YouVersion Logo
Search Icon

Luk 3

3
PENNOD III.
Pregeth a bedydd Ioan: ei dystiolaeth ef am Ghrist. Herod yn carcharu Ioan. Christ, wedi ei fedyddio, yn derbyn tystiolaeth o’r nef. Oedran ac achau Christ, o Ioseph i fynu.
1YN y bymthegfed flwyddyn o ymerodraeth Tiberius Kæsar, a Pontius Pilatus yn rhaglaw Iudaia, a Herod yn llywydd Galilaia, ai frawd Philip yn llywydd Iturea a gwlad Trachonitis, a Lysanias yn llywydd Abilene, 2Dan yr arch-offeiriaid Annas a Kaiaphas, y daeth gair Duw at Ioan fab Zacharïas, yn yr anialwch. 3Ac efe a ddaeth i bob goror ynghŷlch yr Iordan, gan bregethu bedydd edifeirwch, er maddeuant pechodau; 4Fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr ymadroddion Esaias y prophwyd, yr hwn sydd yn dywedyd, Llef un yn llefain yn yr anialwch, Parattowch ffordd yr Arglwydd, gwnewch ei lwybrau ef yn uniawn. 5Pob pant a lenwir, a phob mynydd a bryn a ostyngir, a’r llefydd ceimion a wneir yn uniawn, a’r geirwon yn ffyrdd gwastad; 6A phob cnawd a wêl iachawdwriaeth Duw. 7Yna efe a ddywedodd wrth y bobl oedd yn dyfod i’w bedyddio ganddo, O genhedlaeth gwiberod, pwy a’ch rhagrybuddiodd chwi i ffoi oddi wrth y llyd a fydd? 8Dygwch gan hynny ffrwythau addas i edifeirwch; ac na ddechreuwch ddywedyd ynoch eich hunain, Y mae gennym ni Abraham yn dad: canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, y dichon Duw, o’r meini hyn godi plant i Abraham. 9Ac yr awr hon y mae’r fwyall wedi ei gosod ar wreiddyn y prennau: pob pren gan hynny a’r nid yw yn dwyn ffrwyth da, a gymmynir i lawr, ac a fwrir i’r tân. 10A’r bobloedd a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Pa beth gan hynny a wnawn ni? 11Ac efe a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Y neb sydd ganddo ddwy bais, rhodded i’r neb sydd heb yr un; a’r neb sydd ganddo fwyd, gwnaed yr un modd. 12A’r publicanod hefyd a ddaethant i’w bedyddio, ac a ofynasant wrtho, Athraw, beth a wnawn ni? 13Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na cheisiwch fwy nag sydd wedi ei osod i chwi. 14A’r milwŷr hefyd a ofynasant iddo, gan ddywedyd, A pha beth a wnawn ninnau? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na fyddwch draws wrth neb, ac na cham-achwynwch ar neb; a byddwch foddlon i’ch cyflogau. 15Ac fel yr oedd y bobl yn disgwyl, a phawb yn meddylied yn eu calonnau am Ioan, ai efe oedd y Christ; 16Ioan a attebodd, gan ddywedyd wrthynt oll, Myfi yn ddïau wyf yn eich bedyddio chwi â dwfr: ond y mae un yn fwy galluog nâ myfi yn dyfod, yr hwn nid wyf fi deilwng i ddattod carrai ei esgidiau: efe a’ch bedyddia chwi â’r Yspryd Glân, ac â thân. 17Yr hwn y mae ei wyntyll yn ei law, ac efe a lwyr-lanhâ ei lawr-dyrnu, ac a gasgl y gwenith i’w ydtŷ, ond yr us efe a lysg â thân anniffoddadwy. 18A llawer o newyddion da eraill a gynghorodd efe, ac a bregethodd i’r bobl. 19Ond Herod y llywydd, pan geryddwyd ef ganddo am Herodias gwraig Philip ei frawd, ac am yr holl ddrygioni a wnaethai Herod, 20A chwanegodd hyn hefyd heb law'r cwbl, ac a gauodd ar Ioan yn y carchar. 21A bu, pan oeddid yn bedyddio yr holl bobl, a’r Iesu yn ei fedyddio hefyd, ac yn gweddïo, agoryd y nef, 22A disgyn o’r Yspryd Glân mewn rhith corphorol, megis colommen, arno ef; a dyfod llef o’r nef yn dywedyd, Ti yw fy anwyl Fab; ynot ti y’m iawn foddlonwyd. 23A’r Iesu ei hun oedd ynghŷlch dechreu ei ddengmlwydd ar hugain oed, mab (fel y galwyd) i Ioseph fab Eli, 24Fab Matthat, fab Lefi, fab Melchi, fab Ianna, fab Ioseph, 25Fab Mattathïas, fab Amos, fab Naum, fab Esli, fab Naggai, 26Fab Maath, fab Mattathïas, fab Semes, fab Ioseph, fab Iuda, 27Fab Ioanna, fab Rhesa, fab Zorobabel, fab Salathiel, fab Neri, 28Fab Melchi, fab Adi, fab Cosam, fab Elmodam, fab Er, 29Fab Iose, fab Eliezer, fab Iorim, fab Matthat, fab Lefi, 30Fab Sumeon, fab Iuda, fab Ioseph, fab Ionan, fab Elïakim, 31Fab Melea, fab Maïnan, fab Mattatha, fab Nathan, fab Dafydd. 32Fab Iesse, fab Obed, fab Booz, fab Salmon, fab Naasson, 33Fab Aminidab, fab Aram, fab Esrom, fab Phares, fab Iuda, 34Fab Iakob, fab Isaac, fab Abraham, fab Thara, fab Nachor, 35Fab Saruch, fab Ragau, fab Phalec, fab Heber, fab Sala, 36Fab Cainan, fab Arphacsad, fab Sem, fab Noë, fab Lamech, 37Fab Mathusala, fab Enoch, fab Iared, fab Maleleel, fab Cainan, 38Fab Enos, fab Seth, fab Adam, fab Duw.

Currently Selected:

Luk 3: JJCN

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in