YouVersion Logo
Search Icon

Luk 6

6
PENNOD VI.
Christ yn argyhoeddi dallineb y Pharisai ynghŷlch cadw y sabbath: yn dewis deuddeg apostol: yn iachâu y cleifion: yn pregethu i’w ddisgyblion. Pa fodd y mae i ni garu ein gelynion; a chysylltu ufudd-dod ynghyd â gwrandaw y gair; rhag, yn nydd profedigaeth, i ni syrthio fel tŷ, heb sylfaen.
1A BU ar yr ail sabbath, fyned o hono trwy yr ŷd: â’i ddisgyblion a dynnasant y tywys, ac a’u bwyttasant, gwedi eu mesglu â’u dwylaw. 2A rhai o’r Pharisai a ddywedasant wrthynt, Paham yr ydych yn gwneuthur yr hyn nid yw gyfreithlon ei wneuthur ar y sabbathau? 3A’r Iesu gan atteb iddynt, a ddywedodd, Oni ddarllenasoch, yr hyn a wnaeth Dafydd, pan oedd chwant bwyd arno ef, a’r rhai oedd gyd ag ef. 4Y modd yr aeth efe i mewn i dŷ Duw, ac y cymmerth ac y bwyttaodd y bara gosod, ac a’i rhoddes hefyd i’r rhai oedd gyd ag ef: yr hwn nid yw gyfreithlon ei fwytta, ond i’r offeiriaid yn unig? 5Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae Mab y dyn yn Arglwydd, ïe, ar y sabbath. 6A bu hefyd ar sabbath arall, iddo fyned i mewn i’r synagog, ac athrawiaethu: ac yr oedd yno ddyn â’i law ddehau wedi gwywo. 7A’r ysgrifenyddion a’r Pharisai a’i gwyliasant ef, a iachai efe ef ar y sabbath; fel y caffent achwyn yn ei erbyn ef. 8Eithr efe a wybu eu meddyliau hwynt, ac a ddywedodd wrth y dyn oedd â’r llaw wedi gwywo, Cyfod i fynu, a saf yn y canol. Ac efe a gyfododd i fynu, ac a safodd. 9Yr Iesu am hynny a ddywedodd wrthynt, Myfi a ofynaf i chwi, Beth sydd gyfreithlon ar y sabbathau? gwneuthur da, ynte gwneuthur drwg? cadw einioes, ai colli? 10Ac wedi edrych arnynt oll oddi amgylch, efe a ddywedodd wrth y dyn, Estyn dy law. Ac efe a wnaeth felly: a’i law ef a wnaed yn iach fel y llall. 11A hwy a lanwyd o ynfydrwydd, ac a ymddiddanasant y naill wrth y llall, pa beth a wnaent i’r Iesu. 12A bu yn y dyddiau hynny, fyned o hono ef allan i’r mynydd i weddïo; a pharhâu ar hŷd y nos yn gweddïo ar Duw. 13A phan daeth hi yn ddydd, efe a alwodd atto ei ddisgyblion: ac o honynt efe a etholodd deuddeg, y rhai hefyd a enwodd efe yn Apostolion; 14Simon (yr hwn hefyd a enwodd efe Pedr) ac Andreas ei frawd; Iakob ac Ioan; Philip, a Bartholomai; 15Matthai, a Thomas; Iakob fab Alphëus, a Simon a elwir Zelotes; 16Iudas brawd Iakob, a Iudas Iscariot, yr hwn hefyd a aeth yn fradwr. 17Ac efe a aeth i wared gyd â hwynt, ac a safodd mewn gwastattir; a’r dyrfa o’i ddisgyblion, a lliaws mawr o bobl o holl Iudaia a Ierusalem, ac o duedd môr Tyrus a Sidon, y rhai a ddaeth i wrandaw arno, ac i’w hiachâu o’u clefydau; 18A’r rhai a flinid gan ysprydion aflan: a hwy a iachawyd. 19A’r holl dyrfa oedd yn ceisio cyffwrdd ag ef; am fod nerth yn myned allan o hono, ac yn iachâu pawb. 20Ac efe a edrychodd ar ei ddisgyblion, ac a ddywedodd, Gwŷn eich byd y tlodion: canys eiddoch chwi yw breniniaeth Duw. 21Gwŷn eich byd y rhai ydych yn dwyn newyn yr awr hon: canys chwi a ddigonir. Gwŷn eich byd y rhai ydych yn wylo yr awr hon i canys chwi a chwerddwch. 22Gwŷn eich byd pan y’ch casao dynion, a phan y’ch didolant oddi wrthynt, ac y’ch gwaradwyddant, ac y bwriant eich enw allan megis drwg, er mwyn Mab y dyn. 23Byddwch lawen y dydd hwnnw, a llemmwch: canys wele, eich gwobr sydd fawr yn y nef: oblegyd yr un modd y gwnaeth eu tadau hwynt i’r prophwydi. 24Eithr gwae chwi y cyfoethogion: canys derbyniwch eich diddanwch. 25Gwae chwi y rhai llawn: canys chwi a ddygwch newyn. Gwae chwi y rhai a chwerddwch yr awr hon: canys chwi a alerwch ac a wylwch. 26Gwae chwi pan ddywedo pob dyn yn dda am danoch: canys felly y gwnaeth eu tadau hwynt i’r gaubrophwydi. 27Ond yr wyf yn dywedyd wrthych chwi y rhai ydych yn gwrandaw, Cerwch eich gelynion; gwnewch dda i’r rhai a’ch casant: 28Bendithiwch y rhai a’ch melldithiant, a gweddïwch dros y rhai a’ch drygant. 29Ac i’r hwn a’th darawo ar y naill gern, cynnyg y llall hefyd; ac i’r hwn a ddygo ymaith dy gochl, na wahardd dy wisg hefyd. 30A dyro i bob un a geisio gennyt, a chan y neb a fyddo yn dwyn yr eiddot, na chais eilwaith. 31Ac fel y mynnech wneuthur o ddynion i chwi, gwnewch chwithau iddynt yr un modd. 32Ac os cerwch y rhai a’ch carant chwithau, pa ddiolch fydd i chwi? oblegyd y mae pechaduriaid hefyd yn caru y rhai a’u câr hwythau. 33Ac os gwnewch dda i’r rhai a wnant dda i chwithau, pa ddiolch fydd i chwi? oblegyd y mae y pechaduriaid hefyd yn gwneuthur yr un peth. 34Ac os rhoddwch echwyn i’r rhai yr ydych yn gobeithio y cewch chwithau ganddynt, pa ddiolch fydd i chwi? oblegyd y mae y pechaduriaid hefyd yn rhoddi echwyn i bechaduriaid, fel y derbyniont y cyffelyb. 35Eithr cerwch eich gelynion, a gwnewch dda, a rhoddwch echwyn, heb obeithio dim drachefn; a’ch gwobr a fydd mawr, a phlant fyddwch i’r Goruchaf: canys daionus yw efe i’r rhai anniolchgar a drwg. 36Byddwch gan hynny drugarogion, megis ag y mae eich Tad yn drugarog. 37Ac na fernwch, ac ni’ch bernir: na chospwch, ac ni’ch cospir: maddeuwch, a maddeuir i chwithau: 38Rhoddwch, a rhoddir i chwi: mesur da, dwysedig, ac wedi ei ysgwyd, ac yn myned trosodd, a roddant yn eich mynwes: canys a’r un mesur ag y mesuroch, y mesurir i chwi drachefn. 39Ac efe a ddywedodd ddammeg wrthynt: A ddichon y dall dywyso’r dall? oni syrthiant ill dau yn y clawdd? 40Nid yw y disgybl uwch law ei athraw: eithr pob un perffaith a fydd fel ei athraw. 41A phaham yr wyt ti yn edrych ar y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd, ac nad ydwyt yn ystyried y trawst sydd yn dy lygad dy hun? 42Neu pa fodd y gelli di ddywedyd wrth dy frawd, Fy mrawd, gâd i mi dynnu allan y brycheuyn sydd yn dy lygad, a thithau heb weled y trawst sydd yn dy lygad dy hun? O ragrithiwr, bwrw allan y trawst o’th lygad dy hun yn gyntaf; ac yna y gweli yn eglur dynnu allan y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd. 43Canys nid yw pren da yn dwyn ffrwyth drwg; na phren drwg yn dwyn ffrwyth da. 44Oblegyd pob pren a adwaenir wrth ei ffrwyth ei hun: canys nid oddi ar ddrain y casglant ffigys, nac oddi ar ddrysi yr heliant rawnwin. 45Y dyn da, o ddaionus drysor ei galon, a ddwg allan ddaioni; a’r dyn drwg, o ddrygionus drysor ei galon, a ddwg allan ddrygioni: canys o helaethrwydd y galon y mae ei enau yn llefaru. 46Paham hefyd yr ydych yn fy ngalw i, Arglwydd, Arglwydd, ac nad ydych yn gwneuthur yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd? 47Pwy bynnag a ddêl attaf fi, ac a wrendy fy ngeiriau, ac a’u gwnelo hwynt, mi a ddangosaf i chwi i bwy y mae efe yn gyffelyb. 48Cyffelyb yw i ddyn yn adeiladu tŷ, yr hwn a gloddiodd, ac a aeth yn ddwfn, ac a osododd ei sail ar y graig: a phan ddaeth llifeiriant, y llif-ddyfroedd a gurasant ar y tŷ hwnnw, ac ni allai ei siglo; canys yr oedd wedi ei seilio ar y graig. 49Ond yr hwn a wrendy, ac ni wna, cyffelyb yw i ddyn a adeiladai dŷ ar y ddaear, heb sail; ar yr hwn y curodd y llif-ddyfroedd, ac yn y fan y syrthiodd: a mawr oedd dinystr y tŷ hwnnw.

Currently Selected:

Luk 6: JJCN

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in