YouVersion Logo
Search Icon

1 Tymothiws 6

6
Y vj Cytpen
1Y gwasnaythwyr pa rai bynag a font tan yr iaû: bid [[tyb kenthynt]] eû barn am eu meistred fod yn ddeledus vddyntwy bob vrddas: 2rhag peri gogan i henw duw ai addysc: y sawl fo meistred ffyddlawn vddynt na ddistyrant hwynt: o herwydd eu bod yn frodyr: eithyr gwasnaythant hwynt yn gynt oi bod yn credu ag yn gariadus: Canys kyfrannog ydynt or kymwynas: dysc [uddynt] y pethay hyn a chynghora. 3Os calyn neb amgenach addysc ag ni chydtynno: ag iachus eiriaû eyn harglwydd iesu grist: ag ar ddysc y sydd ar ol duwioliaeth: 4hwnnw gwagfalch yw: heb wybod dim, eithyr gorffwyllo ynghylch questiwne ag anghynghanedd (anghysondeb) geiriaû orhain i macka kenfigen: ymryson: ymserthu: tyb drwg 5ymrafaylion dynion llygredig eu meddwl: yrhai a dreisiwyd am y gwirionedd: ag yn tybiaid mai elw yw duwioliaeth; ymwahana oddiwrth y kyfriw: 6dûwioliaeth elw mawr ydiw: gidag a wasnaytho: 7Cans ni ddygasom ni ddim ir byd ag nis gallwn ddwyn dim allan: 8namyn trwy gaffael lluniaeth a chydachay, byddwn fodlon ar hynny: 9[[Cans]] (eithr) yrhai a wollysant fod yn gowaythawg syrthio a wnant mewn temtasiwn, a magl [y kythrel] ag i lawer o drachwant anrhesymol briwiedig: rhain a fawdd dynion i ddistriw ag i golledigaeth: 10Cans gwreiddin pob drwg yw chwant arian [money] y rhain tra fai rhai yn fawr eu hawydd vddynt: hwynt aythont ar grwydyr o ddiar y ffydd: ag a ymdroysant mewn llawer o ofid. 11Eithyr tydy gwr i ddûw ffo o ddiwrth y pethau hyn. Calyn gyfiownder, duwioliaeth, ffydd, cariad, ymynedd, llonyddwch, 12[vfyddtra] ymwan ddayonus ymwanniad ffydd: kyrhydd y bowyd tragwyddawl, ir hwn ith alwyd tithaû ag i proffesaist broffessiad da gar bron llawer o dystion: 13i ddwy yn gorchymyn i tydi gar bron dûw rhwn sydd yn rhoddi byw i bob peth, ag iesu grist rhwn tan ponsyws pyladus a distlaythawdd testiolayth dda: 14ar gadw ohonot y gorchymyn: a bod o honot yn ddifrycheûlyd ag yn ddifai hyd appirans yr a arglwydd iesu grist: 15rhwn (yn eu amser) a ddengys y neb sydd ddedwddawl ag unig allûys, brenin brenhinoedd ag arglwydd arglwyddi, 16rhwn yn unig piaû tragwyddoldeb, ai drigfan i fewn y goleûni diymgyrch, rhwn ni wyl neb or dynion ag nis dichin i weled: irhwn i bo vrddas a llyfodraeth tragwyddawl amen. 17Gorchymyn i gwaethogion y byd hwn na bothont uchel eû meddwl, ag nad ymddiriettont i anserteinrwydd kyfoeth: eithyr y fewn Duw byw rhwn sydd yn rhoddi i ni bob peth yn ddiandlawd yw meddiannû, 18ar wneuthyr o honynt les, ar fod o honynt yn gywaythawg mewn gorchwylion da, yn rhoi yn hawdd a chyfrannu yn llawen: 19yn storiaw uddynt i hûn sailfan da erbyn yr amser a ddaw i ynnill y bowyd tragwyddol. 20O tymothiws kadw a roed attat gochel anuwiol [[oferedd]] (orwagedd) geiriau: a possiadaû a ffals henw kelfyddyd arnynt: 21rhwn a broffessawdd rhai ag aythont ar grwydyr ynghylch y ffydd. Gras a fo gida thydy. Amen.

Currently Selected:

1 Tymothiws 6: RDEB

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in