YouVersion Logo
Search Icon

1 Brenhinoedd 13

13
Proffwyd yn ceryddu Jeroboam
1Pan oedd Jeroboam yn sefyll wrth yr allor yn Bethel yn llosgi arogldarth, dyma broffwyd#13:1 broffwyd Hebraeg, “dyn Duw”. yn cyrraedd yno o Jwda, wedi’i anfon gan yr ARGLWYDD. 2Dyma fe’n cyhoeddi neges gan yr ARGLWYDD yn erbyn yr allor: “O allor, allor!” meddai, “Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud. ‘Bydd plentyn yn cael ei eni i deulu Dafydd. Joseia fydd ei enw. Bydd e’n lladd offeiriaid yr allorau lleol sy’n dod yma i losgi arogldarth! Bydd esgyrn dynol yn cael eu llosgi arnat ti! 3Ac mae’r ARGLWYDD yn rhoi’r arwydd yma heddiw:
Bydd yr allor yn cael ei dryllio,
a’r lludw sydd arni’n syrthio ar lawr.’”
4Pan glywodd y brenin beth ddwedodd y proffwyd am yr allor yn Bethel, dyma fe’n estyn ei law allan dros yr allor. “Arestiwch e!” meddai. A dyma’r fraich oedd wedi’i hestyn allan yn cael ei pharlysu. Doedd e ddim yn gallu ei thynnu’n ôl. 5Ac yna dyma’r allor yn dryllio a’r lludw arni yn syrthio ar lawr, yn union fel roedd y proffwyd wedi dweud wrth gyhoeddi neges yr ARGLWYDD. 6Ymateb y brenin oedd pledio ar y proffwyd, “Gweddïa ar yr ARGLWYDD dy Dduw, a gofyn iddo wella fy mraich i.” A dyma’r proffwyd yn gweddïo ar yr ARGLWYDD, a dyma fraich y brenin yn cael ei gwneud yn iach fel o’r blaen. 7Yna dyma’r brenin yn dweud wrth y proffwyd, “Tyrd adre gyda mi i gael rhywbeth i’w fwyta. Dw i eisiau rhoi anrheg i ti.” 8Ond dyma’r proffwyd yn ei ateb, “Hyd yn oed petaet ti’n rhoi hanner dy eiddo i mi, fyddwn ni ddim yn mynd gyda ti i fwyta dim nac i yfed dŵr yn y lle yma. 9Achos dwedodd y ARGLWYDD yn glir wrtho i, ‘Paid bwyta nac yfed dim yno, a phaid mynd adre’r ffordd aethost ti yno.’” 10Felly dyma fe’n troi am adre ar hyd ffordd wahanol i’r ffordd ddaeth e i Fethel.
11Roedd yna broffwyd arall, dyn hen iawn, yn byw yn Bethel. Dyma’i feibion yn dweud wrtho am beth oedd wedi digwydd yn Bethel y diwrnod hwnnw, a beth oedd y proffwyd wedi’i ddweud wrth y brenin. 12A dyma fe’n eu holi, “Pa ffordd aeth e?” Esboniodd ei feibion iddo pa ffordd roedd y proffwyd o Jwda wedi mynd. 13Yna dyma fe’n gofyn iddyn nhw gyfrwyo asyn iddo. Dyma nhw’n gwneud hynny, ac aeth ar ei gefn 14a mynd ar ôl y proffwyd.
Daeth o hyd iddo yn eistedd o dan goeden dderwen, a gofynnodd iddo, “Ai ti ydy’r proffwyd ddaeth o Jwda?” A dyma hwnnw’n ateb, “Ie.” 15Yna dyma fe’n dweud wrtho, “Tyrd adre gyda mi am damaid o fwyd.” 16Ond dyma’r proffwyd yn ateb, “Alla i ddim mynd yn ôl gyda ti, na bwyta ac yfed dim yn y lle yma. 17Dwedodd yr ARGLWYDD yn glir wrtho i, ‘Paid bwyta dim nac yfed dŵr yno, a phaid mynd adre’r ffordd aethost ti yno.’” 18Ond dyma’r hen broffwyd yn dweud, “Dw i hefyd yn broffwyd fel ti. Mae angel wedi rhoi neges i mi gan yr ARGLWYDD yn dweud wrtho i am fynd â ti yn ôl adre gyda mi i ti gael rhywbeth i’w fwyta a’i yfed.” Ond dweud celwydd oedd e. 19Felly dyma’r proffwyd o Bethel yn mynd yn ôl gydag e i gael bwyd a diod yn ei dŷ.
20Tra oedden nhw’n bwyta dyma’r hen broffwyd oedd wedi’i ddenu’n ôl yn cael neges gan yr ARGLWYDD, ac 21yn dweud wrth y proffwyd o Jwda, “Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Ti wedi bod yn anufudd, a ddim wedi gwrando ar y gorchymyn roddodd yr ARGLWYDD dy Dduw i ti. 22Ti wedi dod yn ôl i fwyta ac yfed yn y lle yma, er ei fod wedi dweud wrthot ti am beidio gwneud hynny. Felly fydd dy gorff di ddim yn cael ei gladdu ym medd dy deulu.’” 23Ar ôl iddo orffen bwyta, dyma’r hen broffwyd o Bethel yn cyfrwyo ei asyn i’r proffwyd o Jwda. 24Pan oedd ar ei ffordd, dyma lew yn ymosod arno a’i ladd. Dyna lle roedd ei gorff yn gorwedd ar ochr y ffordd, a’r asyn a’r llew yn sefyll wrth ei ymyl.
25Dyma ryw bobl oedd yn digwydd mynd heibio yn gweld y corff ar ochr y ffordd a’r llew yn sefyll wrth ei ymyl. A dyma nhw’n sôn am y peth yn y dre lle roedd yr hen broffwyd yn byw. 26Pan glywodd yr hen broffwyd am y peth, dyma fe’n dweud, “Y proffwyd fuodd yn anufudd i’r ARGLWYDD ydy e. Mae’r ARGLWYDD wedi gadael i lew ei larpio a’i ladd, yn union fel gwnaeth e ddweud.” 27Yna gofynnodd i’w feibion gyfrwyo ei asyn iddo. Wedi iddyn nhw wneud hynny 28dyma fe’n mynd a dod o hyd i’r corff ar ochr y ffordd, gyda’r llew a’r asyn yn sefyll wrth ei ymyl. (Doedd y llew ddim wedi bwyta’r corff nac ymosod ar yr asyn.) 29Dyma’r hen broffwyd yn codi’r corff ar yr asyn a mynd yn ôl i’r dre i alaru drosto a’i gladdu. 30Rhoddodd y corff yn ei fedd ei hun, a galaru a dweud, “O, fy mrawd!” 31Wedi iddo ei gladdu, dyma fe’n dweud wrth ei feibion, “Pan fydda i’n marw, claddwch fi yn yr un bedd â’r proffwyd, a gosod fy esgyrn i wrth ymyl ei esgyrn e. 32Bydd y neges roddodd yr ARGLWYDD iddo i’w chyhoeddi, yn erbyn allor Bethel a holl demlau lleol Samaria, yn siŵr o ddod yn wir.”
33Ond hyd yn oed ar ôl i hyn ddigwydd, wnaeth Jeroboam ddim stopio gwneud pethau drwg. Roedd yn dal i wneud pob math o bobl yn offeiriad i’w allorau. Roedd yn apwyntio pwy bynnag oedd yn ffansïo’r job. 34Y pechod yma oedd y rheswm pam gafodd teulu brenhinol Jeroboam ei chwalu a’i ddileu oddi ar wyneb y ddaear.

Currently Selected:

1 Brenhinoedd 13: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in