2 Pedr 3
3
Dydd yr Arglwydd
1Ffrindiau annwyl, hwn ydy’r ail lythyr i mi ei ysgrifennu atoch chi. Yn hwn fel yn y llall dw i wedi ceisio’ch annog chi i gadw’ch meddyliau yn lân. 2Dw i eisiau i chi gofio beth ddwedodd y proffwydi sanctaidd yn y gorffennol. A hefyd beth ddysgodd ein Harglwydd a’n Hachubwr drwy ei gynrychiolwyr personol, y rhai rannodd y newyddion da gyda chi gyntaf.
3Y peth pwysig i’w gofio ydy hyn: Yn y dyddiau olaf bydd rhai yn dod fydd yn ‘chwarae crefydd’, yn dweud beth bynnag maen nhw eisiau ac yn gwneud sbort o’r gwirionedd. 4Byddan nhw’n dweud, “Wnaeth e ddim addo dod yn ôl? Ble mae e felly? Er bod y genhedlaeth gyntaf wedi marw, does dim wir wedi newid – mae bywyd yn mynd yn ei flaen yr un fath ers dechrau’r byd!” 5Ond wrth siarad felly maen nhw’n diystyru rhai ffeithiau. Roedd nefoedd a daear yn bod ymhell bell yn ôl am fod Duw wedi gorchymyn iddyn nhw ffurfio. Daeth y ddaear allan o ddŵr, a chafodd tir sych ei amgylchynu gan ddŵr.#gw. Genesis 1:6-9 6Wedyn defnyddiodd Duw yr un dŵr i ddod â dinistr i’r byd drwy foddi’r cwbl adeg y dilyw.#gw. Genesis 7:11 7Ac mae Duw wedi gorchymyn fod y nefoedd a’r ddaear bresennol wedi’u cadw i fynd drwy dân. Ie, wedi’u cadw ar gyfer dydd y farn, pan fydd pobl annuwiol yn cael eu dinistrio.
8Peidiwch anghofio hyn, ffrindiau annwyl: I’r Arglwydd mae un diwrnod fel mil o flynyddoedd, a mil o flynyddoedd fel un diwrnod.#Salm 90:4 9Dydy Duw ddim yn hwyr yn gwneud beth mae wedi’i addo, fel mae rhai’n meddwl am fod yn hwyr. Bod yn amyneddgar gyda chi mae e. Does ganddo ddim eisiau i unrhyw un fynd i ddistryw. Mae e am roi cyfle i bawb newid eu ffyrdd.
10Mae dydd yr Arglwydd yn dod. Ond bydd yn dod yn gwbl ddirybudd, fel lleidr. Bydd popeth yn yr awyr yn diflannu gyda sŵn rhuthr mawr. Bydd yr elfennau yn cael eu dinistrio gan dân, a phopeth ddigwyddodd ar y ddaear yn dod i’r golwg i gael ei farnu.
11Am fod popeth yn mynd i gael ei ddinistrio fel hyn, mae’n amlwg sut bobl ddylen ni fod! Dylen ni fyw bywydau glân sy’n rhoi Duw yn y canol, 12ac edrych ymlaen yn frwd i ddiwrnod Duw ddod. Dyna pryd fydd popeth yn yr awyr yn cael ei ddinistrio gan dân, a’r elfennau yn toddi yn y gwres. 13Ond dŷn ni’n edrych ymlaen at y nefoedd newydd a’r ddaear newydd mae Duw wedi’i haddo, lle bydd popeth mewn perthynas iawn gydag e.#Eseia 65:17; 66:22
14Felly, ffrindiau annwyl, gan mai dyna dych chi’n edrych ymlaen ato, gwnewch eich gorau glas i fyw bywydau sy’n lân a di-fai, ac mewn perthynas iawn gyda Duw. 15Dylech chi weld fod amynedd yr Arglwydd yn rhoi cyfle i chi gael eich achub. Dyna’n union ddwedodd ein brawd annwyl Paul pan ysgrifennodd atoch chi, ac mae Duw wedi rhoi dealltwriaeth arbennig iddo fe. 16Mae’n sôn am y pethau hyn i gyd yn ei lythyrau eraill hefyd. Mae rhai pethau yn ei lythyrau sy’n anodd eu deall. A dyna’r pethau mae pobl sydd heb eu dysgu ac sy’n hawdd eu camarwain yn eu gwyrdroi, yn union fel gyda’r ysgrifau sanctaidd eraill. Y canlyniad ydy eu bod nhw’n mynd i ddinistr!
17Ond dych chi wedi cael eich rhybuddio, ffrindiau annwyl. Felly gwyliwch rhag cael eich ysgubo i ffwrdd gan syniadau ffals pobl ddiegwyddor. Dw i ddim am i’ch ffydd gadarn chi simsanu. 18Yn lle hynny, dw i am i chi brofi mwy a mwy o ffafr a haelioni ein Harglwydd a’n Hachubwr Iesu Grist a dod i’w nabod e’n well. Mae e’n haeddu cael ei foli! – yn awr ac ar y diwrnod pan fydd tragwyddoldeb yn gwawrio! Amen.
Currently Selected:
2 Pedr 3: bnet
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
© Cymdeithas y Beibl 2023