YouVersion Logo
Search Icon

Matthew Lefi 5

5
DOSBARTH III.
Y Bregeth àr y Mynydd.
1-2Iesu wrth ganfod y fath #5:1 Ymddylifiad, a confluence.ymgyffrwd, á esgynodd i fynydd, a gwedi eistedd i lawr, ei ddysgyblion á ddaethant ato. Yna gàn dòri y gosteg, efe a’u dysgodd hwynt, gàn ddywedyd;–
3-12Dedwydd y tylodion yn yr ysbryd; canys teyrnas y Nefoedd sydd eiddynt! Dedwydd y rhai à alarant; canys hwy á gant ddyddanwch! Dedwydd y rhai llariaidd; canys hwy á etifeddant y tir! Dedwydd y rhai à newynant, ac á sychedant am gyfiawnder; canys hwy à ddiwellir! Dedwydd y trugarogion; canys hwy á gant drugaredd! Dedwydd y rhai pur o galon; canys hwy á welant Dduw! Dedwydd y tangnefeddwyr; canys hwy á elwir yn feibion i Dduw! Dedwydd y rhai á ddyoddefant erlidigaeth o achos cyfiawnder; canys teyrnas y nefoedd sydd eiddynt! Dedwydd fyddwch, pan ych difenwant, ac ych erlidiant; ac ych camgyhuddant, o’m hachos i, o bob peth drwg! Llawenewch a gorfoleddwch, canys mawr yw eich gobr yn y nef; canys felly yr erlidiwyd y Proffwydi, y rhai fuont o’ch blaen chwi.
13-16Chwi yw halen y ddaiar. Os merfeiddiodd yr halen, pa fodd yr adferir ei halltrwydd ef? Nid ydyw mwyach yn gymhwys i ddim, ond iddei daflu allan, a’i sathru dàn draed. Chwi yw goleuni y byd. Dinas yn gorwedd àr fynydd raid fod yn amlwg. Llusern á oleuir iddei osod, nid o dàn lestr, ond àr #5:13 A stand.ddaliadur, fel y goleuo i’r holl deulu. Felly, llewyrched eich goleuni gèr gwydd dynion, fel, drwy weled eich gweithredoedd da chwi, y gogoneddont eich Tad, yr hwn sydd yn y nefoedd.
17-20Na thybiwch fy nyfod i ddymchwelyd y gyfraith neu y proffwydi. Ni ddaethym i ddymchwelyd, ond i gadarnâu. Canys, yn wir, yr wyf yn dywedyd wrthych, cynt y darfydda nef a daiar, nag y darfydda un iota neu un tipyn o’r gyfraith, heb gyrhaedd ei dyben. Pwybynag, gàn hyny, á dòro, neu á ddysgo i ereill dòri, pe byddai ond y lleiaf o’r gorchymynion hyn, ni bydd o un cyfrifiad yn Nheyrnasiad y Nefoedd: ond pwybynag à ’u hymarfero ac á’u dysgo, gwneir cyfrif mawr o hono yn Nheyrnasiad y Nefoedd. Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, oddeithr bod eich cyfiawnder yn rhagori àr gyfiawnder yr Ysgrifenyddion a’r Phariseaid, ni chewch byth fyned i fewn i deyrnas y nefoedd.
21-26Clywsoch y dywedwyd wrth yr hynafiaid, “Na lofruddia; canys pwybynag á lofruddio á fydd ddarostyngedig i’r barnwyr.” Ond yr wyf fi yn dywedyd i chwi, pwybynag á ddigio wrth ei frawd yn ddiachos, á fydd ddarostyngedig i’r barnwyr; pwybynag á’i galwo yn ynfydyn, á fydd ddarostyngedig i’r cynghor; ond pwybynag á’i galwo yn ddyhiryn, á fydd ddarostyngedig i dân uffern. Am hyny, os dygi dy rodd at yr allor, ac yno adgofio bod gàn dy frawd sail i achwyn o’th blegid; gad yno dy rodd o flaen yr allor; yn gyntaf dos a chais gymmod â’th frawd; yna dyred, ac offryma dy rodd. Cyttuna â’th echwynydd àr frys, tra fyddech àr y ffordd yn nghyd; rhag iddo dy roddi yn llaw y barnwr; ac i’r barnwr dy draddodi at y swyddog, a’th daflu i garchar. Yn wir, yr wyf yn dywedyd i ti, ni ryddêir di, hyd oni thalot y ffyrling ddiweddaf.
27-29Clywsoch y dywedwyd, “Na wna odineb.” Ond yr wyf fi yn dywedyd wrthych, pwybynag á edrycho àr wraig un arall, i goleddu chwennychiad halogedig, á wnaeth odineb â hi eisoes yn ei galon. Am hyny, os dy lygad dëau á’th fagla, tỳn ef allan, a thafl oddwrthyt: gwell i ti golli un o’th aelodau, nag i dy holl gorff gael ei daflu i uffern.
30Ac os dy law ddëau á’th fagla, tòr hi ymaith a thafl oddwrthyt: gwell i ti golli un o’th aelodau, nag i dy holl gorff gael ei daflu i uffern.
31-32Dywedwyd, “Pwybynag á ollyngo ymaith ei wraig, rhodded iddi lythyr ysgar.” Ond yr wyf fi yn dywedyd wrthych, pwybynag à ollyngo ymaith ei wraig, ond o achos puteindra, sydd yn achlysur iddi fyned yn odinebwraig; a phwybynag á briodo yr hon à ysgarwyd, sydd yn gwneuthur godineb.
33-37Drachefn, clywsoch y dywedwyd wrth yr hynafiaid, “Na thwng anudon, ond tâl dy lẅon i’r Arglwydd.” Ond yr wyf fi yn dywedyd wrthych, Na thwng ddim; nac i’r nef, canys gorsedd Duw ydyw; nac i’r ddaiar, canys ei droedfainc ydyw; na thwng chwaith i Gaersalem, canys dinas y Brenin mawr ydyw; nac i’th ben, am na elli wneuthur un blewyn yn wỳn neu yn ddu. Ond bydded eich ïe, yn Ië; eich nage, yn Nage; canys bethbynag sy dros ben hyn, o ddrwg y deillia.
38-42Clywsoch y dywedwyd, “Llygad am lygad, a dant am ddant.” Ond yr wyf fi yn dywedyd wrthych, nac ymrysonwch â’r drygionus. Ond os tery neb di àr dy rudd ddëau, tro yr aswy ato hefyd. Pwybynag á fỳno ymgynghaws â thi am dy bais, gad iddo gael dy fantell hefyd. Ac os cymhella neb di i fyned gydag ef un filltir, dos gydag ef ddwy. Dyro i’r sawl à ofyno genyt; a’r neb à fỳnai echwyna genyt, na thro heibio.
43-48Clywsoch y dywedwyd, “Câr dy gymydog, a chasâa dy elyn.” Ond yr wyf fi yn dywedyd wrthych, cerwch eich gelynion; bendithiwch y rhai à’ch melldithiant; gwnewch dda i’r rhai à’ch casâant; a gweddiwch dros y rhai à ch camgyhuddant, ac á ’ch erlidiant; fel y byddoch blant i’ch Tad yn y nefoedd, yr hwn á wna iddei haul godi àr ddrwg a da, ac á wlawia àr gyfiawn ac annghyfiawn. Canys os cerwch yn unig y sawl à ’ch carant, pa obr á allwch ddysgwyl? Oni wna hyd yn nod y #5:43 Pyblicanod.tollwyr felly? Ac os anerchwch eich brodyr yn unig, yn mha beth yr ydych yn rhagori? Onid yw hyd yn nod y Paganiaid yn gwneuthur cymaint? Byddwch chwi, gàn hyny, berffaith, fel y mae eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd yn berffaith.

Currently Selected:

Matthew Lefi 5: CJW

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy