belt”, sef gwregys i arwisgo milwr am wneud rhywbeth arwrol. i ti.” 12Ond dyma’r dyn yn dweud, “Hyd yn oed petawn i’n cael mil o ddarnau arian, fyddwn ni ddim yn cyffwrdd mab y brenin! Clywodd pawb y brenin yn dy siarsio di ac Abishai ac Itai i ofalu am y bachgen Absalom. 13Petawn i wedi gwneud rhywbeth iddo byddai’r brenin yn siŵr o fod wedi clywed, a byddet ti wedi gadael i mi gymryd y bai!” 14Dyma Joab yn ei ateb, “Dw i ddim am wastraffu amser fel yma.” A dyma fe’n cymryd tair gwaywffon a’u gwthio nhw drwy galon Absalom pan oedd yn dal yn fyw yn y goeden. 15Yna dyma’r deg llanc oedd yn gofalu am arfau Joab yn casglu o gwmpas Absalom, a’i ladd.
16Yna chwythodd Joab y corn hwrdd,#18:16 corn hwrdd Hebraeg, shoffar. a dyma nhw’n rhoi’r gorau i fynd ar ôl byddin Israel am fod Joab wedi’u galw’n ôl. 17Cafodd corff Absalom ei daflu i bydew dwfn yn y goedwig, a dyma nhw’n gosod pentwr mawr o gerrig drosto. Yn y cyfamser, roedd milwyr Israel i gyd wedi dianc am adre.
18Pan oedd yn dal yn fyw roedd Absalom wedi codi cofgolofn iddo’i hun yn Nyffryn y Brenin am fod ganddo fe ddim mab i gadw ei enw i fynd.#18:18 ddim mab … Yn ôl 14:27 roedd gan Absalom dri mab, ond falle eu bod nhw wedi marw erbyn hyn. Roedd wedi gosod ei enw ei hun arni, a hyd heddiw mae’r golofn yn cael ei galw yn ‘Gofeb Absalom’.
Dafydd yn clywed fod Absalom wedi marw
19Dyma Achimaäts, mab Sadoc, yn gofyn i Joab, “Gad i mi redeg i roi’r newyddion da i’r brenin fod yr ARGLWYDD wedi’i achub o afael ei elynion.” 20Ond dyma Joab yn ateb, “Na, gei di ddim mynd â’r newyddion iddo heddiw. Cei fynd â newyddion da iddo rywbryd eto. Ond dydy e ddim yn newyddion da i’r brenin fod ei fab wedi marw.” 21Yna dyma Joab yn dweud wrth filwr du o Affrica,#18:21 Affrica Hebraeg, Cwsh. Yr ardal i’r de o wlad yr Aifft, sef gogledd Swdan heddiw. “Dos di i ddweud wrth y brenin beth rwyt ti wedi’i weld heddiw.” Ar ôl ymgrymu o flaen Joab i ffwrdd â fe. 22Ond roedd Achimaäts, mab Sadoc, yn dal i grefu ar Joab, “Plîs, plîs, gad i mi fynd hefyd ar ôl y dyn yna o Affrica.” Dyma Joab yn gofyn iddo, “Pam wyt ti mor awyddus i fynd, machgen i? Fydd yna ddim gwobr i ti.” 23Ond roedd yn dal i bledio, “Plîs, dw i eisiau mynd.” Felly dyma Joab yn gadael iddo fynd. A dyma Achimaäts yn rhedeg ar hyd gwastatir yr Iorddonen, a phasio’r Affricanwr.
24Roedd Dafydd yn eistedd rhwng y giât fewnol a’r giât allanol. Aeth gwyliwr i fyny i ben y to uwchben y giât. Edrychodd allan a gweld dyn yn rhedeg ar ei ben ei hun. 25A dyma fe’n galw i lawr i ddweud wrth y brenin. A dyma’r brenin yn dweud, “Os ydy e ar ei ben ei hun mae’n rhaid bod ganddo newyddion.” Ond wrth i’r rhedwr ddod yn agosach, 26dyma’r gwyliwr yn gweld dyn arall. A dyma fe’n galw ar yr un oedd yn gwarchod y giât, “Mae yna ddyn arall yn dod, yn rhedeg ar ei ben ei hun.” A dyma’r brenin yn dweud, “Mae gan hwn newyddion hefyd.” 27Yna dyma’r gwyliwr yn dweud, “Dw i’n meddwl mai Achimaäts fab Sadoc ydy’r rhedwr cyntaf.” A dyma’r brenin yn ateb, “Dyn da ydy e. Mae’n dod â newyddion da.”
28Yna dyma Achimaäts yn cyrraedd a chyfarch y brenin ac ymgrymu â’i wyneb ar lawr o’i flaen, a dweud, “Bendith ar yr ARGLWYDD dy Dduw! Mae wedi trechu’r dynion oedd wedi troi yn erbyn y brenin!” 29A dyma’r brenin yn gofyn, “Ydy’r bachgen Absalom yn iawn?” Ac meddai Achimaäts, “Roedd rhyw helynt mawr pan anfonodd Joab was y brenin a minnau i ffwrdd. Ond dw i ddim yn gwybod beth oedd yn digwydd.” 30“Symud i’r ochr, a sefyll yna” meddai’r brenin. A dyma Achimaäts yn gwneud hynny. 31Yna dyma’r milwr o Affrica yn cyrraedd a dweud, “Newyddion da i’m meistr, y brenin! Mae’r ARGLWYDD wedi dy achub di o afael y rhai oedd wedi codi yn dy erbyn.” 32A dyma’r brenin yn holi’r dyn, “Ydy’r bachgen Absalom yn iawn?” A dyma fe’n ateb, “O na fyddai dy elynion i gyd a phawb sy’n codi yn dy erbyn fel y dyn ifanc yna!”
33Roedd y brenin wedi ypsetio’n lân. Aeth i fyny i’r ystafell uwchben y giât yn crio, a dweud drosodd a throsodd, “O fy mab! O, Absalom fy mab i! Fy mab Absalom! Pam ges i ddim marw yn dy le di? O Absalom, fy mab! O, fy mab i.”

Currently Selected:

2 Samuel 18: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in