YouVersion Logo
Search Icon

Luk 21

21
PENNOD XXI.
Christ yn canmol y weddw dlawd: yn rhag-fynegi dinystr y deml, a dinas Ierusalem; a’r arwyddion a fydd o flaen y dydd diweddaf: ac yn eu hannog i fod yn wyliadwrus.
1AC efe a edrychodd ac a ganfu y rhai goludog yn bwrw rhoddion i’r drysorfa. 2Ac efe a ganfu hefyd ryw wraig weddw dlawd yn bwrw yno ddwy hatling. 3Ac efe a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, i’r wraig weddw dlawd hon fwrw i mewn fwy nâ hwynt oll. 4Canys y rhai hyn oll o’r hyn oedd weddill ganddynt a fwriasant at offrymmau Duw: eithr hon o’i phrinder a fwriodd i mewn yr holl fywoliaeth a oedd ganddi. 5Ac fel yr oedd rhai yn dywedyd am y deml, ei bod hi wedi ei harddu â meini teg a rhoddion, efe a ddywedodd, 6Y pethau hyn yr ydych yn edrych arnynt, daw y dyddiau yn y rhai ni adewir maen ar faen, a’r ni’s dattodir. 7A hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Athraw, pa bryd gan hynny y bydd y pethau hyn? a pha arwydd fydd pan fo’r pethau hyn ar ddyfod? 8Ac efe a ddywedodd, Edrychwch na thwyller chwi: canys llawer a ddeuant yn fy enw i, gan ddywedyd, Myfi yw; ar amser sydd yn nesâu: nac ewch gan hynny ar eu hol hwynt. 9A phan glywoch son am ryfeloedd a therfysgoedd, na chymmerwch fraw: canys rhaid i’r pethau hyn fod yn gyntaf; ond ni ddaw y diwedd yn y man. 10Yna y dywedodd efe wrthynt, Cenhedl a gyfyd yn erbyn cenedl, a breniniaeth yn erbyn breniniaeth: 11A daear-grynfaau mawrion a fyddant yn amryw leoedd, a newyn, a heintiau, a phethau ofnadwy, ac arwyddion mawrion a fyddant o’r nef. 12Eithr o flaen hyn oll, hwy a roddant eu dwylaw arnoch, ac a’ch erlidiant, gan eich traddodi i’r synagogau, ac i garcharau, wedi eich dwyn ger bron brenhinoedd a llywodraethwŷr o achos fy enw i. 13Eithr hyn a ddigwydd i chwi yn dystiolaeth. 14Am hynny rhoddwch eich bryd ar na rag-fyfyrioch beth a atteboch. 15Canys myfi a roddaf i chwi enau a doethineb, yr hon ni’s gall eich holl wrthwynebwŷr na dywedyd yn ei herbyn, na’i gwrth-sefyll. 16A chwi a draddodir, ïe, gan rïeni, a brodyr, a cheraint, a chyfeillion; ac i rai o honoch y parant farwolaeth. 17A chas fyddwch gan bawb o herwydd fy enw i. 18Ond ni chyll gwalltyn o’ch pen chwi. 19Trwy eich amynedd y meddiennwch eich eneidiau. 20A phan weloch Ierusalem wedi ei hamgylchu gan luoedd, yna gwybyddwch fod ei hanghyfannedd-dra hi wedi nesâu. 21Yna y rhai fyddant yn Iudaia, ffoant i’r mynyddoedd; a’r rhai a fyddant yn ei chanol hi, ymadawant: a’r rhai a fyddant yn y meusydd, nac elont i mewn iddi. 22Canys dyddiau dial ydynt y rhai hyn, i gyflawni yr holl bethau a ysgrifenwyd. 23Eithr gwae y rhai beichiogion, a’r rhai yn rhoi bronnau, yn y dyddiau hynny: canys bydd angen mawr yn y tir, a digofaint ar y bobl hyn. 24A hwy a syrthiant trwy fin y cleddyf, a chaeth-gludir hwynt at bob cenhedlaeth: a Ierusalem a fydd wedi ei mathru gan y Cenhedloedd, hyd oni chyflawner amser y Cenhedloedd. 25A bydd arwyddion yn yr haul, a’r lleuad, a’r ser; ac ar y ddaear ing cenhedloedd, gan gyfyng-gyngor; a’r môr ar tonnau yn rhuo; 26A dynion yn llewygu gan ofn, a disgwyl am y pethau sydd yn dyfod ar y ddaear: oblegyd nerthoedd y nefoedd a ysgydwir. 27Ac yna y gwelant Fab y dyn yn dyfod mewn cwmmwl, gyd â gallu a gogoniant mawr. 28A phan ddechreuo y pethau hyn ddyfod, edrychwch i fynu, a chodwch eich pennau: canys y mae eich ymwared yn nesâu. 29Ac efe a ddywedodd ddammeg iddynt: Edrychwch ar y ffigysbren, a’r holl breniau; 30Pan ddeiliant hwy weithian, chwi a welwch ac a wyddoch wrthynt, fod yr haf yn agos. 31Felly, pan weloch y pethau hyn yn digwydd, gwybyddwch fod breniniaeth Duw yn agos. 32Yn wir meddaf i chwi, Nid â y genedl hon heibio, hyd oni ddêl y cwbl i ben. 33Y nef ar ddaear a ant heibio; ond fy ngeiriau i nid ant heibio. 34Ac edrychwch arnoch eich hunain, rhag i’ch calonnau un amser drymhâu trwy lythineb a meddwdod, a gofalon y bywyd hwn, a dyfod y dydd hwnnw arnoch yn ddisymmwth. 35Canys efe a ddaw fel magl, ar warthaf pawb oll a’r sydd yn trigo ar wyneb yr holl ddaear. 36Gwyliwch gan hynny a gweddïwch bob amser, ar gael eich cyfrif yn deilwng i ddiangc rhag y pethau hyn oll sydd ar ddyfod, ac i sefyll ger bron Mab y dyn. 37A’r dydd yr ydoedd efe yn athrawiaethu yn y deml; a’r nos yr oedd efe yn myned ac yn aros yn y mynydd a elwid yr Olewŷdd. 38A’r holl bobl a foreu-gyrchent atto ef yn y deml, i’w glywed ef.

Currently Selected:

Luk 21: JJCN

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in