YouVersion Logo
Search Icon

2 Samuel 17

17
Chwshai yn camarwain Absalom
1Yna dyma Achitoffel yn dweud wrth Absalom, “Gad i mi gymryd 12,000 o ddynion, a mynd allan ar ôl Dafydd, heno! 2Bydd e wedi blino’n lân ac yn wan erbyn i mi ddal i fyny ag e. Bydda i’n ei ddychryn, a bydd ei fyddin yn dianc mewn panig. Dim ond y brenin wna i ei ladd. 3Gwna i ddod â gweddill y bobl yn ôl atat ti. Dim ond un dyn sydd angen ei ladd. Fydd neb arall yn cael niwed.”
4Roedd yn swnio’n gynllun da i Absalom ac arweinwyr Israel i gyd. 5Ond yna dyma Absalom yn dweud, “Dewch â Chwshai yr Arciad yma, i ni weld beth sydd ganddo fe i’w ddweud.” 6Pan ddaeth Chwshai, dyma Absalom yn dweud wrtho beth oedd cyngor Achitoffel. “Beth ydy dy farn di? Ydy e’n gyngor da? Ac os ddim, beth wyt ti’n awgrymu?” 7Dyma Chwshai yn ateb, “Na, dydy cyngor Achitoffel ddim yn dda y tro yma. 8Mae dy dad a’i ddynion yn filwyr dewr. Ti’n gwybod hynny’n iawn. Maen nhw’n gallu bod mor filain ag arth wyllt wedi colli ei chenawon! Mae e wedi hen arfer rhyfela. Fyddai e byth yn cysgu’r nos gyda’i ddynion. 9Mae’n siŵr ei fod yn cuddio mewn rhyw ogof neu rywle tebyg. Petai e’n ymosod ar dy ddynion di gyntaf, a rhai ohonyn nhw’n cael eu lladd, byddai’r stori’n mynd ar led fod byddin Absalom wedi cael crasfa. 10Byddai hyd yn oed y milwyr mwyaf dewr – y rhai sy’n gryfion fel llewod – yn digalonni. Mae pobl Israel i gyd yn gwybod fod dy dad wedi hen arfer rhyfela, a bod y dynion sydd gydag e’n filwyr profiadol. 11Dyma fy nghyngor i: Casgla ddynion Israel i gyd at ei gilydd, pawb – o Dan yn y gogledd i Beersheba#17:11 Dan … Beersheba Roedd Dan wrth droed Mynydd Hermon yn y gogledd ar y llwybr masnach i Damascus. Roedd Beersheba 23 milltir i’r de-orllewin o Hebron ar y prif lwybr masnach i’r Aifft. yn y de (Byddin fydd fel y tywod ar lan y môr, yn amhosib i’w chyfrif!) A dw i’n meddwl y dylet ti dy hun eu harwain nhw i’r frwydr. 12Wedyn, ble bynnag mae e, byddwn ni’n disgyn arno fel gwlith ar y ddaear. Fydd e na neb arall sydd gydag e’n cael eu gadael yn fyw! 13A hyd yn oed os bydd e’n llwyddo i ddianc i ryw dref gaerog, bydd dynion Israel yn tynnu’r waliau i lawr gyda rhaffau a llusgo’r dref i lawr i’r dyffryn. Fydd dim un garreg fechan ar ôl!” 14A dyma Absalom ac arweinwyr Israel yn ymateb, “Mae cyngor Chwshai yn well na chyngor Achitoffel.” A dyna sut gwnaeth yr ARGLWYDD ddrysu cyngor da Achitoffel er mwyn achosi helynt i Absalom.
Dafydd yn dianc i Machanaîm#17:14 Tref bwysig i’r dwyrain o afon Iorddonen. Hon oedd canolfan Ish-bosheth pan gafodd ei wneud yn frenin ar ôl ei dad Saul (2 Samuel 2:8-10).
15Yna dyma Chwshai yn mynd i ddweud wrth Sadoc ac Abiathar yr offeiriaid beth oedd cyngor Achitoffel i Absalom, a beth oedd e ei hun wedi’i ddweud. 16“Anfonwch neges ar frys at Dafydd i ddweud wrtho am beidio aros dros nos wrth rydau’r anialwch,” meddai. “Dwedwch wrtho am groesi’r Iorddonen yn syth, rhag ofn iddo fe a phawb sydd gydag e gael eu lladd.”
17Roedd Jonathan ac Achimaäts (meibion yr offeiriaid) yn aros yn En-rogel.#17:17 En-rogel sef, Ffynnon y Pannwr. Felly byddai morwyn yn mynd â negeseuon iddyn nhw, a hwythau wedyn yn mynd â’r negeseuon ymlaen i’r brenin Dafydd. (Doedd wiw iddyn nhw gael eu gweld yn mynd i mewn i Jerwsalem.) 18Ond roedd rhyw fachgen ifanc wedi’u gweld nhw, a mynd i ddweud wrth Absalom. Felly dyma’r ddau yn gadael ar frys, ac aethon nhw i dŷ rhyw ddyn yn Bachwrîm. Roedd gan hwnnw bydew yn ei fuarth, a dyma nhw’n dringo i lawr i’r pydew. 19Yna dyma wraig y dyn yn rhoi gorchudd dros geg y pydew a thaenu grawn drosto, fel bod dim i’w weld.
20Pan ddaeth gweision Absalom at y tŷ dyma nhw’n gofyn i’r wraig, “Ble mae Achimaäts a Jonathan?” A dyma hi’n ateb, “Maen nhw wedi croesi’r nant.” Aeth y dynion i chwilio amdanyn nhw, ond methu dod o hyd iddyn nhw. Felly dyma nhw’n mynd yn ôl i Jerwsalem.
21Pan oedden nhw wedi mynd, dyma Achimaäts a Jonathan yn dringo allan o’r pydew a mynd i roi’r neges i’r Brenin Dafydd. Dyma nhw’n dweud wrtho am frysio i groesi’r afon, a beth oedd cyngor Achitoffel yn ei erbyn. 22Felly dyma Dafydd a’i fyddin yn croesi afon Iorddonen. Roedden nhw i gyd wedi croesi cyn iddi wawrio y bore wedyn.
23Pan welodd Achitoffel fod ei gyngor wedi’i wrthod, dyma fe’n cyfrwyo’i asyn a mynd adre. Ar ôl rhoi trefn ar ei bethau, dyma fe’n crogi ei hun; a chafodd ei gladdu ym medd y teulu.
24Roedd Dafydd wedi hen gyrraedd Machanaîm erbyn i Absalom a byddin Israel i gyd groesi’r Iorddonen. 25Roedd Absalom wedi penodi Amasa yn bennaeth y fyddin yn lle Joab. (Roedd Amasa yn fab i Ismaeliad#17:25 Fel rhai llawysgrifau Groeg (cf. 1 Cronicl 2:17); Hebraeg, “Israeliad”. o’r enw Ithra ac Abigail, merch Nachash a chwaer Serwia, mam Joab.)#17:25 Amasa … Serwia, mam Joab Roedd Abigail a Serwia (mam Joab) yn chwiorydd, a Dafydd yn hanner brawd iddyn nhw (yr un fam, ond tad gwahanol). Felly roedd Amasa yn nai i Dafydd (gw. 1 Cronicl 2:12-17). 26Felly dyma Absalom a byddin Israel yn codi gwersyll yn ardal Gilead.
27Wrth i Dafydd gyrraedd Machanaîm, dyma Shobi fab Nachash#17:27 Shobi fab Nachash Mae’n bosib mai Dafydd wnaeth ei benodi yn frenin yn lle ei frawd Chanŵn ar ôl concro Rabba – 2 Samuel 10:1-3; 12:26-31. o Rabba’r Ammoniaid, Machir fab Ammiel#2 Samuel 9:4-5 o Lo-defâr, a Barsilai o Gilead, o Rogelîm, 28yn dod â gwlâu, powlenni, a llestri iddo. Dyma nhw hefyd yn dod â bwyd i Dafydd a’r milwyr oedd gydag e – gwenith, haidd, blawd, grawn wedi’i grasu, ffa, ffacbys, 29mêl, caws colfran o laeth dafad a chaws o laeth buwch. Roedden nhw’n gwybod y byddai pawb eisiau bwyd ac wedi blino, ac yn sychedig ar ôl bod allan yn yr anialwch.

Currently Selected:

2 Samuel 17: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in