YouVersion Logo
Search Icon

Luk 24

24
PENNOD XXIV.
Y ddau angel yn mynegi adgyfodiad Christ i’r gwragedd oedd yn dyfod at y bedd: Christ ei hun yn ymddangos i’r ddau ddisgybl oedd yn myned i Emmaus: ac wedi hynny i’r apostolion; yn rhoddi gorchymyn iddynt: ac yn addaw yr Yspryd Glân: ac felly yn esgyn i’r nefoedd.
1A’R dydd cyntaf o’r wythnos, ar y cynddydd, hwy a ddaethant at y bedd, gan ddwyn y per-aroglau a barattoisent, a rhai gyd â hwynt. 2A hwy a gawsant y maen wedi ei dreiglo ymaith oddi wrth y bedd. 3Ac wedi iddynt fyned i mewn, ni chawsant gorph yr Arglwydd Iesu. 4A bu, a hwy yn petruso am y peth hyn, wele, dau wr a safodd yn eu hymyl mewn gwisgoedd disglair. 5Ac wedi iddynt ofni, a gostwng eu hwynebau tu a’r ddaear, hwy a ddywedasant wrthynt, Paham yr ydych yn ceisio y byw ym mysg y meirw? 6Nid yw efe yma, ond efe a gyfododd. Cofiwch pa fodd y dywedodd wrthych, ac efe etto yn Galilaia. 7Gan ddywedyd, Rhaid yw rhoi Mab y dyn yn nwylaw dynion pechadurus, a’i groes-hoelio, a’r trydydd dydd adgyfodi. 8A hwy a gofiasant ei eiriau ef: 9Ac a ddychwelasant oddi wrth y bedd, ac a fynegasant hyn oll i’r un ar ddeg, ac i’r lleill oll. 10A Maria Magdalen, a Ioanna, a Maria mam Iakob, a’r lleill gyd â hwynt, oedd y rhai a ddywedasant y pethau hyn wrth yr apostolion. 11A’u geiriau a welid yn eu golwg hwynt fel gwegi, ac ni chredasant iddynt. 12Eithr Pedr a gododd i fynu, ac a redodd at y bedd; ac wedi ymgrymmu, efe a ganfu y llieiniau wedi eu gosod o’r neilldu; ac a aeth ymaith, gan ryfeddu rhyngddo ac ef ei hun am y peth a ddarfuasai. 13Ac wele, dau o honynt oedd yn myned y dydd hwnnw i dref a’i henw Emmaus, yr hon oedd ynghylch trugain ystâd oddi wrth Ierusalem. 14Ac yr oeddynt hwy yn ymddiddan â’u gilydd am yr holl bethau hyn a ddigwyddasent. 15A bu, fel yr oeddynt yn ymddiddan, ac yn ymofyn â’u gilydd, yr Iesu ei hun hefyd a nesaodd, ac a aeth gyd â hwynt. 16Eithr eu llygaid a attaliwyd, fel na’s adwaenent 17Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa ryw ymadroddion yw y rhai hyn yr ydych yn eu bwrw at eu gilydd, dan rodio, ac yn wyneb-drist? 18Ac un o honynt, a’i enw Cleopas, gan atteb a ddywedodd wrtho, A wyt ti yr unig ymdeithydd yn Ierusalem, ac ni wybuost y pethau a wnaethpwyd ynddi hi yn y dyddiau hyn? 19Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa bethau? Hwythau a ddywedasant wrtho, Y pethau ynghŷlch Iesu o Nazaret, yr hwn oedd wr o brophwyd, galluog mewn gweithred a gair ger bron Duw a’r holl bobl; 20A’r modd y traddododd yr arch-offeiriaid a’n llywodraethwŷr ni ef i farn marwolath, ac a’i croes-hoeliasant ef. 21Ond yr oeddym ni yn gobeithio mai efe oedd yr hwn a waredai yr Israel. Ac heb law hyn oll, heddyw yw y trydydd dydd er pan wnaethpwyd y pethau hyn. 22A hefyd rhai gwragedd o honom ni a’n dychrynasant gwedi iddynt fod yn foreu wrth y bedd: 23A phan na chawsant ei gorph ef, hwy a ddaethant, gan ddywedyd, weled o honynt weledigaeth o angylion, y rhai a ddywedent ei fod ef yn fyw. 24A rhai o’r rhai oedd gyd â nyni a aethant at y bedd, ac a gawsant felly, fel y dywedasai y gwragedd: ond ni’s gwelsant ef. 25Ac efe a ddywedodd wrthynt, O ynfydion, a hwyrfrydig o galon i gredu yr holl bethau a ddywedodd y prophwydi! 26Onid oedd raid i Ghrist ddioddef y pethau hyn, a myned i mewn i’w ogoniant? 27A chan ddechreu ar Moses, a’r holl brophwydi, efe a esponiodd iddynt yn yr holl ysgrythyrau y pethau am dano ei hun. 28Ac yr oeddynt yn nesâu i’r dref lle yr oeddynt yn myned: ac yntau a gymmerth arno ei fod yn myned ym mhellach. 29A hwy a’i cymhellasant ef, gan ddywedyd, Aros gyd â ni: canys y mae hi yn hwyrhâu, a’r dydd yn darfod. Ac efe a aeth i mewn i aros gyd a hwynt. 30A darfu, ac efe yn eistedd gyd â hwynt, efe a gymmerodd fara, ac a’i bendithiodd, ac a’i torrodd, ac a’i rhoddes iddynt. 31A’u llygaid hwynt a agorwyd, a hwy a’i hadnabuant ef: ac efe a ddiflannodd allan o’u golwg hwynt. 32A hwy a ddywedasant wrth eu gilydd, Onid oedd ein calon ni yn llosgi ynom tra yr ydoedd efe yn ymddiddan â ni ar y ffordd, a thra yr ydoedd efe yn agoryd i ni yr ysgrythyrau? 33A hwy a godasant yr awr honno, ac a ddychwelasant i Ierusalem, ac a gawsant yr un ar ddeg wedi ymgasglu ynghŷd, a’r sawl oedd gyd a hwynt, 34Yn dywedyd, Yr Arglwydd a gyfododd yn wir, ac a ymddangosodd i Simon. 35A hwythau a adroddasant y pethau a wnaethesid ar y ffordd, a pha fodd yr adnabuwyd ef ganddynt wrth dorriad y bara. 36Ac a hwy yn dywedyd y pethau hyn, yr Iesu ei hun a safodd yn eu canol hwynt, ac a ddywedodd wrthynt, Tangnefedd i chwi. 37Hwythau, wedi brawychu ac ofni, a dybiasant weled o honynt yspryd. 38Ac efe a ddywedodd wrthynt, Paham y’ch trallodir? a phaham y mae meddyliau yn codi yn eich calonnau? 39Edrychwch fy nwylaw a’m traed, mai myfi fy hun ydyw. Teimlwch fi, a gwelwch: canys nid oes gan yspryd gnawd ac esgyrn, fel y gwelwch fod gennyf fi. 40Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ddangosodd iddynt ei ddwylaw a’i draed. 41Ac a hwy etto heb gredu gan lawenydd, ac yn rhyfeddu, efe a ddywedodd wrthynt, A oes gennych chwi yma ddim bwyd? 42A hwy a roisant iddo ddarn o bysgodyn wedi ei rostio, ac o ddil mel. 43Yntau a’i cymmerodd, ac a’i bwyttaodd yn eu gŵydd hwynt. 44Ac efe a ddywedodd wrthynt, Dyma’r geiriau a ddywedais i wrthych, pan oeddwn etto gyd â chwi, bod yn rhaid cyflawni pob peth a ysgrifenwyd ynghyfraith Moses, a’r prophwydi, a’r psalmau, am danaf fi. 45Yna yr agorodd efe eu deall hwynt, fel y deallent yr ysgrythyrau. 46Ac efe a ddywedodd wrthynt, Felly yr ysgrifenwyd, ac felly yr oedd raid i Ghrist ddioddef, a chyfodi o feirw y trydydd dydd: 47A phregethu edifeirwch a maddeuant pechodau yn ei enw ef ym mhlith yr holl genhedloedd, gan ddechreu yn Ierusalem. 48Ac yr ydych chwi yn dystion o’r pethau hyn. 49Ac wele, yr ydwyf fi yn anfon addewid fy Nhad arnoch: eithr arhoswch chwi yn ninas Ierusalem, hyd oni wisger chwi â nerth o’r uchelder. 50Ac efe a’u dug hwynt allan hyd yn Bethania; ac a gododd ei ddwylaw, ac a’u bendithiodd hwynt. 51Ac fe a ddarfu, tra yr oedd efe yn eu bendithio, ymadael oddi wrthynt, ac efe a ddygwyd i fynu i’r nef. 52Ac wedi iddynt ei addoli ef, hwy a ddychwelasant i Ierusalem, gyd â llawenydd mawr. 53Ac yr oeddynt yn wastadol yn y deml, yn moli ac yn bendithio Duw. Amen.

Currently Selected:

Luk 24: JJCN

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in