YouVersion Logo
Search Icon

1 Ioan 1

1
Gair y bywyd
1Yr un sydd wedi bodoli o’r dechrau cyntaf – dŷn ni wedi’i glywed e a’i weld e. Do, dŷn ni wedi edrych arno â’n llygaid ein hunain, a’i gyffwrdd â’n dwylo! Gair y bywyd! 2Daeth y bywyd ei hun i’r golwg, a dŷn ni wedi’i weld e. Gallwn dystio iddo, a dyma dŷn ni’n ei gyhoeddi i chi – y bywyd tragwyddol oedd gyda’r Tad ac sydd wedi dangos ei hun i ni. 3Ydyn, dŷn ni’n sôn am rywbeth dŷn ni wedi’i weld a’i glywed. Dŷn ni eisiau i chithau brofi’r wefr gyda ni o rannu yn y berthynas yma gyda Duw y Tad, a gyda’i Fab, Iesu y Meseia. 4Dŷn ni’n ysgrifennu hyn er mwyn i ni i gyd fod yn wirioneddol hapus.
Byw yn y golau
5Dyma’r neges mae e wedi’i rhoi i ni, a dyma ni nawr yn ei rhannu gyda chi: Golau ydy Duw; does dim tywyllwch o gwbl ynddo. 6Felly, os ydyn ni’n honni fod gynnon ni berthynas gyda Duw ac eto’n dal i fyw fel petaen ni yn y tywyllwch, mae’n amlwg ein bod ni’n dweud celwydd. Dŷn ni ddim yn byw yn ffyddlon i’r gwir. 7Ond os ydyn ni’n byw yn y golau, fel mae Duw yn y golau, dŷn ni’n perthyn i’n gilydd, ac mae gwaed Iesu ei Fab yn ein glanhau ni o bob pechod.
8Os ydyn ni’n honni ein bod ni heb bechod, dŷn ni’n twyllo’n hunain a dydy’r gwir ddim ynon ni. 9Ond os gwnawn ni gyffesu ein pechodau, bydd e’n maddau i ni am ein pechodau ac yn ein glanhau ni oddi wrth bopeth drwg, am ei fod e’n cadw ei air ac yn gwneud beth sy’n iawn. 10Os ydyn ni’n honni ein bod ni erioed wedi pechu, dŷn ni’n gwneud Duw yn gelwyddog, ac mae’n amlwg bod ei neges e’n cael dim lle yn ein bywydau ni.

Currently Selected:

1 Ioan 1: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in