YouVersion Logo
Search Icon

Mark 6

6
PENNOD VI.
Dïystyru Crist gan ei wladwŷr ei hun. Y mae efe yn rhoddi i’r deuddeg awdurdod ar ysprydion aflan. Torri pen Ioan Fedyddiwr; a’i gladdu. Yr apostolion yn dychwelyd o bregethu. Gwyrthiau y pum torth bara, a’r ddau bysgodyn. Crist yn rhodio ar y llyn, ac yn iachâu pawb a gyffyrddai ag ef.
1AC efe a aeth ymaith oddi yno, ac a ddaeth i’w wlad ei hun; a’i ddisgyblion a’i canlynasant ef. 2Ac wedi dyfod y sabbath, efe a ddechreuodd athrawiaethu yn y synagog: a synnu a wnaeth llawer a’i clywsant, gan ddywedyd, O ba le y daeth y pethau hyn i hwn? a pha ddoethineb yw hon a roed iddo, fel y gwnaid y cyfryw nerthoedd trwy ei ddwylaw ef? 3Onid hwn yw y saer, mab Maria, brawd Iakob a Ioses, a Iudas, a Simon? ac onid yw ei chwiorydd ef yma yn ein plith ni? A hwy a rwystrwyd o’i blegyd ef. 4Ond yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid yw prophwyd yn ddibris ond yn ei wlad ei hun, ac ym mhlith ei genedl ei hun, ac yn ei dŷ ei hun. 5Ac ni wnai efe yno ddim gwŷrthiau, ond rhoi ei ddwylaw ar ychydig gleifion, a’u hiachâu hwynt. 6Ac efe a ryfeddodd o herwydd eu hanghrediniaeth: ac a aeth i’r pentrefi oddi amgylch, gan athrawiaethu. 7Ac efe a alwodd y deuddeg, ac a ddechreuodd eu danfon hwynt yn ddau a dau; ac a roddes iddynt awdurdod ar ysprydion aflan; 8Ac a orchymynodd iddynt, na chymmerent ddim i’r daith, ond llaw-ffon yn unig; nac ysgrepan, na bara, nac arian yn eu pyrsau: 9Eithr eu bod â sandalau am eu traed; ac na wisgent ddwy bais. 10Ac efe a ddywedodd wrthynt, I ba le bynnag yr eloch i mewn i dŷ, arhoswch yno hyd onid eloch ymaith o’r lle hwnnw. 11A pha rai bynnag ni’ch derbyniant, ac ni’ch gwrandawant, pan eloch oddi yno, ysgydwch y llwch a fyddo dan eich traed, yn dystiolaeth iddynt. Yn wir meddaf i chwi, Y bydd esmwythach i Sodoma a Gomorra yn nydd barn, nag i’r ddinas honno. 12A hwy a aethant allan, ac a bregethasant ar iddynt edifarhâu. 13Ac a fwriasant allan lawer o gythreuliaid, ac a elïasant ag olew lawer o gleifion, ac a’u hiachasant. 14A’r brenhin Herod a glybu, (canys oedd ei enw ef yn gyhoedd) ac efe a ddywedodd, Ioan Fedyddiwr a gyfododd o feirw, ac am hynny y mae nerthoedd yn gweithio ynddo. 15Eraill a ddywedasant, Mai Elïas yw. Ac eraill a ddywedasant, Mai prophwyd yw, neu megis un o’r prophwydi. 16Ond Herod, pan glybu, a ddywedodd, Mai’r Ioan a dorrais i ei ben yw hwn; efe a gyfododd o feirw. 17Canys yr Herod hwn a ddanfonasai ac a ddaliasai Ioan, ac a’i rhwymasai ef yn y carchar, o achos Herodias, gwraig Philip ei frawd; yr hon a brïodasai Herod. 18Canys Ioan a ddywedasai wrth Herod, Nid cyfreithlawn i ti gael gwraig dy frawd. 19Ond Herodias a ddaliodd wg iddo, ac a chwennychodd ei ladd ef; ac ni’s gallodd. 20Canys Herod oedd yn ofni Ioan, gan wybod ei fod ef yn wr cyfiawn, ac yn sanctaidd, ac a’i parchai ef: ac wedi iddo ei glywed ef, efe a wnai lawer o bethau, ac a’i gwrandawai ef yn ewyllysgar. 21Ac wedi dyfod diwrnod cyfaddas, pan wnaeth Herod ar ei ddydd genedigaeth giniaw i’w bennaethiaid, a’i flaenoriaid, a goreugwŷr Galilaia: 22Ac wedi i ferch Herodias honno ddyfod i mewn, a dawnsio, a boddhâu Herod, a’r rhai oedd yn eistedd gyd ag ef, y brenhin a ddywedodd wrth y llangces, Gofyn i mi y peth a fynnech, ac mi a’i rhoddaf i ti. 23Ac efe a dyngodd iddi, Beth bynnag a ofynech i mi, mi a’i rhoddaf i ti, hyd hanner fy mreniniaeth. 24A hithau a aeth allan, ac a ddywedodd wrth ei mam, Pa beth a ofynaf? A hithau a ddywedodd, Pen Ioan Fedyddiwr. 25Ac yn y fan hi a aeth i mewn ar frys at y brenhin, ac a ofynodd, gan ddywedyd, Mi a fynnwn i ti roi i i mi allan o law, ar ddysgl, ben Ioan Fedyddiwr. 26A’r brenhin yn drist iawn, ni chwennychai ei bwrw hi heibio, oherwydd y llwon, a’r rhai oedd yn eistedd gyd ag ef. 27Ac yn y man y brenhin a ddanfonodd ddihenyddwr, ac a orchymynodd ddwyn ei ben ef. 28Ac yntau a aeth, ac a dorrodd ei ben ef yn y carchar, ac a ddug ei ben ef ar ddysgl, ac a’i rhoddes i’r llangces; a’r llangces a’i rhoddes ef i’w mam. 29A phan glybu ei ddisgyblion ef, hwy a ddaethant ac a gymmerasant ei gorph ef, ac a’i dodasant mewn bedd. 30A’r apostolion a ymgasglasant at yr Iesu, ac a fynegasant iddo yr holl bethau, y rhai a wnaethent, hefyd a’r rhai a athrawiaethasent. 31Ac efe a ddywedodd wrthynt, Deuwch eich hunain i le anghyfannedd o’r neilldu, a gorphwyswch ennyd. Canys llawer oedd yn dyfod ac yn myned, fel nad oeddynt yn cael ennyd cymmaint ag i fwytta. 32A hwy a aethant i le anghyfannedd mewn bâd o’r neilldu. 33A’r bobloedd a’u gwelsant hwy yn myned ymaith, a llawer a’i hadnabuant ef, ac a redasant yno ar draed o’r holl ddinasoedd, ac a’u rhag-flaenasant hwynt, ac a ymgasglasant atto ef. 34A’r Iesu, wedi myned allan, a welodd dyrfa fawr, ac a dosturiodd wrthynt, am eu bod fel defaid heb ganddynt fugail: ac a ddechreuodd ddysgu iddynt lawer o bethau. 35Ac yna wedi ei myned hi yn hwyr, y daeth ei ddisgyblion atto ef, gan ddywedyd, Y lle sydd anial, ac weithian y mae hi yn hwyr: 36Gollwng hwynt ymaith, fel yr elont i’r wlad oddi amgylch, ac i’r pentrefi, ac y prynont iddynt eu hunain fara: canys nid oes ganddynt i’w fwytta. 37Ond efe a attebodd ac a ddywedodd, Rhoddwch chwi iddynt beth i’w fwytta. A hwy a ddywedasant wrtho, A awn ni a phrynu gwerth deucan ceiniog o fara, a’i roddi iddynt i’w fwytta? 38Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa sawl torth sydd gennych? ewch ac edrychwch. Ac wedi iddynt wybod, hwy a ddywedasant, Pump, a dau bysgodyn. 39Ac efe a orchymynodd iddynt beri i bawb eistedd yn fyrddeidiau ar y glaswellt. 40A hwy a eisteddasant yn finteioedd, o gannoedd, ac o ddeg a deugeiniau. 41Ac wedi cymmeryd y pum torth a’r ddau bysgodyn, gan edrych i fynu tu a’r nef, efe a fendithiodd, ac a dorrodd y bara, ac a’u rhoddes at ei ddisgyblion, i’w gosod ger eu bronnau hwynt: a’r ddau bysgodyn a rannodd efe rhyngddynt oll. 42A hwy oll a fwyttasant, ac a gawsant ddigon. 43A chodasant ddeuddeg basgedaid yn llawn o’r briwfwyd, ac o’r pysgod. 44A’r rhai a fwyttasent o’r torthau, oeddent ynghŷlch pum-mil o wŷr. 45Ac yn y man efe a gymhellodd ei ddisgyblion i fyned i’r bâd o’r blaen i’r lan arall i Bethsaida, tra byddai efe yn gollwng ymaith y bobl. 46Ac wedi iddo eu danfon hwynt ymaith, efe a aeth i’r mynydd i weddïo. 47A phan aeth hi yn hwyr, yr oedd y bâd ar ganol y llyn, ac yntau ar y tir. 48Ac efe a’u gwelai yn flin arnynt yn rhwyfo (canys y gwynt oedd yn eu herbyn:) Ac ynghŷlch y bedwaredd wylfa o’r nos efe a ddaeth attynt, gan rodio ar y llyn; ac a fynnasai fyned heibio iddynt. 49Ond pan welsant hwy ef yn rhodio ar y llyn, hwy a dybiasant mai drychiolaeth ydoedd; a hwy a waeddasant. 50(Canys hwy oll a’i gwelsant ef, ac a ddychrynasant) Ac yn y man yr ymddiddanodd efe â hwynt, ac y dywedodd wrthynt, Cymmerwch gysur: myfi yw; nac ofnwch. 51Ac efe a aeth i fynu attynt i’r bâd; a’r gwŷnt a dawelodd. A hwy a synnasant ynddynt eu hunain yn fwy o lawer, ac a ryfeddasant. 52Oblegyd ni ddeallasant am y torthau hynny: canys yr oedd eu calon wedi caledu. 53Ac wedi iddynt ddyfod trosodd, hwy a ddaethant i dir Gennesaret, ac a laniasant. 54Ac wedi iddynt fyned allan o’r bâd, hwy a’i hadnabuant ef yn ebrwydd. 55Ac wedi redeg trwy gwbl o’r goror hwnnw, hwy a ddechreuasant ddwyn oddi amgylch mewn gwelyau rai cleifion, pa le bynnag y clywent ei fod ef. 56Ac i ba le bynnag yr elai efe i mewn, i bentrefi, neu ddinasoedd, neu wlad, hwy a osodent y cleifion yn yr heolydd, ac a attolygent iddo gael o honynt gyffwrdd cymmaint ag ymyl ei wisg ef: a chynnifer ag a gyffyrddasant ag ef, a iachawyd.

Currently Selected:

Mark 6: JJCN

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in