YouVersion Logo
Search Icon

Mark 1

1
PENNOD I.
Swydd Ioan Fedyddiwr. Bedyddio yr Iesu. Efe yn pregethu; yn galw Pedr, Andreas, Iakob ac Ioan: yn iachâu dyn ag yspryd aflan ynddo, a mam gwraig Pedr, a llawer o gleifion.
1DECHREU efengyl Iesu Grist, fab Duw; 2Fel yr ysgrifenwyd yn y prophwydi, Wele, yr ydwyf fi yn anfon fy nghennad o flaen dy wyneb, yr hwn a barattoa dy ffordd o’th flaen. 3Llef un yn llefain yn y lle anghyfanedd, Parattôwch ffordd yr Arglwydd, gwnewch ei lwybrau ef yn uniawn. 4Yr oedd Ioan yn bedyddio yn y lle anghyfanedd, ac yn cyhoeddu bedydd edifeirwch, er maddeuant pechodau. 5Ac aeth allan atto ef holl wlad Iudaia a’r Hierosolymitiaid, ac a’u bedyddiwyd oll ganddo yn afon yr Iordan, gan gyfaddef eu pechodau. 6Ac Ioan oedd wedi ei wisgo â blew camel, a gwregys croen ynghŷlch ei lwynau, ac yn bwytta locustiaid a mel gwŷllt: 7Ac efe a gyhoeddodd, gan ddywedyd, Y mae yn dyfod ar fy ol i un cryfach nâ myfi, carrai esgidiau yr hwn nid wyf fi deilwng i ymostwng, ac i’w dattod. 8Myfi yn wir a’ch bedyddiais chwi â dwfr: eithr efe a’ch bedyddia chwi â’r Yspryd Glân. 9A bu yn y dyddiau hynny, ddyfod o’r Iesu o Nazaret yn Galilaia, ac efe a fedyddiwyd gan Ioan yn yr Iordan. 10Ac yn ebrwydd wrth ddyfod i fynu o’r dwfr, efe a welodd y nefoedd yn agored, a’r Yspryd yn disgyn arno megis colommen. 11A llef a ddaeth o’r nefoedd, Tydi yw fy anwyl Fab, yn yr hwn y’m iawn foddlonwyd. 12Ac yn ebrwydd y gyrrodd yr yspryd ef i’r anghyfanedd. 13Ac efe a fu yno yn yr anghyfanedd ddeugain niwrnod yn ei brofi gan Satan: ac yr oedd efe gyd a’r gwŷllt-filod; a’r angylion a weiniasant iddo. 14Ac a’r ol traddodi Ioan, yr Iesu a ddaeth i Galilaia, gan gyhoeddu newyddion da freniniaeth Duw. 15A dywedyd, Yr amser a gyflawnwyd, a breniniaeth Duw a nesaodd: edifarhêwch, a chredwch yr efengyl. 16Ac fel yr oedd efe yn rhodio wrth lyn Galilaia, efe a ganfu Simon, ac Andreas ei frawd, yn bwrw rhwyd i’r llyn (canys pysgodwŷr oeddynt.) 17A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Deuwch ar fy ol i, a myfi a’ch gwnaf chwi fod yn bysgodwŷr dynion. 18Ac yn ebrwydd, gan adael eu rhwydau, y canlynasant ef. 19Ac wedi iddo fyned ychydig oddi yno, efe a ganfu Iakob fab Zebedëus, ac Ioan ei frawd ef, a hwy yn y bâd yn cyweirio eu rhwydau. 20Ac yn y man efe a’u galwodd hwynt: a hwy a adawsant eu tad Zebedëus yn y bâd gyd â’r cyflog-ddynion, ac a aethant ar ei ol ef. 21A hwy a aethant i mewn i Kapernaum; ac yn ebrwydd ar y dydd sabbath, wedi iddo fyned i mewn i’r synagog, efe a athrawiaethodd. 22A synnasant wrth ei athrawiaeth ef: canys yr oedd efe yn eu dysgu hwy megis un a rhyddid ganddo, ac nid fel yr ysgrifenyddion. 23Ac yr oedd yn eu synagog hwy ddyn ag ynddo yspryd aflan; ac efe a lefodd, 24Gan ddywedyd, Och, beth sydd i ni a wnelom â thi, Iesu o Nazaret? a ddaethost ti i’n difetha ni? mi a’th adwaen pwy ydwyt, Sanct Duw. 25A’r Iesu a’i ceryddodd ef, gan ddywedyd, Taw, a dos allan o hono. 26Yna wedi i’r yspryd aflan ei rwygo ef, a gwaeddi â llef uchel, efe a ddaeth allan o hono. 27Ac fe a aeth ar bawb fraw, fel yr ymofynasant yn eu mysg eu hunain, gan ddywedyd, Beth yw hyn? pa athrawiaeth newydd yw hon? canys trwy awdurdod y mae efe yn gorchymyn, ie, yr ysprydion aflan, a hwy yn ufuddhâu iddo. 28Ac yn ebrwydd aeth son am dano dross yr holl wlad o amgylch Galilaia. 29Ac yn y man hwy a aethant allan o’r synagog gyd ag Iakob ac Ioan i dŷ Simon ac Andreas. 30Ac yr oedd chwegr Simon yn gorwedd yn glaf o’r cryd twym: ac yn ebrwydd y dywedasant wrtho am dani hi. 31Ac efe a ddaeth ac a’i cododd hi i fynu, gan ymaflyd yn ei llaw: a’r cryd twym a’i gadawodd yn y man, a hi â wasanaethodd arnynt. 32Ac yn yr hwyr, pan fachludodd yr haul, hwy a ddygasant atto yr holl rai drwg eu hwyl, a’r rhai cythreulig. 33A’r holl ddinas oedd wedi ymgasglu wrth y drws. 34Ac efe a iachaodd lawer o rai drwg eu hwyl o amryw heintiau, ac a fwriodd allan lawer o gythreuliaid; ac ni adawodd i’r cythreuliaid ddywedyd yr adwaenent ef. 35A’r bore yn blygeiniol iawn, wedi iddo godi, efe a aeth allan i le anghyfannedd; ac yno y gweddïodd. 36A Simon, a’r rhai oedd gyd ag ef, a’i dilynasant ef. 37Ac wedi iddynt ei gael ef, hwy a ddywedasant wrtho, Y mae pawb yn dy geisio di. 38Ac efe a ddywedai wrthynt, Awn i’r trefydd nesaf, fel y gallwyf bregethu yno hefyd: canys i hynny y daethum allan. 39Ac yr oedd efe yn pregethu yn eu synagogau hwynt trwy holl Galilaia, ac yn bwrw allan gythreuliaid. 40A daeth atto ef un gwahanglwyfus, gan ymbil ag ef, a gostwng ar ei liniau iddo, a dywedyd wrtho, Os mynni, ti a elli fy nglanhâu. 41A’r Iesu, gan dosturio, a estynodd ei law, ac a gyffyrddodd ag ef, ac a ddywedodd wrtho, Mynnaf, bydd lân. 42Ac wedi iddo ddywedyd hynny, y gwahan-glwyf a ymadawodd ag ef yn ebrwydd, ac efe a lanhawd. 43Ac wedi gorchymyn iddo yn gaeth, efe ai hanfonodd ef ymaith yn y man; 44Ac a ddywedai wrtho, Gwel na ddywedych ddim wrth neb: eithr dos ymaith, dangos dy hun i’r offeiriad, ac offrymma dros dy lanhâd y pethau a orchymynodd Moses, er tystiolaeth iddynt hwy. 45Eithr efe a aeth ymaith, ac a ddechreuodd gyhoeddi llawer, a thanu y gair ar led, fel na allai’r Iesu fyned mwy yn amlwg i’r ddinas; eithr yr oedd efe allan mewn lleoedd anghyfannedd: a daethant atto ef o bob parth.

Currently Selected:

Mark 1: JJCN

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in