YouVersion Logo
Search Icon

Mark 4

4
PENNOD IV.
Dammeg yr hauwr, ai deongliad. Rhaid i ni gyfrannu ein gwybodaeth i eraill. Dammeg yr had yn tyfu yn ddiarwybod, ar gronyn mwstard. Crist yn gostegu y dymmestl ar y llyn.
1AC efe a ddechreuodd drachefn athrawiaethu yn ymyl y llyn, a thyrfa fawr a ymgasglodd atto, hyd oni bu iddo fyned i’r bâd, ac eistedd ar y llyn, a’r holl dyrfa oedd wrth y llyn, ar y tir. 2Ac efe a ddysgodd iddynt lawer ar ddamhegion, ac a ddywedodd wrthynt yn ei athrawiaeth ef, 3Gwrandêwch: Wele, hauwr a aeth allan i hau: 4Ac wrth hau darfu, i beth syrthio ar fin y ffordd, ac ehediaid yr awyr a ddaethant ac a’i difasant. 5A pheth a syrthiodd ar greigle, lle ni chafodd fawr ddaear; ac yn y fan yr eginodd, am nad oedd iddo ddyfnder daear. 6A phan gododd yr haul, y poethwyd ef; ac am nad oedd gwreiddyn iddo, efe a wywodd. 7A pheth a syrthiodd ym mhlith drain; a’r drain a dyfasant, ac a’i tagasant ef, ac ni ddugodd ffrwyth. 8A pheth arall a syrthiodd mewn tir da, ac a roddes ffrwyth tyfadwy a chynhyrchol, ac a ddugodd, un ddeg ar hugain, ac un dri-ugain, ac un gant. 9Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y neb sydd ganddo glustiau i wrandaw, gwrandawed. 10A phan oedd efe wrtho ei hun, y rhai oedd yn ei gylch ef gyd â’r deuddeg a ofynasant iddo am y ddammeg. 11Ac efe a ddywedodd wrthynt, I chwi y rhodded gwybod dirgelwch lywodraeth Duw: eithr i’r rhai sy allan, ar ddamhegion y gwneir pob peth: 12Fel yn gweled y gwelant, ac na chanfyddant; ac yn clywed y clywant, ac ni ddeallant; rhag iddynt ddychwelyd, a maddeu iddynt eu pechodau. 13Ac efe a ddywedodd wrthynt, Oni wyddoch chwi y ddammeg hon? a pha fodd y gwybyddwch yr holl ddamhegion? 14Yr hauwr sydd yn hau y gair: 15A’r rhai hyn yw y rhai ar fin y ffordd, lle’r hauir y gair; ac wedi iddynt ei glywed, y mae Satan yn dyfod yn ebrwydd, ac yn dwyn ymaith y gair a hauwyd yn eu calonnau hwynt. 16A’r rhai hyn yr un ffunud yw y rhai a hauir ar y creigle; y rhai, wedi clywed y gair, sydd yn ebrwydd yn ei dderbyn ef yn llawen; 17Ac nid oes ganddynt wreiddyn ynddynt eu hunain, eithr dros amser y maent: yna, pan ddêl blinder neu erlid o achos y gair, yn y man y rhwystrir hwynt. 18A’r rhai hyn yw y rhai a hauwyd ym mysg y drain; y rhai a wrandawant y gair, 19Ac y mae gofalon y byd hwn, a hudoliaeth golud, a chwantau am bethau eraill, yn dyfod i mewn, ac yn tagu y gair, a myned y mae yn ddiffrwyth. 20A’r rhai hyn yw y rhai a hauwyd mewn tir da; y rhai sydd yn gwrandaw y gair, ac yn ei dderbyn, ac yn dwyn ffrwyth, un ddeg ar hugain, ac un dri-ugain, ac un gant. 21Ac efe a ddywedodd wrthynt, A ddaw canwyll i’w dodi dan lestr, neu dan wely? ac nid i’w gosod ar ganhwyllbren? 22Canys nid oes dim cuddiedig, a’r ni’s amlygir; ac ni bu ddim dirgel, ond fel y delai i eglurdeb. 23Od oes gan neb glustiau i wrandaw, gwrandawed. 24Ac efe a ddywedodd wrthynt, Edrychwch beth a wrandawoch. A pha fesur y mesuroch, y mesurir i chwithau; a chwanegir i chwi, y rhai a wrandêwch. 25Canys yr hwn y mae ganddo, y rhoddir iddo: a’r hwn nid oes ond ychydig ganddo, y dygir oddi arno, ie, yr hyn sy ganddo. 26Ac efe a ddywedodd, Felly y mae breniniaeth Duw, fel pe bwriai ddyn had i’r ddaear; 27A chysgu, a chodi nos a dydd, a’r had yn egino, ac yn tyfu, y modd ni’s gwyr efe. 28Canys y ddaear a ddwg ffrwyth o honi ei hun; yn gyntaf yr eginyn, ar ol hynny y dywysen, yna yr ŷd yn llawn yn y dywysen. 29A phan ymddangoso y ffrwyth, yn ebrwydd y rhydd efe y crymman ynddo, am ddyfod y cynhauaf. 30Ac efe a ddywedodd, I ba beth y cyffelybem breniniaeth Duw? neu ar ba ddammeg y gwnaem gyffelybrwydd o honi? 31Megis gronyn o had mwstard ydyw, yr hwn pan hauer yn y ddaear, sy leiaf o’r holl hadau sydd ar y ddaear, 32Eithr wedi’r hauer, y mae yn tyfu, ac yn myned yn fwy nâ’r holl lysiau, ac efe a ddwg ganghennau mawrion; fel y gallo ehediaid yr awyr nythu dan ei gysgod ef. 33Ac â chyfryw ddamhegion lawer y traethodd efe iddynt y gair, hyd y gallent ei wrandaw. 34Ond heb ddammeg ni lafarodd wrthynt: ac o’r neilldu efe a eglurodd bob peth i’w ddisgyblion. 35Yna efe a ddywedodd wrthynt, wedi ei hwyrhâu hi, Awn trosodd i’r tu draw. 36Ac wedi iddynt ollwng ymaith y dyrfa, hwy a’i cymmerasant ef fel yr oedd yn y bâd: ac yr oedd hefyd badau eraill gyd ag ef. 37Ac fe a gyfododd tymmestl fawr o wŷnt, a’r tonnau a daflasant i’r bâd, hyd onid oedd yn llawn. 38Ac yr oedd efe yn y pen ol i’r bâd, yn cysgu ar obennydd: a hwy a’i deffroisant ef, ac a ddywedasant wrtho, Athraw, ai diofal gennynt ein colli ni? 39Ac efe a gododd i fynu, ac a geryddodd y gwŷnt, ac a ddywedodd wrth y dyfroedd, Gostega, distawa. A’r gwŷnt a ostegodd, a bu dawelwch mawr. 40Ac efe a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych mor ofnog? pa fodd nad oes gennych ffydd? 41Eithr hwy a ofnasant yn ddirfawr, ac a ddywedasant wrth eu gilydd, Pwy yw hwn, gan fod y gwŷnt a’r dyfroedd yn ufuddhâu iddo?

Currently Selected:

Mark 4: JJCN

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in